Robin gycyllog
Robin gycyllog Petroica cucullata | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Passeriformes |
Teulu: | Petroicidae |
Genws: | Melanodryas[*] |
Rhywogaeth: | Melanodryas cucullata |
Enw deuenwol | |
Melanodryas cucullata |
Aderyn a rhywogaeth o adar yw Robin gycyllog (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: robinod cycyllog) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Petroica cucullata; yr enw Saesneg arno yw Hooded robin. Mae'n perthyn i deulu'r Robinod Awstralia (Lladin: Petroicidae) sydd yn urdd y Passeriformes.[1] Yr hen enw ar y teulu hwn oedd yr Eopsaltridae.
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn P. cucullata, sef enw'r rhywogaeth.[2] Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yn Awstralia.
Tacsonomeg golygu
Fel pob 'robin' yn Awstralia, nid yw'n perthyn yn agos i'r robin goch Ewropeaidd na robin America, ond mae'n perthyn yn hytrach i'r urdd Corvida sy'n cynnwys llawer o 'adar clwydol' (passerines) gan gynnwys y pardalotiau (ee. pardalot mannog), y ceinddrywod (ee. ceinddryw hardd, a bwytawyr mêl, ee. y tinciwr wynebwyn yn ogystal â brain. Yn wreiddiol credid ei fod yn perthyn i wybedog yr Hen Fyd, ac fe'i disgrifiwyd fel Muscicapa cucullata gan yr adaregydd Saesneg John Latham ym 1801. Yn ddiweddarach fe'i disgrifiwyd fel Grallina bicolor gan Nicholas Aylward Vigors a Thomas Horsfield. Fe'i gosodwyd yn ddiweddarach yn y genws Petroica am flynyddoedd lawer cyn hynny cyn cael ei drosglwyddo i Melanodryas.
Mae'r enw generig melanodryas yn deillio o'r Groeg melas 'du' a dryas 'wood-nymff'. Mae'r enw penodol cucullata yn deillio o'r Lladin Diweddar cucullatus sy'n golygu 'cwfl'.
Teulu golygu
Mae'r robin gycyllog yn perthyn i deulu'r Robinod Awstralia (Lladin: Petroicidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:
Rhestr Wicidata:
rhywogaeth | enw tacson | delwedd |
---|---|---|
Gwybed-robin yr afon | Monachella muelleriana | |
Robin bengoch | Petroica goodenovii | |
Robin binc | Petroica rodinogaster | |
Robin garned | Eugerygone rubra | |
Robin lychlyd | Peneoenanthe pulverulenta | |
Robin rosliw | Petroica rosea | |
Robin twtwai | Petroica australis | |
Robin y graig | Petroica archboldi |
Gweler hefyd golygu
Cyfeiriadau golygu
- ↑ [https://web.archive.org/web/20040610130433/http://www.cymdeithasedwardllwyd.org.uk/ Archifwyd 2004-06-10 yn y Peiriant Wayback. Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd]; adalwyd 30 Medi 2016.
- ↑ Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.