Rwseiffa

dinas yn Gwlad Iorddonen

Mae Rwseiffa (neu Russeifa mewn orgraff gyffredin Saesneg; Arabeg: الرصيفة) yn ddinas o Ardal Lywodraethol Zarqa, Gwlad Iorddonen. Mae ganddi boblogaeth o 472,604 yn 2015,[1], gan ei gwneud y bedwaredd ddinas fwyaf yn y wlad, ar ôl Amman, Irbid a Zarca. Ymddengys, am ddinas mor fawr, nad oes gan Reseiffa dîm pêl-droed o safon genedlaethol.

Rwseiffa
Mathdinas Edit this on Wikidata
Poblogaeth472,604 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethShadi Al-Zinati Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+2 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirArdal Lywodraethol Zarqa Edit this on Wikidata
GwladBaner Gwlad Iorddonen Gwlad Iorddonen
Arwynebedd38 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr750 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau32.0178°N 36.0464°E Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethShadi Al-Zinati Edit this on Wikidata
Map

Daearyddiaeth

golygu
 
Rwseiffa

Mae tref Rwseiffa wedi'i lleoli yng nghanol yr Iorddonen, ym nyffryn yr Afon Zarqa, ar briffordd Amman-Zarqa. Mae Amman, Zarqa a Rwseiffa yn ffurfio ardal fetropolitan fawr, yr ail ardal fetropolitan fwyaf yn y Lefant, ar ôl Damascus yn Syria. Mae'r ddinas yn perthyn yn weinyddol i Lywodraethiaeth Zarqa. Oherwydd ei agosrwydd at Amman a Zarqa, mae'n gartref i nifer o ddiwydiannau trwm.

Demograffeg

golygu

Amcangyfrifodd Cyfrifiad Cenedlaethol Iorddonen 2004 fod poblogaeth Rwseiffa yn 268,237 o drigolion.[2] Roedd cyfran y menywod i ddynion yn 48.46% i 51.54%. Dinasyddion Iorddonen sy'n ffurfio 89.6% o boblogaeth y ddinas.

Economi

golygu

Mae'r ddinas yn adnabyddus am ei diwydiant mwyngloddio ffosffad ers 1935, a ddarganfuwyd gan Amin Kamel Kawar.[3] Mae'r cwmni "Jordan Phosphate Mines", a sefydlwyd gan Kawar, yn gweithredu'r mwyngloddiau yn Rwseiffa. Ymddengys nad yw'r mwynglawdd bellach mewn defnydd ac nad oes ffosffad ar ô.[4]

Ceir sawl diwydiant trwm yn Rwseiffa oherwydd ei lleoladi rhwng dwy ddinas fawr Amman a Zarqa, a phresenoldeb yr afon Zarqa gerllaw.

Dolenni

golygu
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau

golygu
  1. "The General Census - 2015" (PDF). Department of Population Statistics.
  2. Nodyn:Citar web
  3. "Amin K. Kawar". kawar.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-11-01. Cyrchwyd 2019-04-16.
  4. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-04-16. Cyrchwyd 2019-04-16.