Gorsaf reilffordd Amwythig

Gorsaf reilffordd yn Amwythig, Lloegr

Mae gorsaf reilffordd Amwythig (Saesneg: Shrewsbury railway station) (a elwid gynt yn Amwythig Cyffredinol) yn orsaf reilffordd sydd yn gwasanaethu Amwythig, tref sirol Swydd Amwythig, Lloegr. Hon yw'r unig orsaf reilffordd ar ôl yn y dref; mae Gorsaf Abaty Amwythig, yn ogystal â gorsafoedd bychain eraill o amgylch y dref, wedi cau beth amser yn ôl. Cynlluniwyd yr orsaf gan T M Penson a chafodd yr orsaf ei hadeiladu ym 1848 ac mae wedi cael ei hymestyn sawl gwaith ers hynny[1]. Cafodd ei dynodi'n adeilad rhestredig gradd II yn 1969.

Gorsaf reilffordd Amwythig
Mathgorsaf reilffordd Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol1848 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadAmwythig Edit this on Wikidata
SirAmwythig Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau52.7115°N 2.7502°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ494129 Edit this on Wikidata
Rheilffordd
Côd yr orsafSHR Edit this on Wikidata
Rheolir ganTrenau Arriva Cymru, KeolisAmey Cymru Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II Edit this on Wikidata
Manylion

Hi oedd yr unig le lle ceid gwasanaeth trên uniongyrchol o dde-ddwyrain,, de-orllewin, canolbarth a Gogledd Cymru.

Hanes ei rheilffyrdd golygu

Agorwyd Rheilffordd Amwythig, Croesoswallt a Chaer ym mis Hydref, 1848. Doedd ddim cysylltiad â Chroesoswallt oherwydd problemau efo tirfeddianwyr. Yn hwyrach, aeth trenau trwy Amwythig ar eu ffordd rhwng Gorsaf Paddington Llundain a Phenbedw. Erbyn hyn, mae trenau'n mynd trwodd ar eu ffordd rhwng Gorsaf reilffordd Euston a Chaergybi.

Ym 1949, agorwyd lein i Wellington, adeiladwyd ar y cyd rhwng Rheilffordd Amwythig a Birmingham a Cwmni Rheilffordd a Chamlas Undeb Amwythig, perchnogion Camlas Ellesmere. Wedyn agorwyd lein gan gwmni Undeb Amwythig rhwng Wellington a Stafford, efo cysylltiad â Llundain, a lein arall gan Reilffordd Amwythig a Birmingham hyd at Wolverhampton. Dechreuwyd eu gwasanaeth o Wolverhampton i Birmingham ar lein Rheilffordd y Great Western ym 1854, daeth Rheilffordd Amwythig, Croesoswallt a Chaer a Rheilffordd Amwythig, Croesoswallt a Chaer yn rhan o Reilffordd y Great Western. Agorwyd o Amwythig i Gryw gan Reilffordd Llundain a'r Gogledd Orllewin ym 1858. Erbyn Hyn mae trenau'n mynd ymlaen at Fanceinion.

Adeiladwyd Rheilffordd Amwythig a Henffordd gan gwmni Thomas Brassey hyd at Lwydlo ym 1850, a hyd at Henffordd erbyn 1853. Erbyn hyn, mae trenau'n mynd trwodd i Gaerdydd ac Aberdaugleddau.

Adeiladwyd rheilffordd rhwng Amwythig a Hartlebury gan Thomas Brassey, ac agorwyd y lein ar 31 Ionawr 1862. Agorwyd lein rhwng Y Trallwng ac Amwythig ym 1862. Yn hwyrach, adeiladwyd leiniau eraill gan sawl cwmni bach, sydd wedi uno i fod Rheilffyrdd Cambrian, gan gynnwys leiniau trwodd i Aberystwyth a Pwllheli.

Agorwyd lein rhwng Craven Arms (ar Reilffordd Amwythig a Henffordd) a Llanelli gan Reilffordd Llundain a'r Gogledd Orllewin; dyma Reilffordd Calon Cymru heddiw, sydd yn mynd hyd at Amwythig yn y gogledd.[2]

Rheilffyrdd Amwythig
       
Lein Amwythig - Caer
       
Lein Gororau Cymru at Gryw
       
Amwythig
       
Afon Hafren
       
Lein Wolverhampton - Amwythig
       
Lein y Cambrian
       
Lein Gororau Cymru at Henffordd


Tydi a roddaist golygu

Cyfansoddwyd "Tydi a roddaist" gan Arwel Hughes yn ystod 20 munud ar y platfform ym 1938. Mae plac ar blatfform yn nodi'r ffaith.[3]

Oriel golygu

Gwasanaethau golygu

Gorsaf gynt   National Rail Gorsaf nesaf
Terminws   Trafnidiaeth Cymru
Llinell Amwythig i Gaer
  Gobowen
Church Stretton   Trafnidiaeth Cymru
Llinell Gororau Cymru
  Yorton
Church Stretton   Trafnidiaeth Cymru
De–Gogledd Cymru
  Gobowen
Terminws   Trafnidiaeth Cymru
Llinell Calon Cymru
  Church Stretton
Casnewydd   Trafnidiaeth Cymru
Premier Service
  Wrecsam Cyffredinol
Terminws   Trafnidiaeth Cymru
Rheilffordd y Cambrian
  Y Trallwng
Gobowen   Trafnidiaeth Cymru
Caer i Birmingham
  Wellington
Wellington   West Midlands Railway
Llinell Wolverhampton i Amwythig
  Terminws
Wellington   West Midlands Railway
Birmingham New Street i Amwythig
  Terminws
Wellington   Avanti West Coast
Rheilffordd Arfordir y Gorllewin
  Terminws

Cyfeiriadau golygu

  1. Gweafn transportheritage.com
  2. "Gwefan Shropshire History Trust". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-06-22. Cyrchwyd 2015-07-16.
  3. Gwefan waymarking.com