Robert Murray M'Cheyne

Gweinidog yn Eglwys yr Alban rhwng 1835 a 1843 oedd Robert Murray M'Cheyne (21 Mai 1813 – 25 Mawrth 1843). Ganwyd ef yng Nghaeredin ar 21 Mai 1813, derbyniodd ei addysg ym mhrifysgol ac yn Neuadd Ddiwinyddiaeth ei ddinas enedigol a bu'n weinidog cynorthwyol yn Larbert (Lèirbert) a Dunipace (Dùn na Bàis). Yn sgil cenhadaeth ymchwil ymhlith Iddewon Ewrop a Phalestina, a diwygiad crefyddol yn ei eglwys yn Dundee (Dùn Dèagh), temlai ei fod yn cael ei alw i waith efengylu yn hytrach na gwaith bugeiliol, ond cyn iddo allu gwireddu ei gynlluniau, bu farw ar 25 Mawrth 1843. Er mai dylanwad nodedig oedd McCheyne yn ystod ei oes, roedd hyn yn fwy gwir ar ôl iddo farw a hynny diolch i lyfr Memoirs and Remains, a olygwyd gan Andrew Bonar, a argraffwyd yn Saesneg dros gant o weithiau. Daeth rhai o'i emynau yn adnabyddus ac mae ei gynllun i ddarllen y Beibl mewn blwyddyn yn dal i gael ei ddefnyddio hyd heddiw.[1]

Robert Murray M'Cheyne
Ganwyd21 Mai 1813 Edit this on Wikidata
Caeredin Edit this on Wikidata
Bu farw25 Mawrth 1843 Edit this on Wikidata
Dundee Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethbardd, diwinydd, pregethwr Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar a gweinidogaeth golygu

Ganwyd Robert Murray M'Cheyne yn 14 Dublin Street yng Nghaeredin ar 21 Mai 1813, yn fab i Adam McCheyne, Ysgrifennydd yr Insel (bu farw 1854),[2] a Lockhart Murray, merch David Dickson o Locherwoods, Swydd Dumfriess.[3] Erbyn pedair oed roedd yn gwybod llythrennau'r wyddor Roegaidd ac roedd yn gallu canu ac adrodd yn rhugl. Aeth i'r ysgol uwchradd yn wyth oed a dechreuodd ei radd ym Mhrifysgol Caeredin fis Tachwedd 1827, lle y bu'n rhagori mewn sawl maes, yn enwedig mewn barddoniaeth. Enillodd wobr arbennig gan yr Athro Wilson am ei gerdd, Y Cyfamodwyr. Yn ystod gaeaf 1831, cychwynnodd ar ei astudiaethau yn y Neuadd Ddiwinyddiaeth, dan Dr Chalmers a Dr Welsh a derbyniodd drwydded pregethwr gan henaduriaeth Annan ar 1 Gorffennaf 1835.[4]

Yn gyntaf, roedd yn gwasanaethu fel cynorthwyydd i John Bonar ym mhlwyf Larbert a Dunipace, ger Falkirk, rhwng 1835 a 1836. Ar 24 Tachwedd 1836 fe'i hordeiniwyd i ofalaeth Eglwys St Peter's yn Dundee, a godwyd yn blwyf sacra quoad y mis Mai blaenorol. Roedd mil ac un cant yn y gynulleidfa a rhoddodd M'Cheyne ei hun i waith y weinidogaeth â brwdfrydedd angerddol nes i'w iechyd idlio ac ym mis Rhagfyr 1838, pan fu'n rhaid iddo roi'r gorau i'w ddyletswyddau cyhoeddus i gyd.[4] Aeth i Gaeredin i orffwys ac i adfer. Yn ei absenoldeb, roedd William Chalmers Burns yn pregethu ei le, a ddaeth yn genhadwr enwog i Tseina wedyn.[3]

Cenhadaeth golygu

 
Robert Murray M'Cheyne o "Cenhadaeth Môr Galilea Eglwys Rydd yr Alban"[5]

Yn 1839, anfonwyd M'Cheyne a Bonar, ynghyd â dau weinidog hŷn, Dr Alexander Black [6] a'r Dr Alexander Keith, i Balestina ar genhadaeth ymchwil i gyflwr yr Iddewon. Wedi iddynt ddychwelyd, cyhoeddwyd eu hadroddiad swyddogol ar gyfer Bwrdd Cenhadaeth Eglwys yr Alban tan y teitl Narrative of a Visit to the Holy Land and Mission of Inquiry to the Jews.[7] Arweiniodd hyn wedyn at Eglwys yr Alban ac Eglwys Rydd yr Alban yn sefydlu cenadaethau i'r Iddewon. Yn ystod absenoldeb M'Cheyne, penodwyd William Chalmers Burns yn gynorthwyydd iddo i bregethu yn St. Peter's.

Dychwelyd i Dundee golygu

Roedd M'Cheyne i ffwrdd o 12 Ebrill tan 6 Tachwedd 1839. Wedi iddo ddychwelyd, ailgydiodd yn ei waith yn Dundee ag egni newydd. Yn hydref 1842, ymwelodd â gogledd Lloegr ar genhadaeth efengylaidd a gwnaeth deithiau tebyg i Lundain a sir Aberdeen hefyd.[4] Pregethodd i'w bobl ei hun ar 12 Mawrth, a deuddydd wedyn fe gydiodd twymyn deiffws, a ddaliodd wrth ymweld, ynddo a bu farw ar 25 Mawrth 1843.[3]

Marwolaeth a chladdedigaeth golygu

Bu farw o deiffws yn Dundee yn dilyn salwch byr ar 25 Mawrth 1843. Roedd ei rieni yn cyd-fynd â dymuniad ei gynulleidfa i gladdu McCheyne yn y fynwent wrth ochr Eglwys St Peter's yn Dundee, yn hytrach nag yng nghladdfa ei deulu eu hun yng Nghaeredin. Fe'i claddwyd ddydd Iau 30 Mawrth 1843, pan fynychodd rhyw 7000 o bobl yr angladd. Codwyd cofeb fawreddog ar ben ei fedd.

Dylanwad golygu

Pregethwr, bugail a bardd oedd M'Cheyne ac ysgrifennodd lawer o lythyrau. Yr oedd hefyd yn ddyn o dduwioldeb dwfn ac yn un i weddïo.

Bu farw M'Cheyne union ddeufis cyn Rhwyg 1843. O'r herwydd, roedd pob cangen wahanol ym Mhresbyteriaeth yr Alban wedyn yn ei anrhydeddu, er ei fod ef yn gwrthwynebu'r Erastiaeth a arweiniodd at y Rhwyg. Cofnoda Bonar, "A phan, ar 7 Mawrth y flwyddyn ganlynol (sef 1843), yr oedd achos yr Eglwys o'r diwedd i'w bledio wrth far Tŷ'r Cyffredin, yr wyf yn ei weld yn ysgrifennu: 'Noson gofiadwy ydyw hon yn y Senedd Brydeinig! Unwaith eto y mae'r Brenin Iesu yn sefyll mewn tribiwnlys daearol, ac nid ydynt yn ei adnabod!'” — Memoir (1892), t. 147).

Ni phriododd M'Cheyne erioed ond roedd ganddo ddyweddi ar adeg ei farwolaeth, Jessie Thain. Mae'n debyg nad yw'r un gweinidog yn Eglwys yr Alban yn cael ei gofio fwy heddiw am dduwioldeb ei gymeriad, yr ymroddiad parod a ddylanwadai ar gyfanrwydd ei weinidogaeth fer a'r llwyddiant a oedd bob tro yn dilyn ei ymdrechion fel pregethwr yr Efengyl. Bu'n ddisgybl diwyd o'r Beibl ac roedd yn ysgolhaig clasurol da. Yn fachgen y dysgodd ddarllen Groeg a gallai sgwrsio yn Hebraeg. Roedd ganddo ddoniau barddonol, celfyddydol a cherddorol cain. Hyfforddodd ei gynulleidfa i ganu'r Salmau, ac eiddo yr holl Eglwysi yw ei emynau.[3]

Yn fuan ar ôl ei farwolaeth, golygodd ei gyfaill Andrew Alexander Bonar ei gofiant a gyhoeddwyd gyda rhai o'i lawysgrifau fel The Memoir and Remains of the Rev. Robert Murray M'Cheyne. Erbyn hyn, mae'r llyfr wedi cael ei argraffu lawer o weithiau ac mae wedi cael dylanwad hirhoedlog ar Gristnogaeth Efengylaidd ledled y byd.

Mae llawer wedi defnyddio'r cynllun a ddyfeisiodd M'Cheyne i ddarllen trwy'r Beibl mewn blwyddyn, sydd yn golygu darllen y Testament Newydd a'r Salmau ddwywaith y flwyddyn a'r Hen Destament unwaith. Cynhwyswyd y cynllun hwn wedi’i addasu ychydig yn For the Love of God gan D. A. Carson ac fe’i hargymhellir gan nifer o gyhoeddwyr Beiblau Saesneg, megis yr English Standard Version a’r New English Translation. Mae Eglwys Goffa McCheyne yn Dundee wedi'i henwi ar ei ôl.

Gweithiau golygu

 
Hunanbortread Robert Murray M'Cheyne
  • Why is God a Stranger in the Land? (Caeredin, 1838)
  • Reasons why Children should fly to Christ without Delay (Caeredin, 1839)
  • To the Lambs of the Flock (Caeredin, 1840)
  • Testimony against the running of Railway Trains on Sabbath (Dundee, 1841)
  • Love the Lord's Bay (Dundee, 1841)
  • Daily Bread (Caeredin, 1842)
  • Another Lily Gathered (Caeredin, 1842)
  • Narrative of a Mission of Inquiry to the Jews from the Church of Scotland in 1839 [gydag Andrew A. Bonar] (Caeredin, 1842)
  • The Eternal Inheritance, the Believer's Portion, and the Vessels of Wrath fitted to Destruction, two discourses (Dundee, 1843)
  • Expositions of the Epistles to the Seven Churches of Asia (Dundee, 1843)
  • Songs of Zion to cheer and guide Pilgrims on their way to the New Jerusalem (Dundee, 1843)
  • Memoir and Remains (portrait) by Andrew A. Bonar (Caeredin, 1844; sawl agraffiad, a cyfieithiad i'r Aeleg gan Allan Sinclair, 1895)
  • Additional Remains consisting of various Sermons and Lectures (Caeredin, 1846)
  • Basket of Fragments, the Substance of Sermons (Aberdeen, 1848)
  • Revival Truth, being Sermons hitherto unpublished (Llundain, 1860)[3]
  • Mission of Discovery Christian Focus Publications, ISBN 978-1-85792-258-5
    • Ysgrifennodd yr emynau canlynol —
  • "When this Passing World is done"
  • "I once was a Stranger to Grace and to God"
  • "Beneath Moriah's Rocky Side" [ysgrifennwyd wrth droed mynydd Carmel, June 1839]
  • "Like Mist on the Mountains"
  • "Ten Virgins clothed in White"[3]

Llyfryddiaeth golygu

  • Jean L. Watson's Life of Robert Murray McCheyne
  • Dundee Celebrities
  • Autobiography of Thomas Guthrie, D.D. [disgrifir ynddo y ddamwain y dywedir iddo fod yn ddechrau i salwch M'Cheyne's], 174; (Llundain, 1874);
  • Nome's Dundee Celebrities, 81-5
  • Julian's Dictionary of Eymnology, 707[3]

Cyfeiriadau golygu

Dyfyniadau golygu

Ffynonellau golygu

Darllen pellach golygu

  • Deffro – Bywyd a Gweinidogaeth Robert Murray McCheyne gan David Robertson, Christian Focus Publications, ISBN 978-1-84550-542-4

Dolenni allanol golygu