Robert Evans (Cybi)
Llenor a bardd Cymraeg a hanesydd lleol oedd Cybi, sef enw barddol Robert Evans (27 Tachwedd 1871 - 16 Hydref 1956). Roedd yn frodor o blwyf Llangybi, Gwynedd, lle treuliodd y cyfan o'i oes.[1] Erbyn 1945 roedd wedi cyhoeddi 28 llyfr gyda gwerthiant o dros 100,000 o gopïau.[2]
Robert Evans | |
---|---|
Cybi yn Awst 1955; Geoff Charles | |
Ffugenw | Cybi |
Ganwyd | 27 Tachwedd 1871 Llangybi |
Bu farw | 16 Hydref 1956 Llangybi |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, bardd, llyfrwerthwr, postmyn, hanesydd lleol |
- Erthygl am y bardd Robert Evans yw hon. Defnyddiwyd y ffugenw 'Cybi' hefyd gan Eben Fardd (1802-1863). Am y sant, gwler Cybi.
Bywyd a gwaith
golyguCafodd ei fagu ar fferm ei rieni yn Llangybi. Dechreuodd weithio fel gwas fferm cyn cael gwaith fel postmon. Gwerthai lyfrau yn rhan amser ym marchnad Pwllheli.[1]
Ysgrifennodd nifer o lyfrau Cymraeg. Ei hoff faes oedd beirdd ardal Eifionydd a'i ddau waith pwysicaf efallai yw casgliad o waith anghyhoeddedig Robert ap Gwilym Ddu (1911) a'r gyfrol ar feirdd gwerin Eifionydd (1914). Roedd yn fardd pur adnabyddus yn ei ddydd; enillodd sawl gwobr eisteddfodol a chyhoeddodd gasgliad o'i gerddi yn 1912. Cyhoeddodd sawl llyfr i blant hefyd.[1]
Fel hanesydd lleol ymddiddorai yn hanes Eifionydd a Sir Gaernarfon a chyhoeddodd sawl cyfrol ar y pwnc yn cynnwys Cymeriadau Hynod Sir Gaernarfon (1923) a llyfr am fywyd a gwaith ei gyfaill 'Myrddin Fardd'.
Llyfryddiaeth ddethol
golygu- Ardal y Cewri (1907). Hanes.
- Odlau Eifion (1908). Cerddi.
- Awdl 'Bwlch Aberglaslyn' (1910)
- Llawlyfr o farddoniaeth i blant (1911).
- Gwaith Barddonol Cybi (1912). Cerddi.
- Lloffion yr Ardd, barddoniaeth anghyhoeddedig Robert ap Gwilym Ddu (1911)
- Beirdd gwerin Eifionydd a'u gwaith (1914)
- Cymeriadau Hynod Sir Gaernarfon (1923). Hanes.
- Cae'r Go William Hugh Williams, Yr Arloeswr Sol-ffa (1935). Bywgraffiad.
- John Jones (Myrddin Fardd) (1945). Astudiaeth.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 Y Bywgraffiadur Cymreig Ar-Lein, Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
- ↑ Cybi, John Jones (Myrddin Fardd) (1945). Broliant ar dudalen deitl y llyfr.