Robert Croft
Cricedwr, Cymro Cymraeg ac aelod anrhydeddus o Orsedd y Beirdd ydy Robert Damien Bale Croft (ganwyd 25 Mai 1970 yn Abertawe). Chwaraeodd i dimoedd Morgannwg, Cymru a Lloegr. Bu'n gapten ar Forgannwg rhwng 2003 a 2006 a'r Cymro cyntaf i gymryd 1,000 o wicedi mewn gemau Dosbarth Cyntaf a sgorio 10,000 o rediadau a hynny ym Medi 2007.
Robert Croft | |
---|---|
Ganwyd | 25 Mai 1970 Treforys |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cricedwr |
Gwobr/au | MBE |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Tîm criced cenedlaethol Lloegr, Clwb Criced Morgannwg, Marylebone Cricket Club |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Aeth i Ysgol Babyddol St. John Lloyd's yn Llanelli ac yna i Goleg Technegol Abertawe.
Chwaraeodd i dîm Lloegr a Chymru gyntaf yn erbyn Pacistan yn 1996 ac yna chwaraeodd yn Simbabwe a Seland Newydd. Yno, yn Christchurch cymerodd 5 wiced am 95 rhediad. Roedd ei sgôr dros y gaeaf hefyd yn arbennig: 182.1-53-340-18.
Chwaraeodd yn y Lludw yn 1997 ond cafodd ei adael allan o'r sgwad ar ôl cnocio cyfartaledd o 54 efo'r bêl. Ond yn nhrydydd prawf 1995 yn erbyn De Affrica achubodd y dydd i Loegr a Chymru pan sgoriodd 37 heb fod allan.
Roedd ei gêm genedlaethol (neu gêm brawf) olaf yn gemau'r Lludw yn Trent Bridge yn 2002. Bowliodd tair pelawd yn unig a chafodd wahoddiad i chwarae yn y prawf nesaf yn India. Gan fod hyn ychydig amser ar ôl 7/11 gwrthododd y cynnig ar sail diogelwch. Ni chwareodd chwaith yn Sri Lanca, a phan ddychwelodd oddi yno, cyhoeddodd ei ymddiswydiad o chwaraeon cenedlaethol er mwyn canolbwyntio ar gapteiniaeth Morgannwg.
Ym Medi 2006, wedi dim ond dwy fuddugoliaeth allan o 16 gêm, ymddiswyddodd fel capten Morgannwg.
Lloegr 'A'
- West Indies 1992
- De Africa 1993/94
Lloegr
- Simbabwe / Seland Newydd 1996/97
- Sharjah / West Indies 1997/98
- Awstralia 1998/99
- Sri Lanca 2000/01 and 2003/04.
Anrhydeddau gyda'r Tîm
golyguMorgannwg (1989 – hyd yma)
Pencampwyr
- County Championship: 1997
- National League: 1993, 2002, 2004
- National League Division 2: 2001
Anrhydeddau Unigol
golygu- Morgannwg Capten: 1992
- Morgannwg Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn: 1990, 1992
- Morgannwg Chwaraewr y Flwyddyn: 1996, 2003, 2004, 2007
- St.Helen's Balconiers: Chwarewr y Flwyddyn: 2007
- Morgannwg tymor elwa: 2000
- Morgannwg capten: 2003-2006
- The Weatherall Award: 2004 (for the leading all-rounder in English first-class game)
Uchafbwyntiau
golygu- Y Cymro cyntaf i sgorio 10,000 o geisiadau a chymryd 1,000 o wicedi mewn criced dosbarth cyntaf (2007)
- Ei anrhydeddu'n dderwydd gwisg wen yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Llyfrau
golygu- Bennett, Androw and Croft, Robert (1995) “Dyddiadur Troellwr” Y Lolfa, Talybont, Dyfed ISBN 0862433584
- Steen, Rob with Croft, Robert and Elliott, Matthew (1997) “Poms and cobbers : the Ashes 1997 : an inside view” Andre Deutsch, London ISBN 0233992103