Rhyngslafeg

iaith Rhyng-Slafeg

Mae Rhyngslafeg neu Rhyngslafoneg; mewn Rhyngslafeg, medžuslovjansky jezyk a hefyd меджусловјанскы језык; mewn Saesneg, Interslavic, yn iaith artiffisial a gynlluniwyd i hwyluso cyfathrebu a rhyngddealltwriaeth rhwng siaradwyr yr ieithoedd Slafaidd amrywiol. Mae'r gramadeg yn seiliedig ar Hen Slafoneg Eglwysig, ond mae'r eirfa yn deillio o eiriau mwy cyffredin yr ieithoedd Slafaidd. Mae hyn yn rhoi dealltwriaeth hawdd i bobl sy'n defnyddio rhyw fath o iaith Slafaidd. Mae'r awduron wedi datgan nad ydynt yn bwriadu i'w cynnig iaith gyffredin ddisodli'r ieithoedd presennol, ond y dylai hwyluso eu perthynas a'u trosglwyddedd. Maent yn gwerthfawrogi bod ieithoedd Slafaidd yn ddigon agos fel eu bod, heb lawer o ymdrech, yn gallu defnyddio'r iaith newydd hon heb ddysgu hir ac anodd.[4]

Rhyngslafeg
medžuslovjansky
меджусловјанскы
Baner Rhyngslafeg Baner Rhyngslafoneg
Ynganiad IPA [mɛd͡ʒusɫɔ'vjanskɪ 'jæzɪk]
Crëwyd gan Jan van Steenbergen, Vojtěch Merunka
Dyddiad a sefydlwyd 2006–2017
Sefyllfa a defnydd Iaith ategol ryngwladol
Cyfanswm siaradwyr 7000[1]
Categori (pwrpas) Indo-Ewropeaidd
  • Balto-Slafeg
System ysgrifennu Lladin, Cyrileg
Ffynonellau: Hen Slafoneg Eglwysig, modern Ieithoedd Slafonaidd
Rheoleiddir gan Pwyllgor Rhyngslafaidd[2][3]
Codau ieithoedd
ISO 639-1 Dim
ISO 639-2 sla
ISO 639-3 isv
Wylfa Ieithoedd

Fe'i cynlluniwyd i'w ysgrifennu yn yr wyddor Lladin a Chyrilig.

 
Vojtěch Merunka a Jan van Steenbergen, sylfaenwyr Interslavic, yn ail gynhadledd yr iaith yn 2018
 
Logo Neoslavonic

Dechreuodd datblygiad Slafoneg fodern yn 2006 o dan yr enw Slovianski gan dîm o ieithyddion o wahanol wledydd dan arweiniad Jan van Steenbergen. Newidiwyd enw'r prosiect yn ddiweddarach i "Rhyng-Slafaidd" yn 2011. Yn ddiweddarach, yn 2017, unwyd y prosiect â chynnig iaith Slafaidd cyffredin arall, y Slafeg newydd (neu Slafoneg Newydd) gan yr ieithydd Tsiec Vojtěch Merunka. Yn yr un flwyddyn, cynhaliwyd y gyngres ryngwladol gyntaf o'r iaith o ddiddordeb yn nhref Nové Město (Gweriniaeth Tsiec).[5]

Mae Rhyngslafeg yn chwarae rhan fawr yn y ffilm Tsiec-Slofac-Wcreineg 2019 Nabarvené ptáče ("The Painted Bird"), a gyfarwyddwyd gan Václav Marhoul.[6][7]

Gwefannau Cymdeithasol

golygu

Ceir defnydd ac enghreifftiau o Rhyngslafeg ar y Youtube. Mae hyn yn cynnwys cyflwyniad i'r rhyng-iaith ar sianel Radio Free Europe/Radio Liberty ym mis Medi 2019 oedd yn rhoi cyflwyniad syml i Ryngslafeg.[8]

Ceid hefyd enghraifft o siaradwyr ieithoedd Slafonaidd eraill yn cyfathrebu gyda'i gilydd gan gynnwys gyda siaradwr Interslafeg. Gwelwyd hyn ar sianel 'Ecolinguist' mewn darllediad benodol yn 2019; Interslavic Language | Will Bulgarian, Polish and Croatian understand a CONSTRUCTED LANGUAGE? Yn yr eitem mae siaradwyr Bwlgareg, Pwyleg, a Croateg yn siarad yn gymharol rhwydd gyda siaradwr Interslafeg.[9]

Ym mis Awst 2021, roedd gan gymuned yr iaith ar Facebook oddeutu 14,300 o aelodau.[10]

Yn ystod Rhyfel Rwsia ar Wcráin yn 2022 gwelwyd pobl ar Twitter yn galw am ddefnydd o Rhyngslafeg pan bu i arweinwyr Gweriniaeth Tsiec, Gwlad Pwyl a Slofenia deithio i Kyiv i drafod a chynnig cefnogaeth i Arlywydd Wcráin, Volodymyr Zelenskyy ar 16 Mawrth 2022. Nodwyd byddai Rhyngslafeg wedi bod yn ddefnyddiol yn y fath sefyllfa.[11]

Heriau Rhyngslafeg

golygu

Yn ôl siaradwr Rhyngslafeg un o'r heriau sy'n wynebu'r iaith yw pa eiriau i'w defnyddio lle ceir sawl gwahanol air yn yr ieithoedd Slafaidd unigol. Noda bod geiriaduron Interslavic yn rhoi dewis o eiriau ond ddim yn nodi pa un sydd fwyaf poblogaidd ar draws yr ieithoedd ac felly y dylid ei mabwysiadu fel y gair safonol yn Rhyngslafeg. Mae'n defnyddio'r enghraifft pa air i ddefnyddio ar gyfer 'rhif' ai nomer, broj, cifra, čislo gan bod yr holl eiriau yma wedi ei rhestri? Mae'n nodi bod modd datrys hyn wrth i'r geiriadur a'r iaith ddatblygu.[12]

Nodweddion ieithyddol

golygu

Mae tri cenedl enw gramadegol yn yr iaith Interlafeg: gwrywaidd, benywaidd ac ysbeidiol. O fewn y rhyw gwrywaidd, gwahaniaethir rhwng animeiddiedig ac animeiddiedig. Mae saith achos gramadegol: cyflwr enwol, cyflwr genidol, cyflwr derbyniol, cyflwr gwrthrychol, cyflwr cyfrannol, cyflwr lleoliadol a'r cyflwr cyfarchol. Fel mewn ieithoedd Slafaidd eraill sydd â chyfundrefn o genedl enwau, mae ansoddeiriau'n cael eu rhedeg ychydig yn wahanol i enwau. Mae dau rif gramadegol: unigol a lluosog.

Gwyddor ddiddorol Ysgrifennir y Slafeg gan ddefnyddio dwy wyddor: Lladin a Cyrilig.[13]


Rhyngslafeg yn yr Wyddor Ladin
A B C Č D E Ě F G H I J K L LJ M N NJ O P R S Š T U V Y Z Ž
Rhyngslafeg yn yr Wyddor Gyrilig
А Б В Г Д ДЖ Е Є Ж З И Ы Ј К Л Љ М Н Њ О П Р С Т У Ф Х Ц Ч Ш

Testun

golygu

Gweddi'r Arglwydd:

Otče naš, ktory jesi v nebesah,
nehaj sveti se ime Tvoje,
nehaj prijde kraljevstvo Tvoje,
nehaj bude volja Tvoja, kako v nebu tako i na zemji.
Hlěb naš vsakodenny daj nam dnes,
i odpusti nam naše grěhy,
tako kako my odpuščajemo našim grěšnikam.
I ne vvedi nas v pokušenje, ale izbavi nas od zlogo.
Amin.

Gweler hefyd

golygu

Dolenni

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Kocór, p. 21.
  2. (Saesneg) "Interslavic – Introduction". steen.free.fr. Cyrchwyd October 21, 2019.
  3. "CISLa 2018". conference.interslavic-language.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-12-30. Cyrchwyd October 21, 2019.
  4. (Catalaneg) Dorca, Josep (20 Mai 2017). "Un esperanto eslau: un lingüista txec té a punt una proposta de llengua eslava comuna". Balcaniablog.
  5. Interslavic Language Group, Slovanská Unie z. s. (gol.). "Rezultaty i memorandum iz prvoj naučnoj konferencije o medžuslovjanskom jezyku - CISLa 2017". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-03-05. Cyrchwyd 16 Tachwedd 2018.
  6. (Rwseg) Вашкова, Лорета (18 Rhagfyr 2018). "«Раскрашенная птица» – кинодебют межславянского языка". Radio Prague International.
  7. (Sbaeneg) Vicente, Álex (4 Medi 2019). "La odisea de un niño judío en la Europa del horror". El País.
  8. "Interslavic: How A Made-Up Slavic Language Made It To The Big Screen". Radio Free Europe/Radio Liberty. 2019-09-12.
  9. "Interslavic Language: Will Bulgarian, Polish and Croatian understand a CONSTRUCTED LANGUAGE?". Youtube Ecolinguist. 2019-08-09.
  10. "Interslavic - Medžuslovjansky - Меджусловјанскы". Facebook. 5 Awst 2021.
  11. "Missed opportunity to relaunch Interslavic". Twitter @kevinmorrisj. 2022-03-16.
  12. "Interslavic is incomprehensible(+ problem with dictionary) [SUBTITLES]". Sianel Youtube 'Interslavic language - Medžuslovjansky jezyk'. 18 Gorffennaf 2021.
  13. "Interslavic - Orthography". steen.free.fr. 2021-08-03.


  Eginyn erthygl sydd uchod am iaith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.