Richard Williams (Dic Dywyll)
bardd (c.1790-c.1865 )
Baledwr Cymreig oedd Richard Williams, mwy adnabyddus fel Dic Dywyll (tua 1790 - tua 1865).
Richard Williams | |
---|---|
Ffugenw | Dic Dywyll |
Ganwyd | c. 1790 Amlwch |
Bu farw | c. 1865 |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Teyrnas Prydain Fawr |
Galwedigaeth | baledwr, bardd |
Ychydig o wybodaeth bendant sydd ar gael amdano. Ymddengys iddo gael ei eni yng Ngogledd Cymru; crybwyllir Amlwch, Llanerchymedd a Llŷn gan wahanol fynonellau. Ni wyddir blwyddyn ei enwi, ond credai un person a'i gwelodd tua 1862 ei fod rhwng 70 a 75 oed.
Treuliodd y rhan fwyaf o'i fywyd yn canu a gwerthu baledi yn neheudir Cymru; cofnodir iddo fyw ym Merthyr Tydfil am rai blynyddoedd. Efallai mai'r enwocaf o'i faledi oedd Cân ar ddull y gyfraith newydd, sef y workhouse. Cadwyd 73 o'i gerddi. Bu farw yn Lerpwl, ond nid oes sicrwydd am y dyddiad.