Robert Latham Owen
Gwleidydd o'r Unol Daleithiau o'r Blaid Ddemocrataidd oedd Robert Latham Owen (2 Chwefror 1856 – 19 Gorffennaf 1947). Roedd ef yn un o'r ddau seneddwr cyntaf o Oklahoma, yr Unol Daleithiau a gwasanaethodd yn y Senedd rhwng 1907 a 1925.
Robert Latham Owen | |
---|---|
Ganwyd | 2 Chwefror 1856 Lynchburg |
Bu farw | 19 Gorffennaf 1947 Washington |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America, Cenedl y Tsieroci |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, cyfreithiwr |
Swydd | Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau |
Plaid Wleidyddol | plaid Ddemocrataidd |
Tad | Robert L. Owen Sr. |
Mam | Narcissa Chisholm Owen |
Cafodd ei eni i deulu cefnog yn Lynchburg, Virginia, yn fab i lywydd cwmni rheilffordd. Er y cyfoeth cychwynnol, dirywiodd pethau, a chollodd y teulu ei ffortiwn o ganlyniad i Banic 1873 a marwolaeth ei dad pan oedd Robert yn ei arddegau.
Ar ochr ei fam, roedd Owen, yn rhanol Tsieroci ac at deulu'i fam y trodd gan ddechrau bywyd newydd fel athro mewn cartref i blant amddifad Tsieroci ac yna fel cyfreithiwr, gweinyddwr a newyddiadurwr. Am gyfnod bu hefyd yn asiant Indiaidd ffederal a sylfaenydd a llywydd cyntaf banc cymunedol. Ymhlith y llwyddiannau a ddaeth ag ef i sylw’r cyhoedd yn ehangach, ac a helpodd i baratoi’r ffordd ar gyfer ei ethol i Senedd yr Unol Daleithiau yn 1907 pan ddaeth Oklahoma (yn ymgorffori’r hen Diriogaeth India) yn dalaith, oedd ei lwyddiant fel cyfreithiwr yn 1906 wrth ennill achos llys ar ran y Tsierocïaid Dwyreiniol yn hawlio iawndal gan Lywodraeth yr Unol Daleithiau am diroedd dwyreiniol yr oedd y Tsierocïaid wedi'u colli.
Democrat oedd Owen, a bu'n weithgar mewn llawer o achosion blaengar, gan gynnwys ymdrechion i gryfhau rheolaeth gyhoeddus ar lywodraeth, a'r frwydr yn erbyn llafur plant. Heddiw, fe'i cofir yn arbennig fel noddwr Seneddol y Ddeddf Gronfa Ffederal Glass-Owen 1913, a greodd y Gronfa Ffederal genedlaethol. Mewn trafodaethau ar y pryd, gwrthwynebodd ymgyrch i roi’r Gronfa Ffederal (neu'r 'Ffed') yn ffurfiol o dan reolaeth y diwydiant bancio, a daeth Deddf 1913 i’r amlwg yn fras yn unol â chyfaddawd Owen, sef creu Bwrdd y Gronfa Ffederal canolog a enwebwyd gan y Llywodraeth ochr yn ochr â deuddeg Banc Ffederal Rhanbarthol, gyda'r mwyafrif ohonynt yn fanciau enfawr.
Yn dilyn hyn, daeth Owen yn feirniadol iawn o'r hyn a welai fel gogwydd y Gronfa Ffederal tuag at bolisïau datchwyddiant yn ystod y 1920au cynnar ac eto yn y 1930au cynnar, a briodolodd i ddylanwad gormodol y banciau mwyaf ar y Ffed. Nododd mai'r dylanwad hwn oedd yn bennaf gyfrifol am achosi’r Dirwasgiad Mawr: barn leiafrifol ar y pryd, ond un sydd, yn y degawdau diwethaf, wedi ennill derbyniad eang ymhlith economegwyr ceidwadol. Ym 1920 roedd Owen yn aflwyddiannus yn ei ymgais i gael ei enwebu gan y Blaid Ddemocrataidd ar gyfer arlywyddiaeth UDA.
Bywyd
golyguRoedd hynafiaid tad Owen wedi ymfudo o Gymru, ac roedd gan y teulu hanes o wasanaeth cyhoeddus fel meddygon ac athrawon. Roedd ei daid, William Owen a'i ewythr, Dr. William Otway Owen Sr. (1820-92), ill dau yn ymarfer meddygaeth yn Lynchburg, a gwasanaethodd yr olaf fel prif lawfeddyg gyda gofal dros ddeg ar hugain o ysbytai yn Lynchburg (a ddaeth yn Dr. canolfan ysbyty o bwys yn ystod y rhyfel) drwy gydol y Rhyfel Cartref.[1] Gwasanaethodd ei dad Robert Latham Owen Sr. yn Senedd Talaith Virginia ar ôl Rhyfel Cartref America. Mynychodd ei deulu Eglwys Esgobol (tebyg i wasanaethau Anglicanaidd) yn ei ieuenctid.[2]
Mynychodd Robert Owen ysgolion preifat yn ei dref enedigol, Lynchburg, Virginia ac yn Baltimore, Maryland. Yn 1877 graddiodd o Brifysgol Washington a Lee yn Lexington. Symudodd Owen, yr oedd ei fam yn Cherokee,[3] i Salina, yn Nhiriogaeth Oklahoma, a bu'n gweithio fel athro mewn ysgol Cherokee. Astudiodd y gyfraith a chafodd ei dderbyn i'r Bar ym 1880. O 1885 i 1889 bu'n cynrychioli buddiannau'r llywodraeth ffederal yn y "Five Civilized Tribes" fel asiant Indiaidd. Ym 1890 cyd-sefydlodd y Banc Cenedlaethol Cyntaf Muskogee, gan wasanaethu fel ei Lywydd am ddeng mlynedd.
Gyrfa
golyguRhwng 1892 a 1896 roedd Owen yn aelod o'r Pwyllgor Cenedlaethol Democrataidd. Wedi i Oklahoma gael ei dderbyn yn dalaith i'r Undeb, etholwyd ef a Thomas Gore i'w cynrychiolwyr cyntaf yn Senedd yr Unol Daleithiau yn Washington; cyn hynny mynychodd seremoni urddo y llywodraethwr cyntaf Charles N. Haskell yn Oklahoma City. Dechreuodd ei dymor yn y swydd ar 11 Rhagfyr 1907 a daeth i ben ar ôl cael ei ail-ethol ddwywaith ar 3 Mawrth 1925.
Seneddwr
golyguYn ystod ei gyfnod fel seneddwr, bu'n gadeirydd y Pwyllgor Bancio ac Arian, ymhlith pethau eraill, ac yn rhinwedd y swydd hon roedd yn un o brif gychwynwyr Deddf Cronfa Ffederal 1913, a greodd y system banc canolog yn yr Unol Daleithiau. Gelwir y mesur hefyd yn Fesur Glass-Owen, a enwyd ar ôl Robert Owen a Carter Glass, cyngreswr o Virginia a ddaeth yn Ysgrifennydd Trysorlys yr Unol Daleithiau o dan yr Arlywydd Woodrow Wilson ym 1918. Yn ddiweddarach ymbellhaodd Owen oddi wrth y system ddilynol, na chafodd yr effaith a ddymunai. Yn ei farn ef, dylai fod wedi arwain at reolaeth y llywodraeth ar y banc canolog; yn lle hynny, chwaraeodd dylanwad y banciau mawr ar y System Wrth Gefn Ffederal ran allweddol yn y Dirwasgiad Mawr. Er gwaethaf yr agwedd feirniadol hon, mae Owen bellach yn cael ei gydnabod fel cyd-sylfaenydd y system bancio canolog; Ar dir Adeilad Eccles y Banc Wrth Gefn Ffederal (Federal Reserve Bank ) yn Washington, mae Parc Robert Latham Owen yn coffau'r seneddwr. Yn y Senedd, roedd yn un o dri Democrat a bleidleisiodd yn erbyn Deddf Mewnfudo Gweriniaethol 1924, a oedd yn tynhau cyfyngiadau mewnfudo ymhellach, yn enwedig ar gyfer Ewropeaid de a dwyrain a rhai gwledydd tarddiad Asiaidd.[4]
Ym 1920, aeth Owen gyda llywodraethwr Oklahoma, Haskell, yr oedd yn ffrindiau ag ef, i'r Confensiwn Cenedlaethol Democrataidd yn San Francisco. Yno ceisiodd Haskell ei berswadio i redeg am y llywyddiaeth; Yn y pen draw, fodd bynnag, dewisodd y cynrychiolwyr James M. Cox, llywodraethwr Ohio. Ym 1924, ni redodd Owen i gael ei ailethol yn Seneddwr. Yna bu'n gweithio fel cyfreithiwr yn Washington, D.C., lle bu farw ym mis Gorffennaf 1947. Claddwyd ef yn ei le genedigol, Lynchburg.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Houck, Peter W. A Prototype of a Confederate Hospital Center in Lynchburg, Virginia. Lynchburg, Warwick House Publishing, 1986.
- ↑ Robert Latham Owen, Jr: His Careers as Indian Attorney and Progressive Senator. Oklahoma State University. 1985.
- ↑ 3.0 3.1 Kenny L. Brown. "Owen, Robert Latham". The Encyclopedia of Oklahoma History and Culture. Cyrchwyd 22 Chwefror 2023..
- ↑ "H.R. 7995". govtrack.us. Cyrchwyd 2022-02-11.