Rhyddhad Hoyw
Term sy'n disgrifio'r mudiad LHDT radicalaidd o hwyr y 1960au i ganol y 1970au yng Ngogledd America, Gorllewin Ewrop, ac Awstralia a Seland Newydd yw Rhyddhad Hoyw neu Gay Lib (talfyriad o'r Saesneg Gay Liberation). Mae'r term rhywfaint yn gyfystyr â'r mudiad hawliau LHDT cyfoes a mudiadau cymdeithasol LHDT eangach, ond mae ei ddefnydd academaidd yn cyfeirio'n uniongyrchol at gyfnod hanesyddol penodol o nodau a strategaethau tebyg.
Yn benodol, defnyddiwyd y gair "hoyw" yn lle "cyfunrywiol". Anogwyd lesbiaid a hoywon i "ddod allan", i gyhoeddi eu rhywioldeb i deulu, cyfeillion a chydweithwyr fel ffurf o ryddhad, ac i ddefnyddio balchder hoyw yn groes i gywilydd. Mae dod allan a gorymdeithiau balchder wedi parháu i fod yn rhan bwysig o fudiadau LHDT modern, ac mae presenoldeb gweledol cymunedau lesbiaidd a hoyw wedi parháu i dyfu.
Adnabyddir Rhyddhad Hoyw am ei gysylltiadau â gwrthddiwylliant y cyfnod, ac am fwriad y rhyddhawyr i drawsffurfio sefydliadau a chysyniadau sylfaenol cymdeithas megis rhywedd a'r teulu. Er mwyn ennill y fath ryddhad, defnyddiwyd dulliau o godi ymwybyddiaeth a gweithrediad uniongyrchol. Erbyn diwedd y 1970au, eclipsiwyd Rhyddhad Hoyw gan ddychweliad i fudiad mwy ffurfiol sydd o blaid hawliau sifil LHDT.