Ross Reid

(Ailgyfeiriad o Ross Sander)

Seiclwr rasio Cymreig o Llanhari, Bro Morgannwg ydy Ross Reid (Ross Sander gynt)[1] (ganwyd 21 Awst 1987[2]). Cynrychiolodd Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad Iau yn 2004. Torodd ei arddwn tra'n cystadlu yn rownd derfynol y Pursuit Tîm drost Brydain ym Mhencampwriathau Trac Iau y Byd yn 2005, enillodd y tîm fedal arian gan golli allan ar yr aur i Seland Newydd oherwydd y ddamwain[3]. Cynrychiolodd Gymru unwaith eto yng Ngemau'r Gymanwlad yn 2006 gan gystadlu yn Ras Scratch 20 km a 40 km. Mae Ross eisoes yn byw ac yn ddinesydd o'r Unol Daleithiau. Bydd yn aelod o dîm Rapha-Condor-Recycling.co.uk ar gyfer tymor rasio 2008.[1]

Ross Reid
Gwybodaeth bersonol
Enw llawnRoss Reid
Dyddiad geni (1987-08-21) 21 Awst 1987 (37 oed)
Manylion timau
DisgyblaethFfordd
RôlReidiwr
Math seiclwrPursuit
Tîm(au) Amatur
Tîm(au) Proffesiynol
2008
Rapha Condor recycling.co.uk
Golygwyd ddiwethaf ar
14 Medi, 2007

Canlyniadau

golygu
2003
1af Ras Ffordd Clwb Beicio Ystwyth
2004
1af Pencampwriaethau Trac Cymru, Kilo (Categori Iau)
1af Pencampwriaethau Trac Cymru, Pursuit (3km) (Categori Iau)
2il Pencampwriaethau Trac Prydeinig, Pursuit Tîm, (gyda Geraint Thomas, Ian Stennard a Ben Swift)
2il Pencampwriaethau Trac Cymru, Ras Bwyntiau 25km
5ed Kilo, Gemau'r Gymanwlad Iau
2005
3ydd Ras Ffordd Clwb Beicio Ystwyth
2007
1af Cymal Cwpan UIV (Union Internationale des Vélodromes) Amsterdam (Madison gyda Jonathan Bellis)

Cyfeiriadau

golygu
  • [1] Canlyniadau ar britishcycling.org.uk
  1. 1.0 1.1 Herety names Rapha squad and his goals Archifwyd 2008-08-28 yn y Peiriant Wayback Cycling Weekly 9 Tachwedd 2007
  2. "Proffil ar wefan VC St Raphael (Dyddiad geni yn anghywir)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2004-07-21. Cyrchwyd 2007-09-24.
  3. Crash mars Sander's silver medal BBC 10 Awst 2005
   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.