Ysgol Gyfun Bro Myrddin

Ysgol uwchradd yng Nghroesyceiliog, Caerfyrddin ydy Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin, mae'n gwasanaethu ardal tref Caerfyrddin, Dyffryn Tywi, a rhannau eraill o orllewin, gogledd, a de Sir Gaerfyrddin. Ers 2016 mae wedi bod yn ysgol categori 2CH ydyw, yn ôl diffiniad Llywodraeth Cymru. Mewn ysgol o'r fath addysgir pob pwnc ac eithrio’r Gymraeg a’r Saesneg drwy gyfrwng y Gymraeg yn unig i bob disgybl.[1] Y pennaeth presennol yw Dr Llinos Jones, hi yw'r pedwerydd olynydd i'r swydd ers sefydlu'r ysgol ym mis Medi 1978.

Ysgol Gyfun Gymraeg
Bro Myrddin
Adeiladau'r ysgol
Arwyddair Heb Ddysg Heb Ddeall
Sefydlwyd 1978
Math Cyfun, y Wladwriaeth
Cyfrwng iaith Cymraeg
Pennaeth Dr Llinos Jones
Cadeirydd Parchedig Beti-Wyn James
Lleoliad Croesyceliog, Caerfyrddin,
Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA32 8DN
AALl Cyngor Sir Gaerfyrddin
Disgyblion 950
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau 11–18
Llysoedd Hengwrt     , Hergest     Llwydiarth     , Peniarth     
Lliwiau Lelog a du          
Gwefan http://www.yggbm.org
 
Eisteddfod yr Ysgol, 2009

Roedd sefydlu'r ysgol yn 1978 yn gryn sialens gan nad oedd yr awdurdod addysg yn gweld galw uniongyrchol am addysg uwchradd Gymraeg, er bod sawl ysgol gynradd leol yn bodoli cyn hynny gan gynnwys, Ysgol y Dderwen yn nhref Caerfyrddin ei hun. Roedd adnoddau cyntefig iawn am ychydig dros bymtheg mlynedd.

Ail-leolwyd yr ysgol o Gaerfyrddin i safle newydd ger Croesyceiliog, mewn adeiladau eithaf safonol a modern. Lleolwyd yr ysgol gynt yng nghanol tref Caerfyrddin yn hen adeiladau Fictorianaidd yr ysgol ramadeg.

 
Bro Myrddin o Bryn Alltycnap
 
Arwydd y Mynediad

Yn ddiweddar mae'r ysgol wedi lansio ymgyrch i wella darpariaeth pynciau cyfoes megis Adeiladwaith a Thrin Gwallt ac ym Medi 2008 agorwyd y ganolfan Sgiliau, mewn cydweithrediad efo Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth, Ysgol Gyfun y Strade, ac Ysgol Gyfun Maes-Yr-Yrfa.

Cynhelir Eisteddfod Ysgol yn flynyddol yn neuadd yr ysgol, a cynhelir mabolgampau ar drac rhedeg Caerfyrddin, yn Nhre Ioan ger Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth.

Addysg

golygu

Ysgol Bro Myrddin sydd â canlyniadau TGAU gorau yn Sir Gaerfyrddin, heblaw Ysgol Bonedd St. Michael's, Llanelli. Enillodd tua 84% o ddisgyblion graddau TGAU A*–C yn 2007, sydd yn ffigwr uchel. Mae'r ysgol yn rhoi pwyslais ar gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae hyn yn cael ei hatgyfnerthu gan wasanaethau boreol, gwersi a phrofiadau niferus eraill o fewn a thu allan i'r ysgol.

Penaethiad Bro Myrddin

golygu
  • 1978–1996 Mr Gareth Evans
  • 1996–2006 Mr Eric Jones
  • 2006–2013 Mr Dorian T. Williams
  • 2013– Dr Llinos Jones

Cwricwlwm

golygu
  • Pynciau Craidd: Cymraeg, Mathemateg, Saesneg a Gwyddoniaeth
  • Dyniaethau: Hanes, Daearyddiaeth ac Addysg Crefyddol
  • Pynciau Creadigol: Drama, Dylunio a Technoleg a Cerdd
  • Technoleg: TG, Deunydd Gwrthiannol, Arlwyaeth, Iechyd a Gofal, Tecstiliau, Gweithgynhyrchiad Dodrefn a cynhyrchion graffigol
  • Ieithoedd Modern: Ffrangeg, Almaeneg
  • Eraill: Astudiaethau Busnes

Swyddogion

golygu
Swydd Enw
Pennaeth Dr Llinos Jones
Dirprwy Bennaeth Mr. Jonathan Thomas
Penaethiaid Cynorthwyol Mr Steffan Davies

Mrs Rhian Carruthers

Mrs. Eirlys Thomas

Miss. Nia Williams

Pennaeth Addysg Gorfforol Mr. John Nogrove
Pennaeth Addysg Grefyddol Mrs. Gwennan Morgan
Pennaeth Bac Miss. Elin Jones
Pennaeth Celf Mr. Wyn Mainwaring
Pennaeth Cerdd Mr. Berian Lewis
Pennaeth Cymraeg Mrs. Helen Evans
Pennaeth Daearyddiaeth Mr. Alun Thomas
Pennaeth Drama Mrs. Lowri Davies
Pennaeth DT Mr. Robyn Davies
Pennaeth Gwyddoniaeth Miss. Catrin Pritchard
Pennaeth Hanes Mrs. Bethan Hubbard
Pennaeth Ieithoedd Modern Miss. Claire Russell
Pennaeth Mathemateg Mrs. Luned Davies
Pennaeth Saesneg Mrs. Llinos Mary Jones
Pennaeth TGCh Mr. Christopher Lacey

Penaethiaid Blwyddyn

golygu
2017-2018 2018-2019 2019-2020 2020-2021 2021-2022 2022-2023 2023-2024
Blwyddyn 7 Mrs. Luned Davies Mrs. Tracy Jenkins
Blwyddyn 8 Mrs. Tracy Jenkins Mr. Steffan Davies Mrs. Tracy Jenkins Mr. Steffan Davies Mrs. Tracy Jenkins Miss. Elin Jones
Blwyddyn 9 Mr. Steffan Davies Mrs. Tracy Jenkins Mr. Steffan Davies Mrs. Tracy Jenkins Mr. Christopher Lacey Mrs. Gwennan Morgans
Blwyddyn 10 Mr. Gareth Jones Mrs. Eirlys Thomas Mr. Gareth Jones Mrs. Eirlys Thomas Miss. Elin Jones Mr. Gareth Jones Mrs. Lowri Davies
Blwyddyn 11 Mrs. Eirlys Thomas Mr. Gareth Jones Mrs. Eirlys Thomas Mr. Gareth Jones Mrs. Lowri Davies Mr. Gareth Jones
Chweched Mr. Tim Hayes
Is-Chweched Mrs. Lowri Davies Mrs. Alwen Owen

Cyn-ddisgyblion enwog

golygu

Gweler hefyd y categori: Pobl addysgwyd yn Ysgol Gyfun Bro Myrddin

Cyfeiriadau

golygu

Dolenni allanol

golygu