Dip o'r Lefant yw hwmws (Arabeg: حُمُّص‎, enw Arabaidd llawn: hummus bi tahini Arabeg: حمص بالطحينة‎) a wnaed o ffacbys wedi'u malu neu ffa eraill, wedi'u cymysgu â tahini, olew olewydd, sudd lemwn, halen a garlleg.[1] Mae'n boblogaidd yn y Dwyrain Canol a Môr y Canoldir, ac ym mwyd y Dwyrain Canol ar draws y byd. Mae hwmws hefyd ar gael ym mwyafrif o siopau bwyd Gogledd America ac Ewrop.

 
Hwmws gyda ffacbys cyfan ac olew olewydd ar ei ben

Cofnodir y ryseitiau cynharaf ar gyfer bwyd tebyg i hummus bi tahina mewn llyfrau coginio a ysgrifennwyd yng Nghairo yn yr 13g.[2] Mae rysait ar gyfer piwri oer o ffacbys gyda finegr a lemwn wedi'i biclo a pherlysiau, sbeisys ac olew, ond heb tahini na garlleg, i'w weld yn y Kanz al-Fawa'id fi Tanwi' al-Mawa'id;[3] ac mae piwri o ffacbys a tahini o'r enw hummus kasa yn ymddangos yn y Kitab Wasf al-Atima al-Mutada: piwri ffacbys a tahini sy’n sail iddo, a chaiff ei asideiddio â finegr (ond dim lemwn), ond mae hefyd yn cynnwys llawer sbeisiau, perlysiau a chnau, heb arlleg. Caiff ei weini wedi'i rolio'n fflat a'i adael dros nos,[4] sydd o bosib yn rhoi gwead gwahanol iawn i hummus bi tahina. Yn wir, mae ei brif gynhwysion —ffacbys, sesame, lemwn, a garlleg—wedi cael eu bwyta yn yr ardal am filenia.[5][6] Er y caiff ffacbys eu bwyta'n helaeth yn y rhanbarth, roeddent yn cael eu coginio'n aml mewn prydau a stiwiau poeth,[7] nid yw ffacbys piwri oer gyda tahini yn ymddangos cyn cyfnod yr Abbasiaid yn yr Aifft a'r Lefant.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Sami Zubaida, "National, Communal and Global Dimensions in Middle Eastern Food Cultures" yn Sami Zubaida a Richard Tapper, A Taste of Thyme: Culinary Cultures of the Middle East, (Llundain ac Efrog Newydd, 1994/2000) ISBN 1-86064-603-4, t. 35.
  2. Encyclopedia of Jewish Food, John Wiley & Sons, 2010, By Gil Marks, page 270
  3. Lilia Zaouali, Medieval Cuisine of the Islamic World, University of California Press, 2007, ISBN 978-0-520-26174-7, translation of L'Islam a tavola (2004), p. 65
  4. Perry et al., p. 383
  5. Tannahill p. 25, 61
  6. Brothwell & Brothwell passim
  7. e.g. a "simple dish" of meat, pulses and spices described by Muhammad bin Hasan al-Baghdadi in the 13th century, Tannahill p. 174