Rhyfeloedd dros annibyniaeth Iwerddon
Dyma restr o wrthryfeloedd a rhyfeloedd dros annibynniaeth Iwerddon.
Rhyfeloedd y 16g
golygu- 1534 - Gwrthryfel gan Ieirll Kildare
- 1580 - Gwrthryfel Munster. Yn 1583 bu gwrthryfel Munster yn erbyn llywodraethwyr milwrol Elisabeth I.
- 1595 - Ymunodd Huw O'Neill, Iarll Tyrone, â Huw O'Donnell Coch mewn gwrthryfel yn erbyn Elisabeth I mewn ymgais i warchod y ffordd Gaeleg o fyw.
- Yn 1598 cafwyd buddugoliaeth Huw O'Neill ym Mrwydr Yellow Ford. Yn 1601 gorchfygwyd Huw O'Neill a Hugh O'Donnell, ynghyd â milwyr Sbaen, gan Mountjoy ym Mrwydr Kinsale. Yn 1603 ildiodd Huw O'Neill. Cwblhawyd goresgyniad Tuduraidd o Iwerddon. Cafodd cyfraith Lloegr ei orfodi ledled Iwerddon.[1]
Rhyfeloedd y 17g
golygu- 1641 - Dim ond 59 y cant o dir Iwerddon oedd yn cael ei ddal gan Gatholigion. Bu gwrthryfel Catholig-Gaelig mewn ymgais i adennill tiroedd a atafaelwyd. Daeth y gwrthryfel i ben yn 1649.
- 1646 - Mae Eoghan Ruadh Ó Néill yn curo byddinoedd o'r Alban dan arweiniad Robert Munro yn Benburb.
- 1691- Gorchfygwyd lluoedd Catholig ym Mrwydr Aughrim. Ildiwyd Limerick.[1]
Rhyfeloedd y 18g ac 19g
golygu- 1796 - Ceisiodd llynges Ffrengig o 35 o longau gyda Wolfe Tone ar ei bwrdd lanio ym Mae Bantry ond cawsant eu hatal gan dywydd garw.
- 1798 - Gwrthryfel 1798.
- 1803 - Gwrthryfel yn Nulyn dan arweiniad Robert Emmet, a gafodd ei arestio, ei roi ar brawf, a'i ddienyddio.
- 1813 - "Brwydr Garvagh" rhwng 'Rhubanwyr' Catholig ac Orenwyr.
- 1866 - Teithiodd Kelly, cyn-filwr o Ryfel Cartref America, i Iwerddon a bu'n gyfrifol am baratoi ar gyfer gwrthryfel yn y Ffeniaid. Ar 5 Mawrth 1867 methodd wrthryfel y Ffeniaid.[1]
Rhyfeloedd y 20g
golygu- 1916 - Gwrthryfel y Pasg
- 1919-21 - Rhyfel Annibyniaeth Iwerddon
- 1922-23 - Rhyfel cartref Iwerddon dros dermau annibynniaeth y cytundeb Eingl-Gwyddelig
(Bu gweithgawrch yr IRA wedi hyn a dermwyd yn anghyfreithiol o 1931 gan lywodraeth De Iwerddon.)[1]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 "CAIN: Chronology of Key Events 1170 to 1967". cain.ulster.ac.uk. Cyrchwyd 2024-05-16.