Rhuthrad yr Hajj (2015)

Ar 24 Medi 2015, cafwyd cyflafan ym Mecca pan welwyd 849 o bobl yn cael eu damsang a'u sathru'n farw[1][2] ac 863 yn cael eu hanafu yn ystod pererindod blynyddol Hajj yn Mecca.[3] Dyma'r drychineb fwyaf o'i bath yn yr Hajj ers 1990 pan laddwyd o leiaf 1,426 o bobl drwy gael eu gwasgu a'u sathru dan draed.[4] Fodd bynnag, ceir cryn anghytundeb am y niferoedd a dywed teledu Iran (Press TV) fod dros 1,300 wedi marw,[5] ac y bydd dros 1,500 wedi marw ar ddiwedd y dydd.[6] Rhoddodd papur newydd o Libanus, sef yr Ad-Diyar, y bai ar osgordd y Tywysog Mohammad bin Salman Al Saud a oedd yn cymryd rhan yn yr Hajj.[5][7] Gwadwyd hyn gan swyddogion Sawdi Arabia.[7] Dyma'r ail drychineb yn Mecca o fewn pythefnos, wedi i graen enfawr ddisgyn gan ladd 11 o bobl ar 11 Medi 2015 ac anafu rhai cannoedd.

un o'r llwybrau o Mina i Jamarat (2011)
Amser09:00 Amser Safonol Arabia (UTC+03:00)
Dyddiad24 Medi 2015 (2015-09-24)
Cyfesurynnau21°24′59.5″N 39°53′04.9″E / 21.416528°N 39.884694°E / 21.416528; 39.884694
AchosPobl yn rhuthro
AnafiadauO leiaf 934

Ymateb golygu

  •   Sawdi Arabia
    • Dywedodd pennaeth Pwyllgor Canolog yr Hajj, Khaled al-Faisal, mai achos y rhuthrad oedd nifer o Affricanwyr ac yn ôl y Gweinidog Dros Iechyd, Khalid A. Al-Falih, yr achos oedd pererinion nad oeddent yn dilyn y cyfarwyddiadau swyddogol yn gywir a bod y daflen amser swyddogol wedi cael ei hanwybyddu.[3] Yn ôl y Guardian, fodd bynnag, roedd yr hyn a ddywedodd llygad-dystion yn groes i hyn.[8]
    • Galwodd brenin Sawdi Arabia, sef Salman, brenin Sawdi Arabia am ymchwiliad i'r drychineb.
  •   Iran
    • Dywedodd Arweinydd Goruchel Iran, Ali Khamenei: "Mae rhwymedigaeth ar Lywodraeth Sawdi Arabia i ysgwyddo baich trwm ei chyfrifoldeb am y digwyddiad enbyd hwn ac ymrwymo i ufuddhau i reolau tegwch a chyfiawnder. Mae camweinyddu a mesurau anghywir y tu ôl i'r drasiedi hon, ac ni ddylid anwybyddu hynny,” a nododd gychwyn tridiau o alaru cenedlaethol.[9] Mynnodd hefyd nad oedd Sawdi Arabia'n ddigon galluog i fedru trefnu'r pererindod."[10]
    • Protestiodd miloedd o bobl yn Tehran yn erbyn y ffordd yr oedd Sawdi Arabia wedi delio gyda'r drychineb. Cludodd y protestwyr faneri duon gan lafarganu "Marwolaeth i deulu Al Saud!" (مرگ بر آل سعود), sef teulu brenhinol Sawdi Arabia.
  •   Twrci
    • Nododd Llywydd Materion Crefyddol y wlad: "Roedd egeulustod difrifol ar ran yr awdurdodau wrth gyfeirio a chyfarwyddo'r dorf."[11]
  •   Nigeria
    • Mynnodd Llywodraeth Nigeria fod honiad Sawdi Arabia nad oedd rhai pererinion wedi dilyn y cyfarwyddiadau swyddogol yn anghywir.[12] Dywedodd Cadeirydd Comisiwn yr Hajj Cenedlaethol: "it was not fair for anyone to blame Africans participating at the pilgrimage for the fatal incident".
  •   Syria
    • Mynnodd teledu a reolir gan Lywodraeth Syria nad oedd Llywodraeth Sawdi wedi rhoi digon o sylw i ddiogelwch y pererinion.[13]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Hajj disaster: Foreign officials question Saudi death toll". BBC. 29 Medi 2015. Cyrchwyd 29 Medi 2015. Check date values in: |accessdate= (help)
  2. "Hajj stampede: Saudis face growing criticism over deaths". BBC. 25 Medi 2015. Cyrchwyd 25 Medi 2015.
  3. 3.0 3.1 "Hajj stampede: At least 717 killed in Saudi Arabia". BBC News. Cyrchwyd 24 Medi 2015.
  4. Hubbard, Ben; Boshnaq, Mona. "Stampede Near Mecca During Hajj Leaves at Least 717 Dead". The New York Times. Cyrchwyd 24 Medi 2015.
  5. 5.0 5.1 "Prince Salman convoy triggered Hajj stampede: Report". Press TV. 25 Medi 2015. Cyrchwyd 25 Medi 2015.
  6. http://www.presstv.ir/Detail/2015/09/24/430513/Saudi-Arabia-stampede
  7. 7.0 7.1 Matthew Weaver (25 Medi 2015). "Saudi Arabia under pressure to improve safety at Mecca after fatal hajj crush". The Guardian. Cyrchwyd 25 Medi 2015. Italic or bold markup not allowed in: |work= (help)
  8. Agence France-Presse (25 Medi 2015). "Hajj stampede: witnesses blame Saudi officials and police as King Salman orders review". The Guardian. Cyrchwyd 25 Medi 2015.
  9. "Iran declares 3-day national mourning over Mecca deaths". Press TV. 24 Medi 2015.
  10. "Saudi authorities blamed after Hajj stampede kills 717; Iran holds protest over deaths". ABC News. 25 Medi 2015. Cyrchwyd 25 Medi 2015.
  11. "At least 753 dead, 887 injured in stampede at Mina during Hajj pilgrimage in Saudi Arabia". Daily Sabah. 25 Medi 2015. Cyrchwyd 25 Medi 2015.
  12. "Hajj stampede: Saudis face growing criticism over deaths". BBC News. 25 Medi 2015. Cyrchwyd 25 Medi 2015.
  13. "Iran Criticizes Saudis Over Hajj Disaster". WSJ. 25 Medi 2015. Cyrchwyd 25 Medi 2015.