Siw Hughes
Actores a chyflwynwraig Gymreig yw Siw Hughes (ganwyd 16 Ionawr 1958).
Siw Hughes | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 16 Ionawr 1958 ![]() Bangor ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor ![]() |
Bywgraffiad Golygu
Fe'i ganwyd ym Mangor a magwyd yn Llangefni ac fe aeth i Ysgol Gyfun Llangefni. Symudodd i Gaerdydd yn yr 1980au i weithio fel athrawes.[1]
Gyrfa Golygu
Mae Siw wedi actio ar lwyfan a theledu ers yr 1980au. Roedd ei gwaith cynnar ar deledu yn cynnwys y rhaglen blant Ffalabalam a'r rhaglen gomedi Heno Heno.[2]
Daeth yn adnabyddus iawn am chwarae rhan y cymeriad Kath Jones yn Pobol y Cwm rhwng 1993 a 2007. Dychwelodd i'r gyfres yn Ionawr 2017.
Mae hi'n un o'r actorion craidd sydd wedi cydweithio gyda Caryl Parry Jones ar nifer o gyfresi comedi ar S4C ers yr 1980au a serennodd yn y ffilmiau teledu Steddfod Steddfod a Ibiza, Ibiza.
Bu'n chwarae rhan Gemma Haddon yn y gyfres ddrama Gwaith/Cartref ac enillodd wobr Actores Gorau yng nghwobrau BAFTA Cymru 2014 am ei phortread o'r cymeriad.[3]
Cyfeiriadau Golygu
- ↑ Cofio; Adalwyd ar 2015-12-09
- ↑ Cofnod Asiant Archifwyd 2016-03-07 yn y Peiriant Wayback.; Adalwyd ar 2015-12-09
- ↑ British Academy Cymru Awards Winners in 2014. BAFTA Cymru (26 Hydref 2014). Adalwyd ar 18 Awst 2016.
Dolenni allanol Golygu
- Siw Hughes ar wefan Internet Movie Database
- Siw Hughes ar Twitter