Iwerddon unedig
- Gweler hefyd: Arolygon barn ar Iwerddon Unedig
Iwerddon unedig (Gwyddeleg: Éire aontaithe)[1] yw'r cysyniad o ail uno Gweriniaeth Iwerddon a Gogledd Iwerddon gyda'u gilydd fel un wlad sofran, a'r mudiad sy'n arddel y cysyniad hwnnw.
Refferendwm posib
golyguCynigion amserlen
golyguYn 2020, dywedodd Taoiseach Iwerddon, Micheál Martin, na ddylid cynnal refferendwm ar undod Gwyddelig am 5 mlynedd, gan ychwanegu, "Unwaith i Brexit ddigwydd, ni ddylai fod yn gatalydd ar gyfer rhywbeth fel arolwg ffin. Roeddwn i'n meddwl y byddai hynny'n rhy ymrannol a byddai ond yn gwaethygu'r tensiynau yno oherwydd Brexit ei hun".[2]
Yn 2020, dywedodd llywydd Sinn Fein, Mary Lou McDonald, “Gadewch i ni gael Fforwm Gyfan-Iwerddon ar Undod i gynllunio ar gyfer pob agwedd ar ailuno, gan gynnwys refferendwm erbyn 2025.[3] Yn 2022, dywedodd y byddai refferendwm yn bosibl o fewn 5 mlynedd.[4] Ym mis Mawrth 2023, dywedodd ei bod yn disgwyl refferendwm ar undod Gwyddelig o fewn degawd.[5] Ym mis Awst 2021, dywedodd Gerry Adams wrth Lywodraeth Iwerddon y dylai ddechrau cynllunio ar gyfer refferendwm ac y gallai un ddigwydd o fewn tair blynedd.[6] Lansiodd prif weinidog etholedig Gogledd Iwerddon, Michelle O'Neill faniffesto Sinn Fein yng Ngwesty'r Canal Court yn Newry ar 9 Mawrth 2023 a oedd yn ddogfen 16 tudalen yn cynnwys ymrwymiad i bennu dyddiad ar gyfer refferendwm undod.[7]
Yn 2022, dwedodd arweinydd y DUP, Jeffrey Donaldson, nad oedd angen refferendwm o gwbl ar Ogledd Iwerddon ac y byddai’n hollti barn.[8]
Ym mis Medi 2023, dywedodd un o sylfaenwyr y DUP, Wallace Thompson bod “anorfod” ynghylch undod Gwyddelig a bod angen i undebaeth Brydeinig “siarad â phobol” amdano.[9]
Yn ddiweddarach yn yr un wythnos, dywedodd Taoiseach Iwerddon, Leo Varadkar fod Iwerddon "ar y llwybr tuag at uniad" gan hefyd ddweud ei fod yn disgwyl gweld Iwerddon unedig yn ystod ei fywyd. Y diwrnod wedyn, dywedodd arewinydd yr SDLP, Colum Eastwood ei fod yn cefnogi cynnal refferendwm yn 2030, y tro cyntaf iddo gynnig amser penodol ar gyfer refferendwm. Dywedodd fod llywodraeth Iwerddon yn "symud i fewn i'r gofod" o gynllunio ar gyfer refferendwm undod Gwyddelig.[10]
Meini prawf
golyguYm mis Mai 2022, dywedodd y Tánaiste Leo Varadkar nad oedd y meini prawf ar gyfer refferendwm wedi'u bodloni eto a galwodd hefyd am eglurder ar y mecanwaith ar gyfer refferendwm. Galwodd Michelle O'Neill hefyd am eglurder ar y meini prawf ar gyfer refferendwm.[11] Ym mis Medi 2022, dywedodd ysgrifennydd yr wrthblaid yng Ngogledd Iwerddon, Peter Kyle (o'r blaid Lafur) y byddai'n pennu meini prawf pleidleisio ar y ffin.[12]
Yn etholiadau lleol Gogledd Iwerddon ym mis Mai 2023, derbyniodd y tair plaid unoliaethol fwyaf dros 38% o’r bleidlais a chafodd y pleidiau o blaid Iwerddon unedig 41% o’r bleidlais. Awgrymodd Jeffrey Donaldson nad oedd y meini prawf ar gyfer arolwg ffiniau wedi eu bodloni oherwydd bod gan unoliaethwyr fwy o seddi. Fodd bynnag, roedd hyn ond yn wir wrth eithrio unigolion annibynnol o blaid undod Iwerddon a People Before Profit. Pan ofynnwyd iddo am y meini prawf, dywedodd ysgrifennydd Gogledd Iwerddon, Chris Heaton-Harris, fod angen i’r rhai sydd â diddordeb “ddarllen Cytundeb Belfast/Gwener y Groglith, bydd yn rhoi cliw da i chi”.[13]
Ym mis Mehefin 2023, awgrymodd arweinydd yr UUP Doug Beattie hefyd nad yw'r meini prawf wedi'u bodloni ar gyfer refferendwm. Ychwanegodd y byddai adfer Cynulliad Gogledd Iwerddon yn Stormont yn atal swing o blaid Sinn Féin ac Iwerddon Unedig.[14] Awgrymodd Ian Paisley jr nad yw'r gefnogaeth i uno Iwerddon yn ddigonol a phe bai pleidlais yn digwydd, y dylai fod angen uwch-fwyafrif a chwota o bleidleiswyr.[15] Mae John Major hefyd wedi galw ar lywodraeth y DU i “sillafu allan” y meini prawf ar gyfer refferendwm.[16]
Cyllid ynys gyfan
golyguYm mis Chwefror 2024, cyhoeddwyd bod cyfanswm o €1 biliwn o gyllid gan lywodraeth Iwerddon ar gyfer:
- Ffordd yr A5 (€600m wedi'i ymrwymo)
- Adeiladu Pont Uisce Caol (Pont y Dŵr Cul) rhwng Mynyddoedd Mourne a Phenrhyn Cooley
- Gwasanaeth trenau newydd bob awr rhwng Belffast a Dulyn
- €50m tuag at Parc Casement yn Belffast
- €10m tuag at brofiad ymwelwyr ar safle Brwydr y Boyne
- Entrepreneuriaeth menywod trawsffiniol[17]
Dechreuodd y gwaith adeiladu ar y Pont Ddŵr Gul, gan gysylltu Omeath â Warrenpoint, ym mis Mehefin 2024.
Yn ystod digwyddiad 'Dyfodol Iwerddon' yn yr un mis, cynigiodd Taoiseach Leo Varadkar fod llywodraeth Iwerddon yn sefydlu cronfa gan ddefnyddio arian dros digwyddiad Iwerddon Unedig.[18] Hefyd yn y digwyddiad, addawodd Michelle O'Neill y byddai Parc Casement yn cael ei adeiladu "on my watch".[19]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Hawes-Bilger, Cordula (2007). War Zone Language: Linguistic Aspects of the Conflict in Northern Ireland (yn Saesneg). Francke. t. 104. ISBN 978-3-7720-8200-9.
- ↑ "No Irish unity referendum for five years because of Brexit". POLITICO (yn Saesneg). 2020-10-22. Cyrchwyd 2023-05-10.
- ↑ "Sinn Féin call for a United Ireland referendum by 2025 ahead of general election". IrishCentral.com (yn Saesneg). 2020-01-22. Cyrchwyd 2023-05-10.
- ↑ "Irish reunification referendums 'possible in next five years', Sinn Fein leader says". The National (yn Saesneg). 6 May 2022. Cyrchwyd 2023-05-10.
- ↑ "Referendum on Irish unity within a decade, Mary Lou McDonald says". The Irish Times (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-05-10.
- ↑ Manley, John (23 August 2021). "Gerry Adams urges Dublin to prepare for a united Ireland and says border poll could happen within three years". The Irish News (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 August 2021. Cyrchwyd 23 August 2021.
- ↑ "Sinn Fein unveils border poll pledge at local election manifesto launch". BelfastTelegraph.co.uk (yn Saesneg). ISSN 0307-1235. Cyrchwyd 2023-05-10.
- ↑ "Donaldson tells News Letter: I would stay if a united Ireland ever happened – 400 years of our blood is in Ulster's soil".
- ↑ "Founding DUP member says there is an 'inevitability' about some form of Irish unity". The Irish Times (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-09-08.
- ↑ Correspondent, John Manley Political (2023-09-08). "SDLP leader Colum Eastwood voices support for 2030 border poll". The Irish News (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-09-08.
- ↑ "Michelle O'Neill calls for clarity on criteria for calling Irish unity poll". BelfastTelegraph.co.uk (yn Saesneg). 2022-05-18. ISSN 0307-1235. Cyrchwyd 2023-06-10.
- ↑ "Labour would set out border poll criteria - Peter Kyle". BBC News (yn Saesneg). 2022-09-25. Cyrchwyd 2023-06-10.
- ↑ McAleer, Ryan (2023-05-23). "Heaton-Harris ducks question on criteria for border poll". The Irish News (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-06-10.
- ↑ "Doug Beattie: A fully functioning Stormont will stop the swing to Sinn Féin dead in its tracks".
- ↑ "Ian Paisley: We are nowhere near the risk of a border poll - but if one ever happened there should be a turnout quota and supermajority". News Letter. 29 May 2023.
- ↑ Paul, Mark (25 May 2023). "John Major: terms for UK calling Border poll in North should be spelled out". The Irish Times (yn Saesneg). Cyrchwyd 19 June 2023.
- ↑ "Shared Island initiative: Casement Park and A5 upgrade among projects in line for €1bn State funding". The Irish Times (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-06-17.
- ↑ "Reconciliation and reunification should be pursued in parallel, conference told". The Irish Times (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-06-17.
- ↑ "First Minister Michelle O'Neill commits to build Casement Park during Belfast unification rally - Belfast Live". www.belfastlive.co.uk. Cyrchwyd 2024-06-17.