Bethan Jones (cyfarwyddydd)
Actores, cyfarwyddydd theatr a chynhyrchydd teledu yw Bethan Jones (ganwyd 1956), sy'n enedigol o Rosllannerchrugog. Un o sylfaenwyr cwmni theatr Dalier Sylw, fu'n weithgar iawn yng Nghymru yn y 1990au. Cyfarwyddodd Bethan nifer o ddramâu beiddgar a dylanwadol, gan gynnwys llwyfaniad cyntaf o ddramâu Meic Povey (Wyneb Yn Wyneb, Tair a Fel Anifail) a dramâu newydd gan Geraint Lewis, Gareth Miles a Siôn Eirian. Wedi i Dalier Sylw ddod i ben, bu'n Gynhyrchydd ar y gyfres Pobol y Cwm, ac yn Uwch Gynhyrchydd ar sawl cyfres deledu uchelgeisiol i'r BBC fel addasiadau o'r nofelau War And Peace a Les Misérables. Cafodd ei henwebu am ddwy Wobr Emmy am ei gwaith.[1] Derbyniodd Wobr y Fonesig Siân Phillips gan BAFTA Cymru yn 2019.[2]
Bethan Jones | |
---|---|
Ganwyd | Bethan Elwyn Jones 1956 Rhosllannerchrugog |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | Ysgol Morgan Llwyd |
Galwedigaeth | cyfarwyddydd theatr a chynhyrchydd teledu |
Cysylltir gyda | Dalier Sylw a Pobol Y Cwm |
Gyrfa
golyguDerbyniodd ei haddysg yn Ysgol Morgan Llwyd ble bu'r dramodydd Gareth Miles yn athro arni.[3] Dechreuodd ei gyrfa fel actores, a bu'n rhan o gyfresi cynnar S4C fel Coleg a Dinas. Bu'n cyfarwyddo gyda chwmniau theatr fel Moving Being. Ymunodd â BBC Cymru fel cynhyrchydd drama yn 2002 yn bennaf ar y gyfres Pobol Y Cwm, cyn cael ei phenodi yn Uwch Gynhyrchydd Drama gan BBC Cymru yn 2005.[2] Sefydlodd sawl cwmni cynhyrchu ffilm a theledu.[4] Sefydlodd gwmni ffilm Red Seam ar y cyd â'r actor Michael Sheen a bu'r ddau yn cynhyrchu'r gyfres deledu The Way.[5] Bu'n gweithio i gwmnïau annibynnol fel Cuba Pictures, Playground Entertainment a Little Door Productions.[6]
Gwaith
golyguDramâu Llwyfan
golygu- Hunllef Yng Nghymru Fydd (1990) Dalier Sylw (cyfarwyddydd)
- Largo Desolato (1990) Dalier Sylw (cyfarwyddydd)
- Mysgu Cymyle (1991) Dalier Sylw (cyfarwyddydd)
- Half Year End - cyd-awdur a chyfarwyddydd - Rhosllannerchrugog
- Y Forwyn Goch (1992) Dalier Sylw (cyfarwyddydd)
- Wyneb Yn Wyneb (1992) Dalier Sylw (cyfarwyddydd)
- Tair (1993) Dalier Sylw (cyfarwyddydd)
- Calon Ci (1993) Dalier Sylw (cyfarwyddydd)
- Fel Anifal (1994) Dalier Sylw (cyfarwyddydd)
Dramâu Teledu a Ffilmiau
golygu- Coleg (1982- ) HTV/S4C (actores)
- Dinas (1985- ) HTV/S4C (actores)
- Pobol Y Cwm (2002 -2005) BBC (cynhyrchydd ac uwch gynhyrchydd)
- Hamlet (2009) (uwch gynhyrchydd)
- Sherlock (2010-2017) BBC / Hartswood (uwch gynhyrchydd)
- Mistresses (2011) BBC (uwch gynhyrchydd)
- Baker Boys (2011) BBC (cynhyrchydd)
- Merlin BBC (uwch gynhyrchydd)
- Room At The Top (2012) BBC (uwch gynhyrchydd)
- Wizards Vs. Aliens (2012) BBC (uwch gynhyrchydd)
- A Poet in New York BBC (uwch gynhyrchydd)
- The Passing Bells (2014) BBC (uwch gynhyrchydd)
- Under Milk Wood (2014) BBC (uwch gynhyrchydd)
- Atlantis (2014-2015) BBC (uwch gynhyrchydd)
- War And Peace (2016) BBC (uwch gynhyrchydd)
- Aberfan: The Green Hollow (2016) BBC (uwch gynhyrchydd)
- Press (2018) BBC (uwch gynhyrchydd)
- Les Misérables (2018-2019) BBC (uwch gynhyrchydd)
- Dangerous Liaisons (2022) (Starz/Lionsgate) (uwch gynhyrchydd)[7]
- The Way (2024) BBC (uwch gynhyrchydd)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Bethan Jones". Television Academy (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-11.
- ↑ 2.0 2.1 "Bethan Jones and Lynwen Brennan to be honoured at British Academy Cymru Awards". www.bafta.org (yn Saesneg). 2019-10-02. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2024-09-11. Cyrchwyd 2024-09-11.
- ↑ Rhaglen Calon Ci gan Dalier Sylw. 1994.
- ↑ "Bethan Elwyn JONES personal appointments - Find and update company information - GOV.UK". find-and-update.company-information.service.gov.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-11.
- ↑ "THE WAY: BBC ANNOUNCES NEW DRAMA FROM MICHAEL SHEEN AND JAMES GRAHAM". www.tvzoneuk.com. Cyrchwyd 2024-09-11.
- ↑ "Little Door Productions, the Welsh firm behind BBC drama The Pact, is expanding its team with the appointment of Playground Entertainment's Bethan Jones and BBC exec Beth Grant".
- ↑ "Bethan Jones | Producer, Editorial Department". IMDb (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-11.