Erfinen
Erfinen | |
---|---|
Yr erfinen neu'r feipen; luosog: erfin neu faip. | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
Ddim wedi'i restru: | Rosidau |
Urdd: | Brassicales |
Teulu: | Brassicaceae |
Genws: | Brassica |
Rhywogaeth: | B. rapa |
Amrywiad: | B. rapa var. rapa |
Enw trienwol | |
Brassica rapa var. rapa L. |
Planhigyn yw meipen neu erfinen yn ne Cymru (Lladin: Brassica rapa; Saesneg: Turnip); sydd a'i wreiddyn yn cael ei fwyta gan ddyn ac anifail. Bwyteir rhai 10 – 20 cm gan anifeiliaid (hyd at 1 Kg o ran pwysau), er bod yn well gan ddyn ei fwyta'n feddalach ac yn felysach - pan fo tua 8 – 10 cm. Mae'r tu fewn yn wyn. Gwyn hefyd yw'r rhan allan sydd o dan y pridd (heb haul) er bod yr 1 – 5 cm uchaf naill ai yn lliw coch, porffor neu wyrdd. Mae'r dail hefyd yn fwytadwy a gwneir hynny'n aml yn yr Unol Daleithiau.
Dywedir mai o Rwsia y daw'r feipen yn wreiddiol a'i fod yn perthyn i deulu'r mwstard.[1]
Rhinweddau meddygol
golyguCeir llawer o brotin a Fitamin C yn y gwreiddyn ond mae dail y feipen yn llawn o: Asid ffolig, Fitamin A, Fitamin C, Fitamin K a calsiwm. Gellir defnyddio dŵr yr erfinen (y dŵr a ddefnyddir i'w ferwi) fel ffisig ar gyfer y llais neu ddolur gwddw; mae hefyd yn gymorth i glirio'r anwyd.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Gwefan 'Health-Care-Clinic
- ↑ Llysiau Rhinweddol gan Ann Jenkins, cyhoeddwyd gan Wasg Gomer, 1982.