Samhain
Mae Samhain (ynganiad Cymraeg: Saw-în) yn ŵyl Geltaidd a ddethlir ar 31 Hydref tan 1 Tachwedd o fewn diwylliannau Celtaidd. Mae'n ŵyl gynhaeaf gyda'i gwreiddiau hynafol mewn amldduwiaeth Geltaidd.
Samhain | |
---|---|
Hefyd a elwir |
Samhuinn (Gaeleg) Sauin (Manaweg) |
Dethlir gan |
Y Gwyddelod, yr Albanwyr, a'r Cymry Neo-baganiaid (Adluniadwyr Celtaidd, Wiciaid) |
Dechrau |
Hemisffer y Gogledd: Machlud haul, 31 Hydref Hemisffer y De: Machlud haul, 30 Ebrill |
Gorffen |
Hemisffer y De: Machlud haul, 1 Tachwedd Hemisffer y De: Machlud haul, 1 Mai |
Dathliadau |
Coelcerthi Darogan Hercian am afalau Feasting |
Cysylltir â | Gŵyl Calan Gaeaf / Halloween, Dydd Gŵyl yr Holl Saint, |
Golwg cyffredinol
golyguMarciwyd Samhain diwedd o'r cynhaeaf, y diwedd o'r "hanner golau" o'r flwyddyn a dechrau o'r "hanner tywyll" o'r flwyddyn. Dathlwyd yn draddodiadol dros sawl diwrnod, a chred llawer o ysgolheigion mai dechrau'r flwyddyn y Celtiaid oedd hi.[1][2][3] Mae rhai elfennau o Ŵyl y Marw ganddi, a chredodd y Celtiaid fod y llen rhwng y byd hwn a'r arallfyd yn denau yn ystod yr ŵyl hon. Roedd coelcerthi'n symbol mawr yn ystod y dathliadau; fyddai pobl a da byw redeg rhwng dwy goelcerth fel defod lanhau, a thaflir esgyrn o dda bwy sydd wedi marw i mewn i'r fflamau er mwyn cael gwared â lwc ddrwg.[4]
Roedd r arfer o wisgo gwisgoedd a masgiau Celtaidd yn gais i gopïo ysbrydion neu eu tawelu. Yn yr Alban, dynwaredwyd y meirw gan ddynion ifanc gydag wynebau mygydog neu wynebau tywyll, gan wisgo mewn gwyn.[5][6] Defnyddiwyd Samhnag - maip wedi'u cafnu allan a cherfio ag wynebau i wneud llusernau - i wardio yn erbyn niweidiol ysbrydion.[6]
Daeth yr ŵyl Geltaidd yn gysylltiedig â Dydd Gŵyl yr Holl Saint, dathliad Cristnogol, sydd wedi dylanwadu'n fawr iawn ar arferion seciwlar sydd bellach yn gysylltiedig gyda Chalan Gaeaf. Dethlir Samhain gŵyl grefyddol gan rai Neo-baganiaid o hyd.[2][7]
Yng Ngâl, mae cyfeiriad at Samonios ar Galendr Coligny. Parhaodd yr ŵyl i fod yn un bwysig yn Iwerddon yn y Canol Oesoedd, gyda chyfarfod ar Fryn Tara a oedd yn parhau am dridiau.
Ar ŵyl Samhain, roedd ffiniau rhwng y byd hwn a'r byd arall (yr Arallfyd) yn teneuo, neu'n diflannu. Mae hwn yn syniad sy'n parhau i raddau mewn rhai o arferion dathlu Gŵyl Calan Gaeaf, a hefyd yr ŵyl grefyddol Gŵyl yr Holl Eneidiau (Saesneg: All Hallows' Eve). Yng Ngwyddeleg a Gaeleg yr Alban, gelwir Gŵyl Calan Gaeaf yn Oíche/Oidhche Shamhna a Samhain, sydd hefyd yn fis Tachwedd yn yr Wyddeleg ac an t-Samhain yng Ngaeleg yr Alban.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Chadwick, Nora (1970) The Celts Llundain, Penguin. ISBN 0-14-021211-6 tud. 181: "Samhain (1 November) was the beginning of the Celtic year, at which time any barriers between man and the supernatural were lowered".
- ↑ 2.0 2.1 Danaher, Kevin (1972) The Year in Ireland: Irish Calendar Customs Dulyn, Mercier. ISBN 1-85635-093-2 tud.190-232
- ↑ McNeill, F. Marian (1961, 1990) The Silver Bough, Cyf. 3. William MacLellan, Glasgow ISBN 0-948474-04-1 tud.11
- ↑ O'Driscoll, Robert (ed.) (1981) The Celtic Consciousness Efrog Newydd, Braziller ISBN 0-8076-1136-0 tud.197-216: Ross, Anne "Material Culture, Myth and Folk Memory" (on modern survivals); tud.217-242: Danaher, Kevin "Irish Folk Tradition and the Celtic Calendar" (on specific customs and rituals)
- ↑ Campbell, John Gregorson (1900, 1902, 2005) The Gaelic Otherworld. Edited by Ronald Black. Birlinn Ltd. ISBN 1-84158-207-7 pp.559-62
- ↑ 6.0 6.1 Bettina Arnold – Halloween Lecture: Halloween Customs in the Celtic World. Halloween Inaugural Celebration. Center for Celtic Studies (2001-10-31).
- ↑ Hutton, Ronald. The Pagan Religions of the Ancient British Isles: Their Nature and Legacy. Oxford, Blackwell, tud. 327–341. ISBN 0-631-18946-7