Sabra

Israeli Iddewieg gynhenid a anwyd ar dir Israel ''Eretz Israel'' (yn hytrach nag yn yr alltudiaeth)..

Mae'r term sabra neu tsabra mewn trawslythreniad mewn ieithoedd eraill (o'r Hebraeg צַבָּר tzabar)[1] yn dynodi'r poblogaethau Iddewig a anwyd cyn 1948 yn Israel, a elwid bryd hynny fel Palestina dan Fandad Gwlad Israel (Eretz Israel) neu'r Wlad Sanctaidd , a'u disgynyddion ymhlith y boblogaeth Israel bresennol. Trwy estyniad, mae'r term yn cyfeirio at bawb a anwyd yn ngwladwriaeth Israel a'i thiriogaethau hawliedig (Israel heddiw, Palesteina, Llain Gaza, y Lan Orllewinol, a Jerwsalem). Mae rhai hefyd yn ychwanegu tiriogaethau Penrhyn Sinai a Ucheldiroedd Golan.[2][3]

Sabra
Enghraifft o'r canlynolterm, enw Edit this on Wikidata
MathIddewon, Israeliaid Edit this on Wikidata
Poblogaeth4,201,000 Edit this on Wikidata
Rhan oIddewon Edit this on Wikidata
IaithHebraeg Edit this on Wikidata
Enw brodorolצבר Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Moshe Dayan; ymgorofforiad o'r Sabra cynnar a fagwyd ar cibwts a bu'n arweinydd milwrol a gwleidyddol
Dail a ffrwythau cactws y gellyg pigog, y sabra

Daw'r gair o'r Hebraeg tzabar [3] (enw'r cactws opuntia), mewn cyfeiriad ffigurol at ddycnwch a chymeriad pigog y planhigyn anialwch hwn, sy'n cuddio tu mewn tyner a blas melys.

Hanes golygu

Daeth y term i fodolaeth yn y 1930au [4][5] ar ôl tonnau o fewnfudo (aliyah), yn bennaf gan Iddewon o Ddwyrain Ewrop, i diriogaeth Palesteina. Roedd y term yn wahaniaeth i Iddewon a oedd wedi symud i'r ardal neu a oedd yn dal i fyw yn y diaspora. Mae'n drosiad o gael eich gwreiddio yn y famwlad yn groes i bob disgwyl.

Yn enwedig ers sefydlu'r wladwriaeth, mae nifer y bobl hyn wedi cynyddu'n sydyn. Roedd yn fwy na 4 miliwn yn 2010, tua 70% o'r boblogaeth, a chododd i 75% yn 2015.[6] Mae'r ieithydd Israelaidd, Ruvik Rosenthal, yn ei "Dictionary of Slang" (argraffiad Hebraeg), yn disgrifio sut oedd y term yn cael ei ddefnyddio a'i ddeall gan y mudiad Seionaidd: Tra yr oedd yr " hen Iuddewon " wedi eu geni yn y Galut (alltudiaeth, diaspora), tyfodd yr "Iddewon newydd" yn y cenedl ar y dechreu gan mwyaf. Yr oedd yr "hen Iddewon" yn siarad Hebraeg ag acen doredig, tra yr oedd yr "Iddewon newydd" yn dyfod i fyny yn siarad eu mamiaith. Yn ychwanegol at hyn roedd y ffaith bod gan bobl ifanc hawliau cyfartal – hynny yw, dynion a merched fel ei gilydd – ar gyfer y Lluoedd Amddiffyn Israel a hyfforddwyd.

Mae ystyriaeth wyddonol o'r term, sydd bellach wedi dod yn chwedl, ei wneud gan y cymdeithasegydd, Az Almog yn ei lyfr, The Sabra - The Creation of the New Jew.[7]

Sabras adnabyddus golygu

Ymhlith y Sabras adnabyddus byddai pobl fel y Cadfridog Moshe Dayan a anwyd ar Cibwts Degania Alef ar Fôr Galilea a'r cadfridog ac yna Prif Weindiog Israel, Ariel Sharon. Ganwyd y ddau ar dir Israel, yn wahanol i'r arweinwyr cynnar, megis David Ben-Gurion ac eraill a aned yn Ewrop.

Het Sabra golygu

 
Plant sabra ar Moshav Moledet, yn 1950, yn gwisgo'r 'het Sabra', y kova tembel

Cysylltir y Sabra nodweddiadol o ganol yr 20g gydag un oedd yn gwisgo het tembel neu kova tembel ("het ffŵl/twpsyn"). Roedd yn het Dwrcaidd yn wreiddiol, a dechreuodd yr het tembel gael ei chynhyrchu ym Mhalestina y Mandad Brydeinig o ganol y 1930au ymlaen gan ATA (‘Tecstiliau Cynhyrwyd ar ein Tir'; Arigim Totzeret Artzeinu yn Hebraeg). Fe'i gwisgwyd gan weithwyr caib a rhaw ac amaethwyr hyd at yr 1980au gan ddod yn symbol o'r wladwriaeth Iraeli a'r Iddewon cynhenid, Sabra Seinonistaidd. Fei'i boblogeiddiwyd neu anfarwolwyd hefyd gan gymeriad cartŵn mewn papurau Israeli, Srulik. Mae'r gair "tembel" yn Twrceg yn golygu "diogyn", tra bod tambal neu tambel yn Arabeg yn golygu "ffŵl" neu "twpsyn".[8]

Sabra yn derbyn gwrthwynebiad golygu

Hwmws Sabra golygu

Ceir hwmws o'r enw Sabra Hummus a gynhyrchir gan gwmni Sabra-Blue & White Foods yn 1986. Gwerthwyd y cwmni i wneuthurwr bwyd Israeli, y Strauss Group yn 2005. Yn ôl yr ymgyrchwyr, mae'r gorfforaeth sy'n adnabyddus am ei chefnogaeth benodol i Lu Amddiffyn Israel (IDF), sef brigadau milwyr traed Golani a Givati elitaidd.[9]

'Sabra' - Cymeriad Cartŵn golygu

Bu i'r cymeriad ffuglennol cartŵn, Sabra gan Marvel Comics, dderbyn gwrthwynebiad gan wylwyr Arabaidd ac eraill.[10] Mae'r cymeriad, "fersiwn Israel o Captain America" yn ôl rhai y ffilm wedi ei seilio ar y comics, Captain America: New World Order i'w darlledu yn 2024. Dadlenwyr y cymeriad Sabra gyntaf yn storiau comic The Incredible Hulk yn yr 1980au. Chwaraeir Sabra gan yr actores Israeli ac Iddewes, Shira Haas (Shtisel, The Zookeeper's Wife). Mae'r cymeriad yn gwisgo Seren Dafydd ar ei ffurfwisg ac yn asiant i'r Mossad (gwasanaeth cuddwybodaeth Israel).

Cyfeiriadau golygu

  1. Balashon - Hebrew Language Detective
  2. Logo Blwyddyn Seinoistiaeth
  3. 3.0 3.1 "Tzabar". 23 Mawrth 2008.
  4. Apel, Dora (2012). War Culture and the Contest of Images. New Brunswick, New Jersey: Rutgers University Press. t. 196. ISBN 9780813553962. Israelis, however, also appropriate the cactus as a symbol of their connection to the land and the word sabra, meaning a Jewish person born in Israeli territory, comes from the Arabic sabr.
  5. Kaschl, Elke (2003). Dance and Authenticity in Israel and Palestine: Performing the Nation. Leiden, Netherlands and Boston, Massachusetts: Brill. t. 60. ISBN 9789004132382. Sabra refers to all Jews who are not immigrants, but who are born in historic Palestine/Israel.
  6. Redaktion (22 Ebrill 2015). "8,345,000 people living in Israel". Ynetnews (yn Saesneg). Cyrchwyd 13 Ebrill 2022.
  7. Oz Almog: The Sabra – The creation of the new Jew. The S. Mark Taper Foundation imprint in Jewish studies. Berkeley: University of California Press, 2000, S. 1 f.
  8. "The Israeli 'bucket hat' – The 'tembel' hat – 'Kova tembel', or 'Fool's hat'". Israeli Postage Stamps. 1 Ionawr 2019.
  9. "Why we refuse to buy Sabra Hummes". Sianel Youtube Chicagoland. 9 Mai 2011.
  10. "nger over Marvel's Israeli 'superhero' Sabra in new film". Al Jazeera. 13 Medi 2022.

Dolenni allanol golygu

  • Is the TZABAR really TZABAR? sianel Piece of Hebrew, yn Hebraeg gydag is-deitlau Saesneg
  • Sabra ffilmig gyda throslais Saesneg yn dilyn Ezra, bachgen ifanc Sabra, yn casglu a gwerthu ffrwyth y tsabar (1960)
  Eginyn erthygl sydd uchod am Israel. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.