Chwaraewr rygbi'r undeb rhyngwladol Cymreig yw Rhys Priestland (ganwyd 9 Ionawr 1987, Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin).

Rhys Priestland
Dyddiad geni (1987-01-09) 9 Ionawr 1987 (37 oed)
Man geni Caerfyrddin, Cymru
Taldra 182 cm (6 ft 0 in)
Pwysau 87 kg (13 st 10 lb)[1]
Ysgol U. Ysgol Gyfun Bro Myrddin
Prifysgol Prifysgol Abertawe
Gyrfa rygbi'r undeb
Gyrfa'n chwarae
Safle maswr
Clybiau proffesiynol
Blynydd. Clybiau Capiau (pwyntiau)
2005– Y Sgarlets 94 (668)
Timau cenedlaethol
Blynydd. Clybiau Capiau
2011–12 Cymru 22 (53)
yn gywir ar 01 Rhagf 2012 (UTC).

Addysg golygu

Fe addysgwyd Rhys Priestland yn Ysgol Gyfun Bro Myrddin ac mae yn siaradwr Cymraeg rhugl. Wedi gadael yr ysgol, astudiodd economeg ym Mhrifysgol Caerdydd, a gorffennodd ei gwrs ym Mhrifysgol Abertawe.

Gyrfa golygu

Dechreuodd Priestland chwarae rygbi gyda chlybiau rygbi Llandeilo ac Athletic Caerfyrddin cyn ymuno â chlwb Scarlets Llanelli pan yn ddeunaw oed. Fel maswr y mae yn hoffi chwarae fwyaf, ond gall chwarae fel cefnwr hefyd.[2]

Chwaraeodd Rhys dros Gymru dan 19 a Chymru dan 20, cyn cael ei alw i chwarae i Dîm cenedlaethol Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2011.[3] Gwnaeth ei ymddangosiad rhyngwladol cyntaf dros Gymru ym mis Chwefror 2011 fel eilydd ail-hanner yn y fuddugoliaeth yn erbyn yr Alban.

Fe'i enwyd yng ngharfan Cymru ar gyfer Cwpan y Byd 2011 yn Seland Newydd ym mis Awst 2011. Sgoriodd 29 pwynt mewn 5 gem dros Gymru yn y twrnamaint. Ar ôl cael ei anafu yn y rownd go-gyn-derfynol yn erbyn Iwerddon, ymddangosodd Priestland fel gwestai ar raglen Cwpan Rygbi’r Byd 2011 ar S4C.[4]

Sgoriodd Priestland ei gais cyntaf dros ei wlad yn erbyn Awstralia ar 3 Rhagfyr 2011.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Scarlets - Profile". Scarlets official site (2012-02-11). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-12-05. Cyrchwyd on 2012-02-20. Check date values in: |accessdate= (help)
  2. "Bywgraffiad ar Wefan Scarlets Llanelli". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-12-06. Cyrchwyd 2011-10-22.
  3. Gwefan y BBC - Priestland wedi ei synnu gan alwad Gatland
  4. Erthygl Golwg360 - Priestland ar y Teledu

Dolenni allanol golygu