Ronnie Carroll
Canwr a difyrrwr o Ogledd Iwerddon oedd Ronnie Carroll (ganed Ronald Cleghorn, 18 Awst 1934; marw 13 Ebrill 2015).
Ronnie Carroll | |
---|---|
Ronnie Carroll yn canu yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision 1962 | |
Ganwyd | 18 Awst 1934 Belffast |
Bu farw | 13 Ebrill 2015 Llundain |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Galwedigaeth | canwr, cyflwynydd teledu, gwleidydd |
Priod | Millicent Martin |
Ganed Carroll ym Melffast, Gogledd Iwerddon. Cafodd ei ddewis i gynrychioli'r Deyrnas Unedig yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision a daeth yn 4ydd gyda'r gan Ring-A-Ding Girl. Cynrychiolodd y Deyrnas Unedig am yr eildro ym 1963 gyda'r gân Say Wonderful Things a daeth yn 4ydd unwaith eto. Carroll yw'r unig ganwr i gynrychioli'r Deyrnas Unedig yn y gystadleuaeth am ddwy flynedd yn olynol.
Disgograffiaeth senglau
golygu- "Walk Hand in Hand" - (1956) - Siart senglau'r DU - #13
- "The Wisdom of a Fool" - (1957) - #20
- "Footsteps" - (1960) - #36
- "Ring-A-Ding Girl" - (1962) - #46
- "Roses Are Red" - (1962) - #3
- "If Only Tomorrow" - (1962) - #33
- "Say Wonderful Things" - (1963) - #6