Reg Thomas

rhedwr pellter canol

Roedd Reginald "Reg" Heber Thomas (11 Ionawr 190714 Mawrth 1946) yn athletwr cystadleuol o Gymru a gynrychiolodd Prydain Fawr yng Ngemau Olympaidd 1928 yn Amsterdam ac yng Ngemau Olympaidd 1932 yn Los Angeles. Llwyddodd i ennill medal aur yn y ras dros filltir a medal arian yn y ras dros 880 llath yng Ngemau Ymerodraeth Prydain 1930 yn Hamilton, Canada ond gan na chafodd Gymru wahoddiad i yrru tîm athletau i oherwydd diffyd corff athletau cenedlaethol ar y pryd, bu rhaid iddo gystadlu fel aelod o dîm Lloegr.[2]

Reginald Thomas
Gwybodaeth bersonol
Ganwyd(1907-01-11)11 Ionawr 1907[1]
Penfro, Cymru
Bu farw (1946-03-14) 14 Mawrth 1946 (78 oed)
Brownshill, Lloegr
Camp
GwladCymru
ChwaraeonAthletau
Camp1500m
ClwbRoyal Air Force
Milocarian Athletic Club
Newport Harriers
Diweddarwyd 20 Ebrill 2018.

Ym 1931 llwyddodd i dorri record y Deyrnas Unedig ar gyfer y ras dros filltir wrth orffen ag amser o 4 munud 13.4 eiliad. Llwyddodd hefyd i ennill pencampwriaeth y Gymdeithas Athletau Amaturaidd dair gwaith ym 1930, 1931 a 1933, gan hefyd ennill pencampwriaeth Cymru dros yr un pellter wyth o weithiau rhwng 1929 a 1936.[1]

Llwyddodd i ennill fest Cymru ym 1939 wrth orffen yn c hweched ym Mhencampwriaethau Traws Gwlad Cymru a sicrhau ei le i gynrychioli Cymru ym Mhencampwriaethau Traws Gwlad Rhyngwladol yn Nhrelái, Caerdydd. Gorffennodd yn 44in.[2]

Ymunodd â'r Awyrlu Brenhinol ym 1940 a chafodd ei urddo â Chroes yr Awyrlu ar 8 Mehefin, 1944.[3]. Ym 1946 bu farw wedi damwain wrth i'r awyren roedd yn ei hedfan daro cartref preswyl yn Swydd Rydychen. Cafodd ei gladdu ym Mynwent Haycombe yng Nghaerfaddon[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "Valerie Davies". Olympedia.org.
  2. 2.0 2.1 "Welsh Sports Hall Of Fame, Reg Thomas". Welsh Sports Hall Of fame. Cyrchwyd 30 January 2022.
  3. "London Gazette". 8 Mehefin 1944. t. 2648.
  4. "Commonwealth 43825 Squadron Leader Reginald Heber Thomas". War Graves Commission.