Bwrdd yr Iaith Gymraeg
Corff statudol oedd 'Bwrdd yr Iaith Gymraeg a sefydlwyd gan Lywodraeth y DU fel rhan o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993. Derbyniodd y Bwrdd grant blynyddol gan y llywodraeth, £13.4 miliwn yn 2006–7, a oedd i fod i'w ddefnyddio er mwyn "hybu a hwyluso" defnydd o'r iaith Gymraeg. Roedd y Bwrdd yn gyfrifol am weinyddu Deddf yr Iaith Gymraeg, ac am sicrhau bod cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn cadw at ei rheolau.
Bwrdd yr Iaith Gymraeg | |
Arwyddair | "Gwneud hi'n haws i bawb ddefnyddio Cymraeg ymhob agwedd ar fywyd."[1] |
---|---|
Pencadlys | Caerdydd, Caerfyrddin, a Chaernarfon |
Iaith / Ieithoedd swyddogol | Cymraeg |
Prif Weithredwr | Meirion P. Jones |
Sefydlwyd | Rhagfyr 1993 |
Diddymwyd | Mawrth 2012 |
Math | Asiantaeth weithredol |
Lleoliad | Cymru |
Cyllideb | Dim cyllideb, ond yn cael grant blynyddol gan y llywodraeth o £12m |
Gwefan | www.webarchive.org.uk/wayback/archive/20081121144021/http://www.byig-wlb.org.uk/Pages/Hafan.aspx |
Gellir ystyried Cyngor yr Iaith Gymraeg, a sefydlwyd yn 1973, fel cynsail at sefydlu'r Bwrdd. Wedi hynny, sefydlwyd corff ymgynghorol anstadudol ym 1988 o dan gadeiryddiaeth John Walter Jones.[2] Gwnaeth y bwrdd argymhellion i’r llywodraeth yn 1991 bod angen Deddf Iaith newydd, gan arwain at Deddf Iaith 1993 a sefydlodd y bwrdd statudol.[3]
Ar ddiwedd 2004 cyhoeddodd y Prif Weinidog Rhodri Morgan "goelcerth y cwangos" a fyddai yn diddymu sawl corff yn cynnwys Bwrdd yr Iaith.[4] Croesawyd hyn gan Gymdeithas yr Iaith[5] ond nid oedd pawb yn cytuno.[6] Yn 2006 cafwyd pleidlais yn y Cynulliad yn gorchymyn i Llywodraeth y Cynulliad ohirio'r cynllun.[7][8] Yn dilyn Etholiad y Cynulliad 2007 cafwyd cytundeb Cymru'n Un rhwng Llafur a Phlaid Cymru. Dair mlynedd yn ddiweddarach cyflwynodd y Llywodraeth y Mesur Iaith hir-ddisgwyliedig ac fe'i basiwyd gan y Cynulliad ar 7 Rhagfyr 2010. Byddai'r Ddeddf yn sefydlu swydd newydd Comisiynydd Iaith gan ddod a Bwrdd yr Iaith i ben ar ôl bron i ugain mlynedd.[9] Diddymwyd Bwrdd yr Iaith Gymraeg ar 31 Mawrth 2012 a trosglwyddwyd staff, eiddo a dyletswyddau y bwrdd i Lywodraeth Cymru ac i Gomisiynydd y Gymraeg.[10][11]
Prif weithredwyr
golygu- Rhagfyr 1993-Mawrth 2004 – John Walter Jones
- Ebrill 2004-31 Mawrth 2012 – Meirion Prys Jones
Cadeiryddion
golygu- Rhagfyr 1993-Chwefror 1999 – Dafydd Elis-Thomas
- Mawrth 1999–Awst 2004 – Rhodri Williams
- Awst 2004-Chwefror 2012 – Meri Huws
- 1 Chwefror 2012–31 Mawrth 2012 – Marc Phillips
Agweddau at y Bwrdd
golyguBeirniadwyd y Bwrdd gan rai, yn honni nad oedd grym ganddo dros y cyrff cyhoeddus ac yn ei feirniadu am fethu hyrwyddo'r iaith o fewn y sector preifat.
Agwedd ymgyrchwyr dros y Gymraeg oedd gweld y Bwrdd yn offeryn diddannedd a biwrocrataidd yn yr ymgyrch i arbed yr iaith Gymraeg. Roedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ei feirniadu'n llym, gan ymgyrchu am ddeddf iaith newydd.
Dolenni allanol
golygu- Gwefan Bwrdd yr Iaith Gymraeg archifwyd gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Archif Gwefan Bwrdd yr Iaith Gymraeg
- ↑ "John Walter Jones yn cofio Deddf yr Iaith Gymraeg". BBC Cymru Fyw. 2018-10-19. Cyrchwyd 2023-05-03.
- ↑ Rowlands, Neil. "Hanes a datblygiad yr iaith Gymraeg / The history and development of the Welsh language – Parallel.cymru: Cylchgrawn digidol Cymraeg dwyieithog". Cyrchwyd 2023-05-03.
- ↑ "Ymateb y cwangos". 2004-11-30. Cyrchwyd 2023-05-05.
- ↑ "Gofyn am gyfarfod gyda Rhodri Morgan ac Alun Pugh i drafod dyfodol yr iaith | Cymdeithas yr Iaith Gymraeg". cymdeithas.cymru. 2004-12-06. Cyrchwyd 2023-05-05.
- ↑ "Dadl am ddyfodol bwrdd yn parhau". 2005-10-11. Cyrchwyd 2023-05-05.
- ↑ "BBC CYMRU'R BYD - Cyfoes - Wythnos o Feddwl". www.bbc.co.uk. 2006-04-09. Cyrchwyd 2023-05-05.
- ↑ "Bwrdd Iaith: Gohirio cyfuno". 2006-07-04. Cyrchwyd 2023-05-05.
- ↑ "Pen y daith i'r Mesur Iaith". 2010-12-07. Cyrchwyd 2023-05-05.
- ↑ "Gorchymyn Bwrdd yr Iaith Gymraeg (Trosglwyddo Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) 2012". legislation.gov.uk. 2012. Cyrchwyd 2023-05-06.
- ↑ "Prif Weithredwr Bwrdd yr Iaith yn 'siarad rwtsh'". Golwg360. 2012-02-15. Cyrchwyd 2023-05-03.