Rheilffordd ysgafn Swydd Amwythig a Sir Drefaldwyn
Gorweddai Rheilffordd ysgafn Swydd Amwythig a Sir Drefaldwyn, fel yr awgryma'r enw, o'r Amwythig i Lanymynech, Sir Drefaldwyn, efo cangen yn mynd i Grugion.
Math o gyfrwng | llinell rheilffordd, cwmni rheilffordd |
---|---|
Daeth i ben | 1960 |
Dechrau/Sefydlu | 1911 |
Olynydd | British Rail |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Rheilffordd ysgafn Swydd Amwythig a Sir Drefaldwyn Shropshire & Montgomeryshire Light Railway | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|
Agorwyd y lein, 18 milltir o hyd, o led safonol, ar 16 Awst, 1866. Roedd hi'n rhan o reilffordd arfaethedig, Reilffordd y Potteries, Amwythig a Gogledd Cymru, ac adnabuwyd y lein yn lleol fel 'The Potts'. Caewyd y lein ar 21 Rhagfyr 1866 oherwydd problemau ariannol. Ailagorwyd y lein rhwng Amwythig a Llanymynech yn Rhagfyr 1868, i Lanyblodwel yn Ebrill 1870, ac y cangen i Grugion ym Mehefin 1871. Caewyd y lein ar 22 Mehefin 1880.
Ffurfiwyd cwmni Rheilffyrdd Swydd Amwythig ym 1888, efo bwriad o estyn y lein i'r 'Potteries' ac yn bellach yng Nghymru; dechreuwyd ailosod cledrau ym 1891. Ond digwyddodd dim byd arall. Ond yn 1906 cyfarfu'r perchennog, J.H. Whadcoat, Cyrnol Holman Fred Stephens. Ffurfiodd y cyrnol Rheilffordd Gogledd Swydd Amwythig; newidiwyd ei enw i Reilffordd Ysgafn Swydd Amwythig a Sir Drefaldwyn, a llogwyd eiddo Rheilffordd Swydd Amwythig ganddo.
Pasiwyd Gorchymyn Rheilffordd Ysgafn yn Chwefror 1909, a chliriwyd a thrwsiwyd y cledrau. Symudwyd y gweithdy locomotifau o'r Amwythig i Kinnerley. Gwrthodwyd cysylltiad ag orsaf reilffordd Amwythig, felly crewyd safle cyfnewid ym Moel Brace. Gwrthodwyd hawl i gyrraedd chwareli Nantmawr gan Reilffordd y Cambrian; oedd hynny'n golled mawr i'r rheilffordd. Ailadeiladwyd cangen Crigion, ag ailagorwyd ar 21 Chwefror 1912 ac i deithwyr ar 27 Gorffennaf. Ailagorwyd y brif lein yn swyddogol ar 13 Ebrill 1911 efo seremoni yng ngorsaf reilffordd Abaty Amwythig (Saesneg: Abbey Foregate).
Archebodd Stephens 2 locomotif tanc 0-6-2 efo'r enwau "Pyramus" a "Thisbe", ond doedden nhw ddim yn llwyddiannus. Ar ôl sawl locomotif arall, prynodd y Cyrnol locomotif 0-6-0 Cwmni Beyer Peacock efo'r enw "Hesperus" ac yna dau arall o'r un dosbarth, a ailfedyddiwyd yn 'Pyramus' a 'Thisbe'.
Dioddefodd y rheilffordd pan gyrhaeddodd gwasanaethau bysiau ar ôl y rhyfel byd cyntaf, a chaewyd y gangen i deithwyr ym 1929. Defnyddiwyd Railmotor Ford ar y brif lein yn hytrach na trenau stêm, ond caewyd y rheilffordd i deithwyr ar 6 Tachwedd 1933.
Ailagorwyd y lein fel un filwrol yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Crewyd sawl storfa arfau rhwng Llanymynech a'r Amwythig a llogwyd y lein i'r Adran Rhyfel o 1 Mehefin 1941, ond yn ddefnyddio gweithwyr y cwmni rheilffordd, a daeth y rheilffordd yn brysur iawn. Adeiladwyd safle cyfnewid newydd yn Hookagate. Parhaodd y prysurdeb ar ôl y rhyfel. Daeth y rheilffordd yn rhan o Reilffyrdd Prydeinig ym 1948.
Daeth defnydd o'r safleoedd milwrol yn llai efo colled yr ymerodraeth yn y 50au a chaewyd y lein yn gyfan gwbl ym 1960.[1].