Crumblowers
Roedd y Crumblowers yn fand Cymraeg o faestref Yr Eglwys Newydd yng Gaerdydd oedd yn perfformio a recordio yn yr 1980au hwyr a 1990au cynnar.[1] oedd y Crumblowers. Roeddynt i gyd yn heblaw Dave Rizzo, yn gyn-ddisgyblion yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, ysgol gyfun Gymraeg gyntaf Caerdydd. Aeth Owen Powell ymlaen i fod yn aelod o'r grŵp Catatonia a lwyddodd i gyrraedd y brig yn y byd canu Saesneg. Er mai enw Saesneg oedd y Crumblowers (a sillafwyd weithiau fel Crymblowers) yn y Gymraeg oeddynt yn canu. Roedd Owen a Lloyd Powell yn ddau frawd. Roedd y Crumblowers yn rhan o don o grwpiau Cymraeg ddaeth o Ysgol Glantaf gan ddechrau gydag U Thant ac yna Edrych am Jiwlia, Hanner Pei, Bili Clin, Cofion Ralgex a mwy. Bu Siôn Lewis yn gitarydd achlysurol i'r band.
Y Crumblowers yn perfformio yn Clwb Ifor Bach oddeutu 1989 | |
Enghraifft o'r canlynol | band |
---|---|
Gwlad | Cymru |
Mae meibion dau o aelodau'r Crumblowers, Owen Sticker, ac Owen Powell, yn aelodau o'r grŵp, SYBS.
Aelodau
golygu- Owen Powell[2] (llais)
- Lloyd Powell[2]
- Owen Stickler (drymiau)
- Lloyd Mahoney (gitâr)
- Dave Rizzo (bâs)
- Siôn Lewis (gitâr) aelod achlysurol
Recordiau
golyguLlithro Mewn i Ffantasi (EP), 1989[3]
Colossus (Sengl), 1990[3]
Dolenni
golygu- Syth gan y Crumblowers ar Youtube
- Crumblowers ar Discogs
- John Peel and the fight for the future of Welsh language music Erthygl yn nodi'r Crumblowers yn Saesneg
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "maes-e.com • Dangos pwnc - 27/09 U Thant / Crumblowers, Clwb Ifor". maes-e.com. Cyrchwyd 2022-08-28.
- ↑ 2.0 2.1 "Aelod o fand, fel Mam a Dad". BBC Cymru Fyw. 2019-04-17. Cyrchwyd 2022-08-28.
- ↑ 3.0 3.1 "Crumblowers". Discogs (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-08-28.