Rhedwyr (teulu o adar)
teulu o adar
Rhedwyr Burhinidae Amrediad amseryddol: Oligosen - presennol | |
---|---|
Rhedwr Awstralia, Burhinus grallarius | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Charadriiformes |
Teulu: | Burhinidae Mathews, 1912 |
Genera | |
Grŵp o adar ydy'r Rhedwyr a elwir hefyd yn 'deulu' (enw gwyddonol neu Ladin: Burhinidae; Saesneg: stone-curlews).[1] Mae'r teulu hwn o adar o fewn yr urdd Charadriiformes.[2][3]
Ceir naw rhywogaeth oddi fewn i deulu'r Rhedwyr (neu Burhinidae), ac maent i'w canfod ar hyd a lled ardaloedd trfofannol a chynnes, gyda dwy rywogaeth yn Awstralia. Er y caiff y teulu ei adnabod fel 'rhydwyr' (waders), cynefinoedd sych neu led-sych yw eu dewis, fel arfer.
O ran maint, maen nhw'n ganolig - mawr, gyda phigau cryf melyn-du neu ddu a llygaid mawr melyn, a wna iddynt edrych yn debyg i ymlusgiad.
Rhestr Wicidata:
teulu | enw tacson | delwedd |
---|---|---|
Rhedwr Awstralia | Burhinus grallarius | |
Rhedwr Senegal | Burhinus senegalensis | |
Rhedwr brych | Burhinus capensis | |
Rhedwr mawr y moelydd | Esacus recurvirostris | |
Rhedwr rhesog | Burhinus bistriatus | |
Rhedwr y dŵr | Burhinus vermiculatus | |
Rhedwr y moelydd | Burhinus oedicnemus | |
Rhedwr y traeth | Esacus magnirostris | |
Rhedwr yr Andes | Burhinus superciliaris |
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Bywiadur Llên Natur / Cymdeithas Edward Llwyd; adalwyd 3 Mehefin 2016
- ↑ del Hoyo, J.; Elliot, A. & Christie D. (gol.). (2007). Handbook of the Birds of the World. ISBN 978-84-96553-42-2
- ↑ ICZN 1999. International Code of Zoological Nomenclature. 4ydd rhifyn. The International Trust for Zoological Nomenclature, Llundain. 306 tt.