Tahini

past o hadau seseme

Past yw tahini neu tahina (Arabeg: طحينية; Hebraeg: טחינה; Ffarsi: ارده, ardeh), Twrceg: tahini) wedi'i wneud o hadau sesame wedi eu malu (a elwir hefyd yn sesame) a ddefnyddir fel cynhwysyn mewn amryw o seigiau o'r Dwyrain Canol.[1]

Tahini
Mathpast taenadwy, bwyd, food paste, Cyfwyd Edit this on Wikidata
Rhan ocoginiaeth yr Aifft, coginio Gwlad Groeg, Cypriot cuisine, coginio Libanus, Levantine cuisine, Iraqi cuisine, bwyd o Syria, Turkish cuisine Edit this on Wikidata
Yn cynnwyshadau sesame Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Past Tahini
Jar o Tahini

Etymoleg

golygu

Daw'r gair tahini o'r Arabeg: طحينة‎ [tˤaħiːna], neu'n fyw cywir, ṭaḥīniyya طحينية, sy'n dod o'r gwraidd ط ح ن Ṭ-Ḥ-N a geir yn y ferf طحن ṭaḥana sy'n golygu "melino" (to grind yn Saesneg),[1] yr un gwraidd â'r gair طحين [tˤaħiːn], "blawd" mewn rhai tafodieithoedd Arabeg.

Saws tahini

golygu

Mae saws Tahini yn cynnwys:

  • Past Tahini a wneir o hadau sesame (gorau oll wedi'u rhostio) wedi'u melino, ychwanegu hylif (dŵr, olew hadau neu olew olewydd) a phinsiad o halen
  • Gewin garlleg, wedi'i falu
  • Halen
  • Sudd lemwn
  • Persli, wedi'i dorri'n fân (dewisol)

Defnydd

golygu

Mae tahini yn elfen ddewisol wrth wneud hwmws a baba ganush (wylys wedi stwnsio). Gellir ei daenu hefyd ar fara (yn bennaf mewn bara pita). Gellir hefyd ei wneud yn fwy hylifog gyda sudd lemwn a dŵr (a garlleg o ddewis) i greu saws sy'n cyd-fynd llawer o brydau fel cig troell, megis cebab, troell-rhost fel siawarma, ffalaffel, salad, ac ati.

  • Twrci, caiff tahini ei chymysgu â pekmez (math o surop) a'i fwyta fel rhan o frecwast yn y gaeaf.
  • Yn y Balcan a'r Dwyrain Canol, Tahini yw prif gynwysyn halfa (halva).

Gwybodaeth maeth

golygu

Mae tahini yn gyfoethog iawn mewn fitaminau yn enwedig fitamin B1, fitamin B2 a fitamin B6 ac mae'n cynnwys llawer o galsiwm ac haearn. Mae felly yn fwyd a chynhwysyn poblogaidd gan lyseiwyr a figaniaid. Caiff hefyd ei werthu fel taenyn bwyd amgen i menyn cnau mwnci mewn siopau bwyd iach neu llyseiol, yn ogystal â siopau bwyd Twrcaidd ac Arabaidd.

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Ghillie Basan a Jonathan Basan, The Middle Eastern Kitchen: A Book of Essential Ingredients with Over 150 Authentic Recipes (Hippocrene Books, 2006), t.146

Dolenni allanol

golygu