SYBS

Band slacyr indi post-pync o Gaerdydd enillodd Brwydr y Bandiau yn 2018

Band pop Cymraeg yw SYBS o Gaerdydd. Maent yn disgrifio eu hunain fel "band indi post-pync slacyr".[1][2] Enw'r grŵp yn wreiddiol oedd Y Sybs ond gollyngwyd y fannod yn 2019.[3]

SYBS
Enghraifft o'r canlynolband Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2018 Edit this on Wikidata
Genreôl-pync, Pop Cymraeg Edit this on Wikidata

Enillodd y band Cystadleuaeth Brwydr y Bandiau yn 2018 a'r un flwyddyn â Label Libertino.[4]

Yn Ebrill 2019 rhyddhaodd y band eu sengl gyntaf, 'Paid Gofyn Pam' a'r ail sengl, Cwyr flwyddyn yn ddiweddarach yn 2020 ac yna Anwybodaeth rhai misoedd yn hwyrach.

Yn 2024 rhyddhaodd y band eu halbym gyntaf, Olew Nadroedd oedd, yn ôl un adolygydd yn "creu collage bywiog o synau sy’n cyfleu anhrefn ac egni eu bywydau cyn COVID, lle bu i brifysgolion a gigs cyson yng Nghaerdydd."[5]

Daeth cân y grŵp, 'Gwacter' yn rhif 4 yn Siart Amgen flynyddol rhaglen Rhys Mwyn ar BBC Radio Cymru yn 2024. Mae'r Siart yn gyfle i wrandawyr bleidleisio dros y caneuon mae nhw'n credu sydd yn neg uchaf y flwyddyn honno (gan gynnwys caneuon o flynyddoedd blaenorol).[6]

Aelodau

golygu

Ceir pedwar aelod i'r grŵp, mae dau ohonynt, Osian Llŷr, a Herbie, yn feibion i ddau aelod o'r grŵp o'r 1990au, y Crumblowers sef Owen Stickler (drymiwr, tâd Osian) ac Owen Powell (gitâr, a hefyd gitarydd y band, Catatonia, tad Herbie).[7] Roedd Crumblowers yn grŵp boblogaidd iawn yn y Sîn Roc Gymraeg ar ddechrau'r 1990au.

  • Osian Llŷr - gitâr, canu, geiriau
  • Herbie Powell - gitâr fâs
  • Dafydd Adams - drymiau
  • Kieron McDonald-Brown - gitâr [8]
  • Zach Headon (ymddengys yn nyddiau cynnar y band)

Disgograffi

golygu

Senglau

golygu

Mae'r grŵp wedi rhyddhau sawl sengl:[4]

  • Paid Gofyn Pam - Label Libertino, 2019
  • Cwyr - Label Libertino, 2020
  • Anwybodaeth - Label Libertino, 2020[9]
  • Llygaid Ebrill - Label Libertino, 2021
  • Gwacter- Label Libertino, 2023
  • Canned Laughter - Label Libertino, 2024

Mae'r band wedi rhyddhau un albwm:[4]

  • Olew Nadroedd - Label Libertino (LIB210CD, 2024)[8]

Dolenni allanol

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Cyflwyniad". Tudalen Facebook SYBS. Cyrchwyd 17 Rhagfyr 2024.
  2. "Sengl, a Fideo SYBS". Y Selar. 15 Ebrill 2019.
  3. "Sengl, a Fideo SYBS". Y Selar. 15 Ebrill 2019.
  4. 4.0 4.1 4.2 "Y Sybs". Y Selar. Cyrchwyd 17 Rhagfyr 2024.
  5. "Sybs Discuss Their Favourite Welsh Acts". Babystep Magazine. 17 Mai 2024. Cyrchwyd 17 Rhagfyr 2024.
  6. "Siart Amgen Rhys Mwyn 2024". BBC Cymru Fyw. 17 Rhagfyr 2024.
  7. "Aelod o fand, fel Mam a Dad". BBC Cymru Fyw. 17 Ebrill 2019.
  8. 8.0 8.1 "Olew Nadroedd". Discogs. Cyrchwyd 17 Rhagfyr 2024.
  9. "Y Sybs". Gwefan Eisteddfod Genedlaethol Cymru. 2024. Cyrchwyd 17 Rhagfyr 2024.