Ray Booty
Seiclwr rasio Seisnig oedd Ray Booty. Yn 1956, daeth ef yn y person cyntaf erioed i gyflawni Treial Amser 100 milltir mewn llai na pedair awr. Adroddwyd hyn ar draws y byd, a chymhawryd hi at guro 4 munud am filltir gan redwr dwy flynedd gynt.
Gwybodaeth bersonol | |
---|---|
Enw llawn | Raymond Charles Booty |
Llysenw | Ray / The Boot |
Taldra | 6'2" |
Manylion timau | |
Disgyblaeth | Ffordd |
Rôl | Reidiwr |
Golygwyd ddiwethaf ar 10 Hydref 2007 |
Rediodd Booty fel aelof o Ericsson Wheelers CC, clwb a'i lleolwyd yn Swydd Nottingham a'r Army Cycling Union. Enillodd Bencampwriaeth Treial Amser 100 milltir pob blwyddyn rhwng 1955 a 1959.
Y 100 milltir cyntaf odan 4 awr
golyguTorodd Booty y record gystadleuaeth ym Mhencampwriaethau Cenedlaethol 1956, mewn amser o 4 awr 1 munud 52 eiliad. Y gystadleuaeth fawr nesaf oedd y treial amser 100 milltir ar Bath Road ar ddydd Llun, gŵyl y banc, 6 Awst 1956. Roedd y cwrs i'r gorllewin o Reading, Berkshire yn rhedeg rhwng Theale, Pangbourne, Wallingford, Shillingford ac Abingdon cyn dychwelyd lawr yr A4 i orffen yn ôl lle ddechreuodd. Roedd y tywydd yn llaith ond fe reidiodd Booty yn dda drwy gydol y ras. Reidiodd feic Raleigh gyda gêr sefydlog 84 modfedd i orffen mewn amser o 3 awr 58 munud 28 eiliad. Curodd y reidiwr yn yr ail safle, Stan Brittain, a oedd i droi'n reidiwr proffesiynol yn ddiweddarach, o 12 munud.
Roedd Booty wedi reidio o Nottingham i ddechrau'r ras y diwrnod cynt, pellter o gan milltir. I gydnabod ei gamp, gwobrwywyd ef â medal gan gylchgrawn Cycling a thystysgrif gan yr RTTC.
Adroddodd bapur Daily Herald hanes y record gan ddisgrifio Booty fel dyn digyffelyb.[1]
Enillodd Wobr Goffa Bidlake yn 1956. Darllenai'r dyfyniad:
Raymond Charles Booty For his superlative ride of 3 hrs. 58 mins. 28 secs. in the Bath Road Hundred of 1956, this being the first time one hundred miles had ever been ridden on a bicycle, out and home, inside four hours.[2]
Y record syth allan
golyguYn mis Medi, ceisiodd Booty dorri record 100 milltir odan reolau'r Road Records Association (RRA). Roedd y rheolau rhain yn gadael i reidiwr reidio 100 milltir gymryd mantais o wyntoedd iw cefnau a disgyniad lawr allt (roedd treialon amser yn gorfod bod ar gyrsiau allac ac yn ôl i ddileu unrhyw fanteision tebyg), cyflawnodd hyn mewn 3 awr 28 munud 40 eiliad. Ar gyfer hyn, defnyddiodd gêr both Sturmey-Archer. Safodd y record am 34 mlynedd, curwyd hi gan Ian Cammish.
Rhagor o lwythiant mewn Treialon Amser
golyguEnillodd Booty gystadleuaeth British Best All-Rounder dair gwaith yn olynol rhwng 1955 a 1957. Ef oedd pencampwr 100 milltir rhwng 1955 a 1959, a phencampwr 12 awr rhwng 1954 a 1958.
Torodd record gystadleuaeth 100 milltir am y tro cyntaf yn 1955, gyda amser o 4:04:30. Torodd hi dair gwaith i gyd. Torodd record 12 awr ddwywaith: 265.66 milltir yn 1956 a 266.00 milltir y flwyddyn canlynol.
Rasio Ffordd
golyguEnillodd Booty ras Rhyngwladol Ynys Manaw yn 1954. Enillodd y fedal aur yn Ras Ffordd Gemau'r Gymanwlad yng Nghaerydd yn 1958. Enillodd fedal efydd ym Mhencampwriaethau Cenedlaethol Ras Ffordd Prydain yr un flwyddyn.
Dolenni Allanol
golygu- (Saesneg) Erthygl am feic Booty ar classiclighteweights.co.uk Archifwyd 2007-09-16 yn y Peiriant Wayback
- (Saesneg) Lluniau o'r beic a ddefnyddwyd ar gyfer y record 100 milltir wedi ei adnewyddu Archifwyd 2007-10-27 yn y Peiriant Wayback
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Woodland, L. (2005), This Island Race, Mousehold Press, ISBN 1-874739-36-6, p. 130
- ↑ http://www.bidlakememorial.org.uk/Recipients.htm