Ramat David
Cibwts yng ngogledd Israel yw Ramat David (llyth. Uchelderau Dafydd).[1] Mae yn Nyffryn Jezreel ger Canolfan Awyr Ramat David, ac mae'n dod o dan awdurdodaeth Cyngor Rhanbarthol Dyffryn Jezreel. Yn 2021 roedd 542 o bobl yn byw yno.
Math | anheddiad dynol, Cibwts |
---|---|
Poblogaeth | 479 |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | UTC+2 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Jezreel Valley Regional Council |
Gwlad | Israel Palesteina |
Uwch y môr | 86 metr |
Cyfesurynnau | 32.6786°N 35.2038°E |
Hanes
golyguSefydlwyd y cibwts ym 1926. Cafodd ei enwi ar ôl David Lloyd George, Cymro, arweinydd y Blaid Ryddfrydol, a Seionydd Cristnogol a oedd yn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig pan wnaed Datganiad Balfour. Lluniodd y pensaer Almaenig-Iddewig Richard Kauffmann gynlluniau ar gyfer dyluniad Ramat David ym 1931.[2]
Yn gynnar ym 1941 glaniodd Roald Dahl (a anwyd yng Nghymru) mewn awyren RAF Hurricane yn Ramat David.[3] Disgrifiodd y plant (a oedd yn ffoaduriaid Iddewig o'r Almaen) a oedd yn byw yno bryd hynny yn ei hunangofiant Going Solo.[4]
Ar 22 Mai 1948 ymosododd awyrennau Eifftaidd ar y ganolfan awyr, gan ddifrodi a dinistrio nifer o awyrennau Llu Awyr Brenhinol Prydain.[5]
Pobl nodedig
golygu- Ze'ev Herring (1910-1988), gwleidydd a wasanaethodd fel aelod o'r Knesset ar gyfer yr Alignment rhwng 1969 a 1974
- Ruth Westheimer (ganwyd Karola Siegel, 1928; a elwir yn "Dr. Ruth") therapydd rhyw Almaeneg-Americanaidd, cyflwynydd sioe siarad, awdur, athro, goroeswr yr Holocost, a chyn-saethwr cudd gyda'r Haganah[6]
- Zvi Yanai (1935–2013), gwas sifil ac awdur.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Lungen, Paul (January 18, 2019). "Israeli Irrigation Company to Be Listed on TSX". Canadian Jewish News. Cyrchwyd April 30, 2019.
- ↑ Burmil, Shmuel; Enis, Ruth (2011). The Changing Landscape of a Utopia: The Landscape and Gardens of the Kibbutz, Past and Present. Wernersche. ISBN 9783884622841.
- ↑ Ashkenazi, Eli (July 22, 2011). "From Roald Dahl to Ezer Weizman: Historic Air Force Building at Ramat David to Be Preserved". Haaretz. Cyrchwyd April 29, 2019.
- ↑ Dahl, Roald (2012). Going Solo. Penguin UK. ISBN 9780141965338.
- ↑ Michael Napier (2018) The Royal Air Force: A Centenary of Operations p167
- ↑ The Chutzpah That Made Dr. Ruth the Real Wonder Woman Haaretz, 6 July 2019