Robert Herbert Mills-Roberts
Cyn bêl-droediwr Cymreig oedd Dr. Robert Herbert Mills-Roberts (5 Awst 1862 – 27 Tachwedd 1935). Llwyddodd i ennill 8 cap dros Gymru rhwng 1885 a 1892 yn ogystal â Chwpan FA Lloegr gyda thîm Preston North End, y tîm ddaeth i gael eu hadnabod fel yr Invincibles.
Gwybodaeth Bersonol | |||
---|---|---|---|
Dyddiad geni | 5 Awst 1862 | ||
Man geni | Penmachno, Cymru | ||
Dyddiad marw | 27 Tachwedd 1935 | (73 oed)||
Man lle bu farw | Bournemouth, Lloegr | ||
Gyrfa Lawn* | |||
Blwyddyn | Tîm | Ymdd† | (Gôl)† |
1879–1882 | Aberystwyth Ysbyty St. Thomas, Llundain | ||
1884–1888 | Corinthian | ||
1886–1887 | Casuals | ||
1887–1889 | Preston North End | 10 | (0) |
Tîm Cenedlaethol | |||
1885–1892 | Cymru | 8 | (0) |
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd.. † Ymddangosiadau (Goliau). |
Fe'i ganed ym Mhenmachno yn fab hynnaf i Robert Roberts, cyn reolwr Chwarel yr Oakeley. Cafodd ei addysg yn Ysgol Friars, Bangor a Phrifysgol Aberystwyth lle roedd yn gapten ar y timau rygbi a phêl-droed[1].
Gyrfa bêl-droed
golyguTra'n astudio i fod yn feddyg yn Ysbyty St. Thomas yn Llundain, roedd yn aelod o dîm pêl-droed yr ysbyty yn ogystal â chlybiau amatur Barnes, Crusaders, Casuals a chlwb enwog Corinthian. Cynrychiolodd Middlesex a Surrey mewn gemau sirol ac ym 1885 gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru yn erbyn Lloegr.
Ym 1887 ymunodd â chlwb Preston North End fel chwaraewr amatur gan nad oedd golwr arferol y clwb, y Cymro James Trainer, yn gymwys i chwarae yng Nghwpan FA Lloegr[1]. Dim on 13 o gemau chwaraeodd Mills-Roberts dros Preston; wyth yng Nghwpan FA Lloegr, dwy gêm gynghrair a tair gêm gyfeillgar ond llwyddodd i chwarae yn rownd derfynol Cwpan FA Lloegr ddwywaith.
Roedd yn aelod o'r tîm gollodd yn y rownd derfynol ym 1888[2] ond ym 1889 llwyddodd i godi'r tlws a sicrhau mai Preston North End oedd y tîm cyntaf erioed i ennill y dwbwl o'r Gynghrair Bêl-droed a Chwpan FA yn yr un tymor [1][3].
Gyrfa feddygol
golyguLlwyddodd i ddod yn feddyg ym 1887 ac wedi cyfnod yn Ysbyty Cyffredinol Birmingham, symudodd i Lanberis ym 1889 er mwyn dod yn feddyg ar Ysbyty Chwarel Dinorwig[4].
Roedd yn aelod o'r Fyddin Diriogaethol gan ddod yn llawfeddyg gyda'r Welch Hospital yn ystod Ail Ryfel y Boer lle lwyddodd i esgyn i fod yn Uwchgapten yng Nghorfflu Meddygol Brenhinol y Fyddin. Tra yn Ne Affrica cafodd ei urddo gyda'r C.M.G. (Companion of St. Michael and St. George)[5].
Ar ddechrau'r Rhyfel Mawr roedd yn ddirprwy arweinydd 6ed Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ond trosglwyddodd yn ôl i'r Corfflu Meddygol er mwyn arwain yr 131st Field Ambulance oedd yn gysylltiedig â 38fed Adran Gymreig ym mrwydrau Ffrainc a Fflandrys[5][6].
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 "Doctor Who...?". PNE Former Players. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-05-01. Cyrchwyd 2015-11-28.
- ↑ "1888 FA Cup Final". Sporting Chronicle. sportingchronicle.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-08-24. Cyrchwyd 2015-11-28.
- ↑ "1889 FA Cup Final". Sporting Chronicle. sportingchronicle.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-10. Cyrchwyd 2015-11-28.
- ↑ "Ysbyty Chwarel Dinorwig". BBC Cymru. BBC Cymru.
- ↑ 5.0 5.1 "Obituary: RH Mills-Roberts CMG FRCSEd". British Medical Journal. BMJ.
- ↑ "The Field Ambulances". The Long, Long Trail. The Long Long Trail.