Sam Kogan
Sam Kogan | |
---|---|
Ganwyd | 22 Hydref 1946 Wcráin |
Bu farw | 11 Tachwedd 2004 Llundain |
Addysg | Russian Academy of Theatre Arts (GITIS) |
Actor, cyfarwyddwr ac athro o'r Wcráin oedd Sam Kogan (22 Hydref 1946 - 11 Tachwedd 2004). Mae'n fwyaf adnabyddus am ddatblygu a sefydlu techneg actio newydd o'r enw "The Science of Acting." Sefydlodd ysgol unigryw yn Llundain ym 1991 o'r enw The School of the Science of Acting ('The Kogan Academy of Dramatic Arts' ac 'The Academy of the Science of Acting and Directing'). [1] Ysgrifennodd lyfr hefyd o'r enw The Science of Acting, a olygwyd gan ei ferch, Helen Kogan.
Bywyd cynnar
golyguGaned Kogan i deulu Iddewig yn Sokyriany, dinas fechan yn Oblast Chernivtsi yn yr hen Undeb Sofietaidd, ond fe'i magwyd yn Chernivtsi. Yn ei ieuenctid roedd yn ddawnsiwr gwerin a reslwr medrus, gan gystadlu ar lefel genedlaethol. Ym 1966 cafodd fynediad i GITIS - Academi Celfyddydau Theatr Rwsia, lle bu'n astudio am bum mlynedd o dan arweiniad Maria Knebel . [2] Roedd Knebel ei hun yn gyn-fyfyriwr i Konstantin Stanislavski, [3] Michael Chekhov, Yevgeny Vakhtangov a Vsevolod Meyerhold [4] yn ogystal â chydweithiwr i Stanislavski a Vladimir Nemirovich-Danchenko . Graddiodd Kogan ym 1971. Ceisiodd gartref ffafriol i'w waith creadigol, gan gyrraedd Llundain ym 1974.
Datblygiad The Science of Acting
golyguYn Llundain, dechreuodd Kogan ddatblygu ei syniadau am actio. Wedi'i ddylanwadu'n arbennig gan system actio Konstantin Stanislavski, rhannodd ei obaith o "droi cynulleidfaoedd yn glustfeiniaid, gan syllu trwy wal anweledig ar fywydau pobl go iawn." [5] Dros y 30 mlynedd dilynol, bu Kogan yn datblygu ei dechneg actio, gan obeithio galluogi'r actorion i anwybyddu'r arsylwi. Credai:
We want to watch people who behave as though unobserved to find out how people live, so that we can better understand ourselves. Watching how people live ensures that self-understanding and growth can continue.
— Sam Kogan, The Science of Acting.
Datblygodd y dechneg o greu theatr realistig sy'n gwefreiddio'r gynulleidfa. Am weddill ei oes bu'n gweithio i ddatblygu The Science of Acting yn dechneg unigryw fyddai'n gadernid ar gyfer actio safonnol. Agorodd Ysgol ei hun ym 1991 lle bu'n athro a phrifathro. Yn y flwyddyn cyn ei farwolaeth disgrifiodd Kogan The Science of Acting fel 'gwaith cwbl gyflawn...mae'r ganddynt bopeth sydd ei angen, bellach.' [6]
“ | As an acting teacher and principal of The School of the Science of Acting, I have often been asked, 'Why is it important to understand the workings of the consciousness to become a good actor?' My answer, 'If you want to act well, consider this question - how will you be able to understand and portray the states of mind of different characters effectively if you do not understand the workings of you own mind?' | ” |
The School of the Science of Acting
golyguYm 1991, sefydlodd Kogan The School of the Science of Acting [7] yn Holloway, Gogledd Llundain, gan gynnig diploma dwy flynedd mewn actio a diploma tair blynedd mewn actio a chyfarwyddo. Ar ôl ei farwolaeth yn 2004 symudodd yr ysgol i Archway a throi'n Academi - The Academy of the Science of Acting and Directing. O 2014 ymlaen fe'i gelwid yn The Kogan Academy of Dramatic Arts, [Academi Gelfyddydau Dramatig Kogan], gan gynnig cyrsiau actio amser llawn a rhan-amser. Yn 2019 aed yn ôl i'r enw gwreiddiol sef The School of the Science of Acting. [8]
Yn ystod ei gyfnod fel pennaeth The School of the Science of Acting, bu Kogan yn gohebu’n aml â phapur newydd The Stage, gan herio moeseg a thechnegau amrywiol sefydliadau a chyrff hyfforddi drama. Gosododd hefyd hysbysebion ar gyfer ei ysgol yn The Stage oedd yn honni "Does neb yn malio mwy, does neb yn dysgu'n well". [9]
Myfyrwyr nodedig
golygu- David Bark-Jones
- Richard Brake
- Philip Bulcock
- Eddie Marsan
- Pooky Quesnel
- Morfudd Hughes
- Siw Hughes
- Bethan Jones
Marwolaeth
golyguBu farw Sam Kogan o ganser ar 11 Tachwedd 2004. Cynhaliwyd gwasanaeth angladdol yn Eglwys Uniongred Rwsia yn South Kensington a fynychwyd gan ei deulu a ffrindiau yn ogystal â llawer o fyfyrwyr Sam.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Neil, Richard (1993-05-27). "A master at his acting 'science'". The Stage. pg 26.
- ↑ Mitchell, Katie (14 August 2008). The Director's Craft - A Handbook for the Theatre. Routledge. t. 230. ISBN 978-1134138081.
- ↑ Delgado, Rebellato, Maria, Dan (2010). Contemporary European Theatre Directors. Routledge. t. 327. ISBN 978-0203859520.
- ↑ Efros, Anatoly (2011). The Joy of Rehearsal. Peter Lang Publishing. t. 3. ISBN 978-1433114809.
- ↑ Carnicke, S. (1998). Stanislavski in Focus. Amsterdam: Harwood. t. 25.
- ↑ Kogan, Sam (24 September 2009). The Science of Acting. Routledge. t. xvi. ISBN 978-0415488129.
- ↑ Innes, Shevtsova, Christopher, Maria (2 May 2013). The Cambridge Introduction to Theatre Directing. Cambridge. t. 210. ISBN 978-0521606226.
- ↑ "Science of Acting". Science of Acting. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-04-09. Cyrchwyd 2024-09-22.
- ↑ Kogan, Helen (29 October 2009). "The appliance of science". The Stage.