Gareth Bale

pêl-droediwr Cymreig

Cyn bêl-droediwr proffesiynol o Gymro yw Gareth Frank Bale (ganwyd 16 Gorffennaf 1989). Fe'i ystyrir yn un o asgellwyr gorau ei genhedlaeth ac un o'r chwaraewyr Cymreig gorau erioed.[1][2][3][4][5]

Gareth Bale
MBE

Bale gyda tim Cymru yng Nghwpan y Byd Pêl-droed 2022
Gwybodaeth Bersonol
Dyddiad geni (1989-07-16) 16 Gorffennaf 1989 (34 oed)
Man geniCaerdydd
Taldra1.86
SafleAsgellwr
Gyrfa Ieuenctid
Gwasanaeth Sifil Caerdydd
1999–2006Southampton
Gyrfa Lawn*
BlwyddynTîmYmdd(Gôl)
2006–2007Southampton40(5)
2007–2013Tottenham Hotspur146(42)
2013–2022Real Madrid176(81)
2020–2021Tottenham Hotspur (ar fenthyg)20(11)
2022Los Angeles FC12(2)
Cyfanswm394(141)
Tîm Cenedlaethol
2005–2006Cymru dan 177(1)
2006Cymru dan 191(1)
2006–2008Cymru dan 214(2)
2006–2022Cymru111(41)
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd..
† Ymddangosiadau (Goliau).

Gyrfa clwb golygu

Southampton golygu

Dechreuodd Bale ei yrfa broffesiynol gyda Southampton fel cefnwr chwith ac ar 17 Ebrill 2006, daeth yr ail ieuengaf erioed i chwarae dros y clwb wrth wneud ei ymddangosiad cyntaf yn erbyn Millwall pan yn 16 mlwydd a 275 diwrnod oed. Ar 6 Awst sgoriodd Bale ei gôl gynghrair gyntaf i'r clwb yn erbyn Derby County.[6]

Tottenham Hotspur golygu

Symudodd i Tottenham Hotspur yn 2007 am ffi o £7 miliwn. Yn ystod ei gyfnod gyda Spurs, cafodd ei ddefnyddio'n fwy fwy fel chwaraewr ymosodol gan symud i chwarae yng nghanol y cae. Cafodd ei urddo'n Chwaraewr y Flwyddyn gan y PFA yn 2011 ac yn 2013 enillodd Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn y PFA, Chwaraewr y Flwyddyn y PFA a Chwaraewr y Flwyddyn yr FAW. Cafodd ei gynnwys yn Nhîm y Flwyddyn UEFA yn 2011 a 2013.

Real Madrid golygu

Ar 1 Medi 2013, ymunodd â Real Madrid yn Sbaen am ffi na chafodd ei ddatgelu. Yn ôl adroddiadau yn y wasg yn Sbaen ac ar orsaf deledu Real Madrid TV, roedd y ffi yn £77 miliwn (€91 miliwn), tra bo'r wasg ym Mhrydain yn awgrymu bod y ffi yn record byd newydd o £85.3 miliwn (€100 miliwn).[7]

Ar 16 Ebrill, sgoriodd Bale y gôl fuddugol wrth i Real Madrid drechu Barcelona yn rownd derfynol y Copa del Rey.[8] Hon oedd 20fed gôl y tymor i Bale, a'r gyntaf mewn gornest El Clásico.[9]

Ar 24 Mai 2014, sgoriodd Bale ei ail gôl yn erbyn Atlético Madrid yn rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA yn y 110fed munud o amser ychwanegol - ef yw'r Cymro cyntaf i sgorio yn rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA. Gorffennodd ei dymor cyntaf gyda Real Madrid gyda 22 gôl a 16 cynorthwy ym mhob cystadleuaeth.[10]

Ar 30 Hydref 2016, cadarnhawyd fod Gareth Bale wedi arwyddo cytundeb newydd i barhau i chwarae gyda Real Madrid hyd nes 2022.[11]

Yn ystod ei yrfa gyda Real Madrid helpodd y clwb i ennill Cynghrair y Pencampwyr UEFA bedair gwaith, yn 2014, 2016, 2017 a 2018. Yn nhymor 2016-17, er iddo gael anafiadau, roedd yn rhan o fuddugoliaeth y clwb yn La Liga.

Roedd 2019-2020 yn gyfnod rhwystredig iddo yn y clwb ar ôl gorfod eistedd ar y fainc am gyfnodau hir. Ar 19 Medi 2020, cyhoeddwyd ei fod wedi dychwelyd i glwb Tottenham Hotspur ar fenthyg am flwyddyn.[12]

Gyrfa ryngwladol golygu

Fideo o Gareth Bale yn 2016

Gwnaeth Bale ei ymddangosiad cyntaf i Gymru mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Trinidad a Tobago ar 27 Mai 2006[13] gan ddod y chwaraewr ieuengaf erioed i chwarae dros Gymru hyd nes i Harry Wilson dorri'r record yn Nhachwedd 2012.[14]. Roedd Bale yn 16 mlwydd a 315 diwrnod.

Ar 12 Mehefin 2015, sgoriodd Bale unig gôl y gêm ar achlysur ei 50fed cap wrth i Gymru drechu Gwlad Belg yn Stadiwm Dinas Caerdydd[15].

Ar 11 Mehefin 2016 sgoriodd gôl agoriadol Cymru yn erbyn Slofacia ym Mhencampwriaeth Euro 2016 - y gôl gyntaf erioed gan Gymro ym Mhencampwriaethau Ewrop. Gyda goliau yn erbyn Lloegr a Rwsia llwyddodd Bale i ddod yn brif sgoriwr Cymru ym mhrif bencampwriaethau pêl-droed y byd gan dorri record Ivor Allchurch a rwydodd ddwy gôl yng Nghwpan y Byd 1958 [16][17] Helpodd Gareth Cymru fynd i rownd gyn-derfynol yr Ewros ond collodd Cymru yn erbyn Portiwgal o ddau gôl i ddim.

Ar 22 Mawrth 2018 curodd record Ian Rush am y nifer o goliau a sgoriwyd mewn gemau rhyngwladol, drwy sgorio tair gôl yn erbyn Tsieina, gan ddod a'i gyfanswm goliau i 29.[18]

Enillodd ei ganfed cap dros Gymru ar 13 Tachwedd 2021.[19]

Chwaraeodd ran allweddol yn llwyddiant Cymru i gyrraedd Cwpan y Byd Pêl-droed 2022 am y tro cyntaf ers 1958. Yn Ionawr 2023, cyhoeddodd y byddai'n ymddeol o bêl-droed proffesiynol.[20]

Anrhydeddau golygu

Real Madrid

Gwobrau golygu

Yn 2006, casglodd Bale Wobr Carwyn James BBC Cymru ar gyfer athletwyr ifanc[21]. Enillodd prif Wobr Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn BBC Cymru yn Rhagfyr 2010[22] ac mae wedi ei enwi'n Chwaraewr y Flwyddyn gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru yn 2010, 2011, 2013, 2014, 2015 a 2016.[23][24][25][26].

Bywyd personol golygu

Cafodd Bale ei eni yng Nghaerdydd, Cymru, i'w rieni Frank, gofalwr ysgol, a Debbie, rheolwr gweithrediadau. Mae yn nai i'r cyn-bêl-droediwr, Chris Pike, a oedd yn chwarae i Ddinas Caerdydd. Tra'n tyfu i fyny, ei arwr pêl-droed oedd ei gyd-chwaraewr i Gymru, a seren Manchester United, Ryan Giggs.

Mynychodd Bale Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd. Roedd yn athletwr brwd ac yn chwarae pêl-droed ochr yn ochr â chapten rygbi Cymru yn y dyfodol, Sam Warburton, rygbi, hoci tra hefyd yn rhagori mewn athletau. [26] Fel bachgen 14-mlwydd-oed, dywedir ei fod yn gallu rhedeg y ras 100 metr mewn 11.4 eiliad. Oherwydd ei sgiliau pêl-droed, roedd yn rhaid i athro AG yr ysgol, Gwyn Morris, ysgrifennu rheolau arbennig oedd yn ei gyfyngu i chwarae pêl-droed un-cyffyrddiad a pheidio â defnyddio ei droed chwith. Tra yn yr Eglwys Newydd, hyfforddwyd Bale yn academi lloeren Southampton yng Nghaerfaddon, er bod peth amheuaeth a fyddai Southampton yn rhoi ysgoloriaeth iddo oherwydd ei daldra.

Er ei fod ar y pryd ddim ond yn 16, bu'n helpu tîm dan 18 yr ysgol i ennill Uwch Gwpan Caerdydd a'r Fro. Gadawodd yr ysgol yn haf 2005 gyda Gradd A mewn Addysg Gorfforol ymhlith ei ganlyniadau TGAU eraill. Yn ei flwyddyn olaf yn yr ysgol, dyfarnwyd iddo wobr yr adran Addysg Gorfforol ar gyfer gwasanaethau i chwaraeon.

Mae Bale yn llwyrymwrthodwr.[27]

Cyfeiriadau golygu

  1. Gareth Bale yn ymddeol o chwarae pêl-droed yn 33 oed , BBC Cymru Fyw, 9 Ionawr 2023.
  2. "'Gareth Bale probably the best left winger in the Premier League if not in Europe' - Everton's Phil Neville on the Tottenham star". Goal.com. Cyrchwyd 20 Mawrth 2022.
  3. Richards, Alex. "The 15 Best Wingers in World Football". Bleacher Report. Cyrchwyd 11 Tachwedd 2022.
  4. Potts Harmer, Alfie (25 Rhagfyr 2019). "7 Greates Right Wingers of the decade". HITC Football. Cyrchwyd 11 Tachwedd 2022.
  5. "The 5 best Welsh Football Players of all-time". The Sporting Blog. Cyrchwyd 11 Tachwedd 2022.
  6. "Derby 2 Southampton 2". BBC Sport. 2006-08-06.
  7. Gwefan Golwg360
  8. Jurejko, Jonathan (16 April 2014). "Gareth Bale helps Real Madrid beat Barcelona in Copa del Rey". BBC Sport. Cyrchwyd 17 April 2014.
  9. "Gareth Bale: Copa del Rey winner incredible, says Xabi Alonso". BBC. 16 April 2014.
  10. "Player profile - Gareth Bale". ESPN. Adalwyd 26 Mai 2014
  11. "Gareth Bale yn arwyddo cytundeb newydd â Real Madrid". BBC Cymru Fyw. 2016-10-30.
  12. “Dw i ‘nôl” – Gareth Bale yn ymuno â Spurs ar fenthyg am dymor , Golwg360, 19 Medi 2020.
  13. "Bale savours record Wales debut". BBC Sport. 2006-05-28.
  14. "Injured Bale out for three months". BBC Sport. 2007-12-10.
  15. "Bale: cefnogwyr Cymru yw'r gorau yn y byd". Golwg360. 2015-06-13.
  16. "Lloegr 2-1 Cymru". Sgorio. 2016-11-16.
  17. "Rwsia 0-3 Cymru". Sgorio. 2016-11-20.
  18. Gareth Bale a’i hatric yn Tsieina yn torri record Ian Rush , Golwg360, 22 Mawrth 2018.
  19. Ben Davies yn talu teyrnged i Gareth Bale , Golwg360, 14 Tachwedd 2021. Cyrchwyd ar 15 Tachwedd 2021.
  20. Gareth Bale wedi ymddeol o bêl-droed , Golwg360, 9 Ionawr 2023.
  21. "Calzaghe scoops BBC Wales honour". BBC Sport. 2006-12-03.
  22. "Gareth Bale wins BBC Wales Sports Personality award". BBC Sport Wales. 2010-12-06.
  23. "Bale yw chwaraewr y flwyddyn". Sgorio. 2013-10-08.
  24. "Gareth Bale Welsh player of the Year 2014". realmadrid.com. 2014-10-07.
  25. "Gareth Bale yw chwaraewr y flwyddyn". Sgorio. 2015-10-06.
  26. "Chwaraewr y Flwyddyn: Pwy ond Gareth Bale?". BBC Cymru Fyw. 2016-11-08.
  27. "Gareth Bale: Home is where the heart is for £85m star". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 20 Mehefin 2015.