Valais
Un o gantonau'r Swistir yw canton Valais (VS) (Almaeneg: Wallis). Saif yn ne-orllewin y Swistir, ac mae'n ffinio ar Lyn Léman yn y gogledd. Yn y de mae'n ffinio ar yr Eidal, ac yn y gorllewin ar Ffrainc. Ei brifddinas yw Sion. Mae'n cynnwys rhan uchaf dyffryn afon Rhône, sy'n tarddu yn y canton.
Ymunodd Valais a Chonffederasiwn y Swistir yn 1815. Roedd y boblogaeth yn 2006 yn 294,608. Ffrangeg yw prif iaith y Bas-Valais, ac Almaeneg yw prif iaith yr Haut-Valais. Yn y canton i gyd, mae 62.8% yn siarad Ffrangeg fel iaith gyntaf, a 28.4% yn siarad Almaeneg fel iaith gyntaf.
Cantonau'r Swistir | |
---|---|
Cantonau | Aargau • Bern • Fribourg • Genefa • Glarus • Graubünden • Jura • Lucerne • Neuchâtel • St. Gallen • Schaffhausen • Schwyz • Solothurn• Thurgau • Ticino • Uri • Valais • Vaud • Zug • Zürich |
Hanner Cantonau | Appenzell Ausserrhoden • Appenzell Innerrhoden • Basel Ddinesig • Basel Wledig • Nidwalden • Obwalden |