René Goscinny

cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd a sgriptiwr ffilm a aned ym Mharis yn 1926

Awdur, golygydd a digrifwr Ffrengig oedd René Goscinny (14 Awst 19265 Tachwedd 1977), a oedd yn fwyaf enwog am ei waith yn llyfrau comig Astérix, a greodd ynghyd â'r darlunydd Albert Uderzo, ac am ei waith yn rhifynnau cynnar cyfres comig Lucky Luke gyda Morris.

René Goscinny
GanwydRené Goscinny Edit this on Wikidata
14 Awst 1926 Edit this on Wikidata
5ed arrondissement, Paris Edit this on Wikidata
Bu farw5 Tachwedd 1977 Edit this on Wikidata
o trawiad ar y galon Edit this on Wikidata
17fed arrondissement Paris Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Galwedigaethgolygydd, cyfarwyddwr ffilm, cartwnydd, cynhyrchydd ffilm, sgriptiwr, awdur plant, digrifwr, prif olygydd Edit this on Wikidata
Swyddprif olygydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Pilote
  • Spirou
  • Sud-Ouest Edit this on Wikidata
Adnabyddus amAsterix, Lucky Luke, Le Petit Nicolas Edit this on Wikidata
TadStanislaus Goscinny Edit this on Wikidata
MamAnna Goscinny Edit this on Wikidata
PlantAnne Goscinny Edit this on Wikidata
Gwobr/au‎chevalier des Arts et des Lettres, Will Eisner Hall of Fame, Alphonse Allais Award, Marchog Urdd Teilyngdod Cenedlaethol, Adamson Awards Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar golygu

Ganwyd Goscinny ym Mharis yn 1926, i deulu Pwylaidd-Wcrainaidd o dras Iddewig;[1] Stanisław "Simkha" Gościnny oedd ei dad (mae'r cyfenw yn golygu croesawus yn Bwyleg), peiriannwr cemegol o Warsaw, Gwlad Pŵyl, ac Anna Bereśniak-Gościnna o Chodorków, pentref bychain yn ail weriniaeth Gwlad Pŵyl (Wcrain erbyn hyn), oedd ei fam. Ganwyd ei frawd hŷn, Claude, chwe mlynedd ynghynt; ar 10 Rhagfyr 1920. Roedd Stanisław ac Anna wedi cwfwr ym Mharis ac wedi priodi ym 1919. Symudodd y teulu Gościnny i Buenos Aires, Yr Ariannyn, dyflwydd wedi geni René, oherwydd fod Stanisław wedi cael swydd newydd fel peiriannwr cemegol yno. Fe wariodd blentyndod hapus yn Buenos Aires, ac fe astudiodd Ffrangeg yn yr ysgol yno. Roedd yn duedd i wneud i bawb chwerthin yn y dosbarth, mae'n debygol yr oedd hyn er mwyn cuddio ei swildod naturiol. Fe ddechreuodd ddarlunio'n gynnar, cafodd ei ysbrydoli wrth ddarllen y straeon wedi eu darlunio a oedd yn eu mwynhau.

Ym mis Rhagfyr 1943, ar ôl graddio o'r ysgol yn 17 oed, bu farw ei dad o hemorrhage ymenyddol, gan ei orfodi i ganfod swydd. Fe ddechreuodd ei swydd gyntaf blwyddyn yn ddiweddarach fel cynorthwydd cyfrifydd mewn ffatri adfer teiars, a phan wnaethpwyd ef yn ddi-waith y flwyddyn canlynol fe ddaeth yn is-ddarlunydd mewn asiantaeth hysbysebu.[2]

Fe adawodd Goscinny yr Ariannin ynghyd â'i fam, gan symud i Efrog Newydd yn 1945, i ymuno â'i ewythr, Boris, yno. Fe deithiodd i Ffrainc er mwyn osgoi gorfod gwasanaethu ym myddin yr Unol Daleithiau. Fe ymunodd â'r fyddin Ffrengig yn 1946. Gwasanaethodd yn Aubagne, ym mataliwn 141 y gwŷr traed Alpaidd. Fe ddyrchafwyd ef yn uwch-corporal, ac apwyntiwyd ef yn ddarlunydd y catrawd a darluniodd lluniau a phosteri ar gyfer y fyddin.

Bu farw Goscinny ym Mharis o drawiad i'r galon ar 5 Tachwedd 1977, yn 51 oed.

Ers 1996, cyflwynir Gwobr René Goscinny yn flynyddol yn ystod y Angoulême International Comics Festival yn Ffrainc er mwyn ysgogi cartwnyddion ifanc.

Teulu golygu

Priododd Goscinny a Gilberte Pollaro-Millo yn 1967. Ganwyd eu merch Anne Goscinny yn 1968, mae hi eisoes yn awdures.

Llyfryddiaeth golygu

Cyfres Blynyddoedd Cylchgrawn Albymau Golygydd Darlunydd
Lucky Luke 1955 - 1977 Spirou a Pilote 38 Dupuis and Dargaud Morris
Modeste et Pompon 1955 - 1958 Tintin 2 Lombard André Franquin
Prudence Petitpas 1957 - 1959 Tintin Lombard Maurice Maréchal
Signor Spaghetti 1957 - 1965 Tintin 15 Lombard Dino Attanasio
Oumpah-pah 1958 - 1962 Tintin 3 Lombard Albert Uderzo
Strapontin 1958 - 1964 Tintin 4 Lombard Berck
Astérix 1959 - 1977 Pilote 24 Dargaud Albert Uderzo
Le Petit Nicolas 1959 - 1965 Pilote 5 Denoël Sempé
Iznogoud 1962 - 1977 Record and Pilote 14 Dargaud Jean Tabary
Les Dingodossiers 1965 - 1967 Pilote 3 Dargaud Gotlib

Gwobrau golygu

Yn ôl y wybodaeth sydd ar gael yn Index Translationum UNESCO, Goscinny yw'r 22il awdur i gael ei gyfieithu fwyaf, hyd Ebrill 2008, gyda 1,800 o gyfieithiadau o'i waith.[3] (Ond nid yw hyn yn cynnwys unrhyw o'i waith a grewyd dan ffugenwau.)

Ffynonellau golygu

  1. (Ffrangeg) Uderzo, le dernier Gaulois. Le Nouvel Observateur.
  2.  Lambiek Comiclopedia. René Goscinny.
  3. "Index Translationum top 50". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-02-28. Cyrchwyd 2008-10-17.

Dolenni allanol golygu