Robin goch
Robin goch | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Passeriformes |
Teulu: | Muscicapidae |
Genws: | Erithacus[*] |
Rhywogaeth: | Erithacus rubecula |
Enw deuenwol | |
Erithacus rubecula (Linnaeus, 1758) | |
Dosbarthiad y rhywogaeth |
Mae'r Robin goch (Erithacus rubecula) yn un o'r mwyaf adnabyddus o'r holl adar. Arferai gael ei ystyried yn aelod o deulu'r Turdidae, y bronfreithod, ond yn ddiweddar mae wedi ei ail-ddosbarthu i deulu'r Muscicapidae.
Enwau mewn ieithoedd Celtaidd eraill:
- Llydaweg: Boc'hruzig rujodenn
- Cernyweg: Rudhak
- Gwyddeleg: spideog
- Manaweg: Spittag
- Gaeleg yr Alban: Brù-dhearg
Mae'n aderyn cyfarwydd am ei fod yn hawdd ei adnabod gyda'i frest goch, ac am ei fod yn aderyn dof yn Ynysoedd Prydain, yn barod i ddod yn agos iawn at unrhyw un sy'n gweithio yn yr ardd, er enghraifft, i chwilio am bryfed. Ambell dro mae hyd yn oed yn barod i ddod i mewn i dai i gael ei fwydo. Mewn rhannau o'r gweddill o Ewrop nid yw mor ddof.
Yn anarferol, mae'r Robin Goch yn canu trwy'r flwyddyn, nid yn y gwanwyn yn unig. Mae'r gân yn yr hydref a'r gaeaf yn wahanol i'r gân yn y gwanwyn a'r haf. Mae'n nythu mewn unrhyw dwll neu gornel addas. Gall fod yn aderyn ymosodol dros ben - os daw Robin Goch arall i mewn i'w diriogaeth gallant weithiau ymladd nes i un ladd y llall. Gall unrhyw ddarn bach o liw coch wneud i'r aderyn ymosod.
Nid yw'n aderyn mudol yn y rhannau hynny lle nad yw'r gaeaf yn arbennig o oer, ond er enghraifft mae adar o Sgandinafia a Rwsia yn dod i Brydain i aeafu. Gellir eu hadnabod trwy fod y fron yn fwy oren yn hytrach na choch.
Mae llawer o chwedloniaeth ynglŷn â'r Robin Goch, er enghraifft i egluro sut y cafodd ei fron goch. Ystyrir y Robin yn symbol o'r Nadolig, ac mae i'w weld yn aml ar gardiau Nadolig. Mae'n aderyn cyffredin iawn yng Nghymru, ac ychydig o erddi sydd heb Robin Goch o'u cwmpas. Dyma englyn gan Alan Llwyd sy'n creu darlun o blentyn newynog:
Newyn, a ni'n ciniawa, yw ei ran
- Ymgreiniwr am fara!
- Colsyn ar ewyn yr iâ
- A'i big oer yn begara.[1]
Teulu'r Turdidae (Robinod)
golyguRhestr Wicidata:
rhywogaeth | enw tacson | delwedd |
---|---|---|
Gwybedog Cassin | Muscicapa cassini | |
Gwybedog Siberia | Muscicapa sibirica | |
Gwybedog mannog | Muscicapa striata | |
Gwybedog tywyll Affrica | Muscicapa adusta | |
Robin-grec torwyn | Dessonornis humeralis | |
Robin-grec y Penrhyn | Dessonornis caffer |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Edrych Drwy Wydrau Lledrith gan Alan Llwyd (Gwasg Christopher Davies (5); tud 18.