Latakia
Dinas hynafol yng ngogledd-orllewin Syria ar y Môr Canoldir sy'n borthladd pwysicaf y wlad honno yw Latakia neu Latakiyah (Arabeg, اللاذقية, Al-Ladhiqiyah; Groeg, Λαοδικεία, trawslythrenir fel Laodicea, Laodikeia neu Laodiceia, Twrceg, Lazkiye; Lladin, Laodicea ad Mare). Mae'n brifddinas talaith Latakia, gyda phoblogaeth o tua hanner miliwn (amcangyfrif). Gorwedd ar lan y Môr Canoldir tua 120 km i'r gorllewin o ddinas Aleppo, tua hanner ffordd rhwng Tartus i'r de ac Antakya i'r gogledd, yn Nhwrci. Ceir bryniau isel tu ôl i'r ddinas.
Math | dinas, dinas fawr, populated place in Syria |
---|---|
Poblogaeth | 700,000 |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Lattakia Subdistrict |
Gwlad | Syria |
Arwynebedd | 58 km² |
Uwch y môr | 0 metr |
Cyfesurynnau | 35.5236°N 35.7917°E |
Mae gan y ddinas hanes hir. Cyfeiria Strabo ati yn ei lyfr Daearyddiaeth (xvi.2.9 et seq.) fel lle cryf gyda harbwr ardderchog, a'r tir o'i chwmpas yn cynhyrchu gwin a allforid i Alexandria. Ar wahanol gyfnodau bu'n gartref i'r Ffeniciaid, a gododd ddinas Ramitha yma, i'r Groegiaid fel dinas Leuke Akte ('penrhyn gwyn'), i'r Seleuciaid ac i'r Rhufeiniaid. Cafodd ei ailgodi a'i ailenwi yn Laodicea gan Seleucus I Nicator, ar ôl ei fam. Cyfeiria Josephus at y bont dŵr a godwyd yma gan Herod Fawr.