Dorothy Squires

canwr

Cantores Gymreig oedd Dorothy Squires (Edna May Squires) (25 Mawrth 191514 Ebrill 1998). Ymhlith ei chaneuon enwocaf oedd "A Lovely Way to Spend an Evening", "I'm in the Mood for Love", "Anytime", "If You Love Me (Really Love Me)" a "And So to Sleep Again".

Dorothy Squires
Ganwyd25 Mawrth 1915 Edit this on Wikidata
Pontyberem Edit this on Wikidata
Bu farw14 Ebrill 1998 Edit this on Wikidata
Llwynypia Edit this on Wikidata
Label recordioParlophone Records Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaethcanwr Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth bop, draddodiadol Edit this on Wikidata
PriodRoger Moore Edit this on Wikidata

Ei bywyd cynnar golygu

Cafodd ei geni mewn carafan ym Mhontyberem sydd rhyw 12 milltir o Lanelli. Roedd ei thad Archibald James Squires yn weithiwr dur, ac enw ei mam oedd Emily. Dechreuodd ganu yn broffesiynol pan oedd yn 16 oed.

Pan yn blentyn, roedd Squires eisiau piano ond prynodd ei mam iwcalili iddi. Tra'n gweithio yn y ffatri tin plat, dechreuodd berfformio'n broffesiynol pan oedd yn 16 oed, gan ganu yng nghlwb gweithwyr gwrywaidd Pontyberem.

Gyrfa golygu

Penderfynodd Squires ddilyn ei breuddwyd gan symud i Lundain, lle gweithiodd fel nyrs. Mynychodd glyweliadau am gyfer swyddi amrywiol ac yno cyfarfu â Joe Jay, asiant a lwyddodd i gael gwaith iddi mewn clybiau nos. Tra'n gweithio yn Nwyrain Llundain, rhoddwyd yr enw llwyfan 'Dorothy' iddi. Hoffai'r enw hwn a defnyddiodd yr enw pan oedd yn perfformio ar lwyfan o hyn allan.

Gwnaeth Squires y rhan fwyaf o'i gwaith gyda cherddorfa Billy Reid, a oedd yn bartner iddi am nifer o flynyddoedd. Ar ôl iddi ymuno â'i gerddorfa ym 1936, dechreuodd Reid gyfansoddi caneuon ar ei chyfer - a honnodd Squires iddi golli ei gwryfdra i Reid hefyd.

Roger Moore golygu

Pan ddaeth ei pherthynas â Reid i ben, priododd Squires yr actor Seisnig Roger Moore yn New Jersey ym 1953. Roedd ef ddeuddeg mlynedd yn iau na hi ond parhaodd y briodas tan 1961. Roedd y ddau yn byw ac yn gweithio arwahan (yn Efrog Newydd a Hollywood am gyfnodau hirion, ac o ganlyniad gadawodd Moore Squires, gan fynd i fyw gyda Luisa Mattioli. Ni fedrai Moore briodi Mattioli yn gyfreithlon tan i Squires gytuno i gael ysgariad ym 1969 - ar yr union ddiwrnod y cafwyd Squires yn euog o yfed a gyrru.

Dychwelodd Squires i fyw yn y DU, lle adfywiwyd ei gyrfa ar ddiwedd y 1960au a hithau'n 55 oed. Aeth tair o'i senglau i 40 Uchaf y DU, gan gynnwys ei fersiwn hi o "My Way". Arweiniodd hyn at albymau newydd a chyngherddau gan gynnwys cyfres o gyngherddau a werthodd allan ym Mhaladiwm Llundain. Squires ei hun a logodd y Paladiwm am gyfres o sioeau, a chafodd nifer o bobl syndod fod yr holl docynnau wedi gwerthu mewn cyfnod mor fyr. Rhyddhawyd albwm dwbl o'r digwyddiad.

Senglau llwyddiannus golygu

Dolenni allanol golygu