Gemau Ymerodraeth Prydain 1930
Gemau Ymerodraeth Prydain 1930 oedd y cyntaf o'r hyn sydd bellach yn cael ei adnabod fel Gemau'r Gymanwlad. Fe'i cynhaliwyd yn Hamilton, Ontario, Canada rhwng Awst 16–23, 1930.
Enghraifft o'r canlynol | digwyddiad aml-chwaraeon |
---|---|
Dyddiad | 1930 |
Dechreuwyd | 16 Awst 1930 |
Daeth i ben | 23 Awst 1930 |
Cyfres | Gemau'r Gymanwlad |
Olynwyd gan | Gemau'r Gymanwlad |
Lleoliad | Hamilton |
Yn cynnwys | rowing at the 1930 British Empire Games |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Gemau 1af Ymerodraeth Prydain | |||
---|---|---|---|
Campau | 59 | ||
Seremoni agoriadol | 16 Awst | ||
Seremoni cau | 23 Awst | ||
|
Hanes
golyguYn dilyn cyfarfod ymysg athletwyr a swyddogion gwledydd yr Ymerodraeth Brydeinig yng Ngemau Olympaidd 1928 yn Amsterdam penderfynwyd sefydlu gemau rhwng gwledydd yr Ymerodraeth Brydeinig. Canada gafodd ei dewis i gynnal y Gemau agoriadol fel y wlad fuddugol yn Nhlws Londsdale; cystadleuaeth a drefnwyd i ddathlu coroni Brenin Sior V ym 1911.
Gordon Smallacombe, athletwr o Ganada, enillodd y fedal aur cyntaf erioed yn y naid driphlyg.[1]
Chwaraeon
golyguTimau yn cystadlu
golyguCafwyd 11 tîm yn cystadlu yng Ngemau'r Ymerodraeth Brydeinig, 1930
Tabl Medalau
golyguSafle | Cenedl | Aur | Arian | Efydd | Cyfanswm |
---|---|---|---|---|---|
1 | Lloegr | 25 | 22 | 13 | 60 |
2 | Canada | 20 | 16 | 18 | 54 |
3 | De Affrica | 6 | 4 | 8 | 18 |
4 | Seland Newydd | 3 | 4 | 2 | 9 |
5 | Awstralia | 3 | 4 | 1 | 8 |
6 | Yr Alban | 2 | 3 | 5 | 10 |
7 | Cymru | 0 | 2 | 1 | 3 |
8 | Gaiana Brydeinig | 0 | 1 | 1 | 2 |
9 | Iwerddon | 0 | 1 | 0 | 1 |
Cyfanswm | 59 | 57 | 49 | 165 |
Medalau'r Cymry
golyguDim ond dau aelod oedd yn nhîm Cymru ar gyfer y Gemau yn Hamilton gyda'r medalau i gyd yn dod gan y nofwraig Valerie Davies. Ni chafodd Gymru wahoddiad i yrru tîm athletau i Hamilton gan nad oedd gan Gymru gorff athletau cenedlaethol ar y pryd, ond llwyddodd y Cymro, Reg Thomas i ennill medal aur tra'n gwisgo fest Lloegr.[2] Yn yr un modd, enillodd Albert Love o Gaerdydd fedal efydd yn y sgwâr bocsio tra'n cynrychioli Lloegr oherwydd diffyg tîm bocsio Cymreig.[3]
Medal | Enw | Cystadleuaeth | |
---|---|---|---|
Arian | Valerie Davies | Nofio | 400llath dull rhydd |
Arian | Valerie Davies | Nofio | 100llath dull rhydd |
Efydd | Valerie Davies | Nofio | 100llath ar ei chefn |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Jamie Bradburn (21 July 2015). "The British Empire Games of 1930". Torontoist.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-08-31. Cyrchwyd 30 August 2017.
- ↑ "Welsh Sports Hall Of Fame, Reg Thomas". Welsh Sports Hall Of fame. Cyrchwyd 30 January 2022.
- ↑ "Hanes Gemau'r Gymanwlad, 1930: Hamilton, Canada". bbc.co.uk/chwaraeon. Cyrchwyd 30 August 2006.
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Gwefan swyddogol Gemau'r Gymanwlad Archifwyd 2008-07-23 yn y Peiriant Wayback
- (Saesneg) Cyngor Gemau Gymanwlad Cymru
Rhagflaenydd: Cyntaf |
Gemau'r Gymanwlad Lleoliad y Gemau |
Olynydd: Llundain |