Risol
Mae risol (o'r Lladin russeolus, sy'n golygu "cochlyd", trwy Ffrangeg lle mae "rissoler" yn golygu "i gochi", i'r Gymraeg o'r Saesneg rissole) yn "bêl neu gacen fflat o gig wedi'i dorri, pysgod, neu lysiau wedi'u cymysgu â pherlysiau neu sbeisys, yna wedi'u gorchuddio â briwsion bara a'u ffrio."[1] Disgrifir hi gan Geiriadur yr Academi fel, "pelen friwgig"[2] neu "cymysgedd o friwgig, &c., wedi ei orchuddio â briwsion bara a’i ffrio, pelen".[3]
Enghraifft o'r canlynol | bwyd |
---|---|
Math | croquette, byrbryd, bwyd |
Yn cynnwys | Crwst |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Amrywiaethau
golyguFfrainc
golyguRisols o Savoie - Pwdin o compote gellyg wedi'i bobi. Yn rhanbarth Savoie yn yr Alpau, gellir gweini risols fel pwdin wedi'i goginio. Maent wedi'u gwneud o gellyg mewn cytew ac yn cael eu pobi, nid eu ffrio.
Yng ngogledd Ffrainc, mae rissoles de Coucy yn cael eu gwneud â chig neu bysgod a gellir eu pobi neu eu ffrio.
Mae fersiynau gwahanol yn bodoli yn Auvergne neu yn nwyrain Ffrainc, gyda gwahanol fathau o gig neu datws a chawsiau.
Yn gyffredinol, crwst pwff (pâte feuilletée) yw'r toes a ddefnyddir neu fath o grwst brau (pâte brisée) wedi'i wneud â llai o fenyn. Gellir eu pobi neu eu ffrio. Mae rhai fersiynau a wneir gyda chrwst brau yn cael eu bara cyn eu ffrio.[4]
Prydain
golyguYn y 19g, disgrifiodd y gogyddes a'r awdur, Mrs Beeton, risols Ffrengig fel "Pastry, made of light puff-paste, and cut into various forms, and fried. They may be filled with fish, meat, or sweets." Fodd bynnag, roedd ei ryseitiau ar gyfer prydau Prydeinig bob dydd yn disgrifio risols a oedd yn cynnwys briwsion bara ond heb eu gorchuddio ag unrhyw beth, dim ond wedi'u ffrio (gweler y llun). Rhoddodd ryseitiau ar gyfer risols cig eidion, cig llo a thatws.[5]
Ym Mhrydain yn ystod ac ar ôl yr Ail Ryfel Byd, roedd risols fel arfer yn fesur economi, wedi'i wneud o gig wedi'i goginio a oedd yn weddill o'r cinio rhost dydd Sul. Nid ydynt wedi'u gorchuddio â chrwst.
Mae risols yn cael eu gwerthu mewn siopau sglodion yn ne Cymru, gogledd-ddwyrain Lloegr, a Swydd Efrog, wedi'u gweini â sglodion. Mae'r risols hyn yn rhai â chig (cig eidion yn nodweddiadol), neu bysgod yn Swydd Efrog, wedi'u stwnsio â thatws, perlysiau, ac weithiau nionyn. Maent wedi'u gorchuddio â briwsion bara neu'n llai aml yn cael eu gorchuddio â chytew a'u ffrio'n ddwfn.[6]
Risols Cymreig
golyguMae risols yn boblogaidd yn siopau 'sgod a sglods ar hyd Deheudir Cymru. Maen nhw'n cynnwys cig (cyw iâr neu cornbîff), tatws wedi eu berwi a stwnsio a winwns wedi eu ffrio ac yna cymysgu'r cynnwys gyda'u gilydd a'u rolio fewn i peli a'u gorchuddio â briwsion bara cyn eu ffrio. [7] Credir i'r risol gynnwys cornbîff yn ystod yr Ail Ryfel Byd gan fod hwnnw'n gynhwysyn rhad a haws ei chanfod na chigoedd eraill. Yn ôl un tybiaeth, cyflwynwyd risols i Gymru gan fewnfudwyr o'r Eidal i ddeheudir Cymru.[7] Gellir gynnwys cydfwyd fel persli neu gennin i'r saig sylfaenol.[8]
Gelwir y rysáit sylfaenol yma'n Corned Beef Patties mewn rhannau eraill o'r byd.[8]
Dolenni allanol
golygu- Welsh Rissole Recipie ar wefan Welsh Rarebit (2023)
- Traditional WELSH Corned Beef Rissoles sianel Youtube Backyard Chef (2024)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "rissole, n.". Oxford English Dictionary Online. July 2023. Cyrchwyd 12 July 2024.
- ↑ "Rissole". Geiriadur yr Academi. 28 Awst 2024.
- ↑ "Risol". Cyrchwyd 28 Awst 2024.
- ↑ Larousse, Librairie (2009-10-13). Larousse Gastronomique: The World's Greatest Culinary Encyclopedia, Completely Revised and Updated (yn Saesneg). National Geographic Books. ISBN 978-0-307-46491-0.
- ↑ Beeton, Isabella (1865). Mrs. Beeton's Dictionary of Every-Day Cookery. London: Ward, Lock & Tyler.
- ↑ Rissoles[dolen farw] FoodsOfEngland.co.uk Archifwyd 2020-12-12 yn y Peiriant Wayback. Accessed July 2020.
- ↑ 7.0 7.1 Morgan, Kacie (6 Awst 2023). "How To Make Welsh Rissoles: Authentic Welsh Rissole Recipe". Welsh Rarebit.
- ↑ 8.0 8.1 "Traditional WELSH Corned Beef Rissoles". Sianel Youtube Backyard Chef. 2024.