Rhyfel Cartref Syria

Brwydr a gychwynodd yn Chwefror 2011 rhwng Llywodraeth Syria a gwrthryfelwyr a gefnogwyd gan rai gwledydd yn y Gorllewin a UDA oedd Gwrthryfel Syria, sy'n parhau i gael ei ymladd (2018).

Rhyfel Cartref Syria
Enghraifft o'r canlynolrhyfel cartref, proxy war, communal violence Edit this on Wikidata
Lladdwyd570,000 Edit this on Wikidata
Rhan oY Gwanwyn Arabaidd, Y Gaeaf Arabaidd Edit this on Wikidata
Dechreuwyd15 Mawrth 2011 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysforeign involvement in the Syrian civil war, Q110713767, Q105870657, War against the Islamic State Edit this on Wikidata
Map
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Ymosodiadau ar ISIL yn Kobane, 2014.

Rhwng Chwefror 2011 a Chwefror 2017 bu farw 470,000 o bobl[1] 7.6 miliwn a chafwyd a ffodd dros 5 miliwn o bobl o'r wlad yn ôl UNHCR),[2] ac felly anodd iawn yw amcangyfrif union boblogaeth y wlad.

Ar 26 Chwefror 2011 cafwyd sawl protest yn erbyn y llywodraeth; roedd hyn yn dilyn protestiadau drwy'r Dwyrain Canol a adwaenir fel "y Gwanwyn Arabaidd" a gychwynwyd yn Tiwnisia ar 17 Rhagfyr 2010 - yn ninas Sidi Bouzid yng nghanolbarth Tiwnisia pan losgodd dyn ifanc ei hun hyd farwolaeth gan gychwyn cyfres o brotestiadau gan y werin. Roedd y protestwyr yn Syria yn galw am newidiadau gwleidyddol ac am adnewyddu hawliau dynol; galwyd hefyd am ddod â'r Gyfraith Argyfwng i ben. Cafwyd protest mawr ar 18-19 Mawrth 2011 a honnir bod yr awdurdodau wedi lladd ac anafu protestwyr. Wedi hynny bu rhagor o brotestiadau; yn ôl rhai, roedd byddin Syria wedi saethu unigolion ac aelodau'r protestiadau hyn mewn sawl ardal. Credir hefyd fod ambell ran o'r fyddin wedi troi at y chwyldroadwyr.

Yng ngwanwyn 2011, yn fuan ar ôl i'r protestiadau ddechrau, dechreuodd sawl grŵp arfog ymladd yn erbyn y llywodraeth; bu llywodraeth Syria'n llawdrwm, gan ddefnyddio'r fyddin i geisio trechu'r gwrthryfelwyr arfog.[3][4]. Yn 2011 unodd rhai o'r gwrthryfelwyr dan faner "Byddin Rhyddid Syria" ac fe'u cefnogwyd gan lywodraethau Ewrop a UDA.

Yn ôl sawl ffynhonnell, gan gynnwys y Cenhedloedd Unedig, roedd rhwng 14,005 a 19,770 o bobl wedi marw erbyn haf 2012, gyda thua hanner y nifer hwn yn sifiliaid.[5] Yn ôl y CU, erbyn Mehefin 2012 roedd hi bellach yn gyflwr o ryfel cartref yn y wlad, gyda byddin y llywodraeth wedi colli llawer o ardaloedd i Fyddin Rhyddid Syria a grwpiau arfog eraill.[6] Ymunodd sawl grŵp arfog jihadaidd yn y rhyfel gan gynnwys Jabhat al-Nusra ('Ffrynt al-Nusra') sy'n deyrngar i al-Qaeda ac a ystyrir yn fudiad terfysgol gan yr Unol Daleithiau. Daw llawer o ryfelwyr Jabhat al-Nusra o wledydd eraill ar draws y byd Islamaidd a thu hwnt. Eu bwriad yw sefydlu cyfraith sharia yn y wlad fel rhan o'r 'califfaeth' Islamaidd.

Yn Awst 2013 dywedodd John Kerry (UDA) fod Bashar al-Assad wedi defnyddio arfau cemegol yn erbyn sifiliaid[7] a chafwyd sawl cyhuddiad yn y 2000-2010au fod hawliau dynol sylfaenol wedi'u torri gan y Llywodraeth; yn ôl y Cenhedloedd Unedig (ar 9 Tachwedd 2011) lladdwyd dros 3500 gyda 250 ohonynt yn blant nifer o'r rheiny, yn enwedig bechgyn, wedi'u treisio gan filwyr Bashar al-Assad.[8][9]

Erbyn Awst 2014 credir bod 191,369 wedi marw yn y gwrthryfel ac erbyn Chwefror 2017 bu farw 470,000.

Cefnogaeth Rwsia ac ymyrraeth UDA

golygu

Bu gan Rwsia gysylltiad agos gyda Syria ers y 1960au ac yn Haf 2015 symudwyd o leiaf 2,000 o bersonnel i'r wlad a llawer o arfau, llongau ac awyrennau. Ar ddiwrnod olaf Medi 2015 gollyngodd awyrennau Rwsia fomiau ar ISIS. Honodd UDA i'r bomiau gael eu gollwng ar sifiliaid a gwrthrefelwyr eraill, rhai ohonynt yn grwpiau a gefnogwyd gan Brydain.[10]

Ffyrnigwyd UDA a'u cynghreiriaid gan y ffaith i Rwsia dderbyn gwahoddiad gan Lywodraeth Syria i'w cynorthwyo i amddiffyn y wlad. Aryddodd Rwsia hefyd 1,571 o 'gytundebau' gydag arweinwyr lleol - a oedd yn cytuno i gefnogi Llywodraeth y wlad.[11]

Ar 7 Ebrill 2017 ymosoddodd yr UDA ar fyddin Syria (h.y. y 'tro cyntaf' yn agored-weladwy i'r cyhoedd) pan lansiwyd naw o daflegrau 'Cruise' o longau rhyfel. Bomiwyd maes awyr Shayrat Llywodraeth Syria, a honnodd y UDA mai'r maes awyr yma oedd man cychwyn yr ymosodiadau cemegol ar Khan Shaykhun a ddigwyddodd tri diwrnod cyn hynny. Ni ddangoswyd unrhyw dystiolaeth o hynny, fodd bynnag, a gwadai Syria fod unrhyw wirionedd yn yr honiadau.

Ar 7 Ebrill 2018, cafwyd adroddiadau o ymosodiad cemegol yn ninas Douma, gyda 70 o bobl wedi lladd a 500 wedi eu hanafu.[12][13] Dywedodd meddygon ar y safle mai achos y marwolaethau hynny oedd y nwy clorin a sarin.[14] Ni ddangoswyd unrhyw dystiolaeth mai Llywodraeth Syria oedd yn gyfrifol; ni ddangoswyd ychwaith unrhyw dystiolaeth mai asiantau ysgogol (ageant provocateurs) oedd yn gyfrifol. Er hynny, ar 13 Ebrill 2018, ymosododd Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Ffrainc a UDA ar dri tharged yn Syria.

Cyfeiriadau

golygu
  1. editor, Ian Black Middle East (10 Chwefror 2016). "Report on Syria conflict finds 11.5% of population killed or injured" – drwy The Guardian.CS1 maint: extra text: authors list (link)
  2. (UNHCR), United Nations High Commissioner for Refugees. "UNHCR Syria Regional Refugee Response". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-02-19. Cyrchwyd 2018-04-15.
  3. "Syrian army tanks 'moving towards Hama'". BBC News. 5 Mai 2011. Cyrchwyd 20 Ionawr 2012.
  4. "'Dozens killed' in Syrian border town". Al Jazeera. 17 Mai 2011. Cyrchwyd 12 Mehefin 2011.
  5. "Syrian Observatory for Human Rights". Syriahr.com. Cyrchwyd 2012-06-05.
  6. Gwefan Saesneg y BBC; adalwyd 13 Mehefin 2012
  7. "Iran warns west against military intervention in Syria". The Guardian. Cyrchwyd 28 Awst 2013.
  8. Joe Lauria (29 Tachwedd 2011). "More than 250 children among dead, U.N. says". The Wall Street Journal. Cyrchwyd 29 Tachwedd 2011.
  9. "UN report: Syrian forces commit 'gross violations' of human rights, CNN". 29 Tachwedd 2011.
  10. "Syria crisis: Russia begins air strikes against Assad foes" (yn english). ВВС News. 30 Medi 2015.CS1 maint: unrecognized language (link)
  11. Russia Insider: Military Briefing (Current Situation), posted 9 Mehfin 2017, Time: 0:45
  12. https://www.thesun.co.uk/news/6038885/syria-chemical-attack-nerve-agent-evidence-latest-news/
  13. "Syria attack: nerve agent experts race to smuggle bodies out of Douma". The Guardian (yn Saesneg). 12 Ebrill 2018.
  14. Graham, Chris; Krol, Charlotte; Crilly, Rob; Ensor, Josie; Swinford, Steven; Riley-Smith, Ben; Emanuel, Louis (8 April 2018). "Russia blames Israel for attack on Syrian air base as pressure mounts over gas atrocity". Cyrchwyd 9 Ebrill 2018 – drwy www.telegraph.co.uk.