Hwch (o rywogaeth baeddon neu foch) oruwchnaturiol yn llên gwerin Cymru a gysylltir â Nos Galan Gaeaf yw'r Hwch Ddu Gwta (Hwch Ddu Gota yn y De).

Yng Nghymru fe'i cysylltir yn bennaf â'r gogledd-orllewin, yn enwedig Ynys Môn, ond ceir traddodiadau amdani yng Nghlwyd a Morgannwg yn ogystal.

Yr arfer ar Nos Galan Gaeaf oedd cynneu coelcerthi mawr lle byddai pawb yn ymgynnull i wledda ac yfed a chael hwyl. Mae'n arfer sy'n deillio o gyfnod y Celtiaid a defodau sy'n gysylltiedig â gŵyl Samhain, a nodai ddechrau'r Flwyddyn Geltaidd (atgof gwan o hyn a geir yng nghoelcerthi Noson Guto Ffowc heddiw). Ond roedd yna ochr dywyll i'r miri. Credid bod yr Hwch Ddu Gwta yn ymrithio o wreichion olaf y goelcerth ac yn rhuthro ar ôl yr olaf i adael i'w bwyta.

Yn ardal Mynydd Hiraethog, Clwyd, byddai pawb yn ei heglu hi adref gan weiddi,

Adre', adre' am y cynta:
Hwch Ddu Gwta a gipio'r ola!

Roedd y traddodiad yn arbennig o gryf ym Môn, hyd yn oed yn hanner cyntaf y 19g. Cedwir un fersiwn o'r rhigwm a genid yno:

Hwch Ddu Gwta
A Ladi Wen
Heb ddim pen.
Hwch Ddu Gwta
A gipio'r ola.
Hwch Ddu Gwta
Nos G'lan Gaea,
Lladron yn dwad
Tan weu sana.

Yn Arfon a'r cylch credid bod yr Hwch Ddu Gwta yn eistedd ar ben y gamfa yn aros ei chyfle. Disgrifia'r hynafiaethydd a chasglwr llên gwerin John Jones (Myrddin Fardd) fel y byddai coelcerthi yn cael eu cynnau "ar uchelfannau amlwg" ac yna, "wedi i'r goelcerth losgi allan, a phan na byddai dim ond tywyllwch yn teyrnasu" byddai pawb yn gweiddi:

Hwch ddu gwta
Ar ben pob camfa
Yn nyddu a chardio
Bob nos G'langaua'.
Nos G'langaua'
Ar ben pob camfa,
Hwch ddu gwta
Gipio yr ola'.

Sonnir hefyd am "Ladi wen / ar ben bob pren", a "Bwbach ar bob camfa". Mae'r cyfeiriad at "nyddu a chardio" yn atgoffa dyn o'r darlun o dduwies Ffawd yn gweu Tynged.

Ar y Gororau roedd hi i'w gweld hefyd, gyda chynffon gron, yn ymdroelli ar ben y gamfa. O Forgannwg nid oes cofnod o enw'r Hwch Ddu, ond ceir rhigymau tebyg i'r uchod sy'n gorffen â'r geiriau,

Mae'n un o'r gloch,
Mae'n ddau o'r gloch,
Mae'n bryd i'r moch gael cinio!

Cyfeiriadau golygu

  • John Jones (Myrddin Fardd), Llên Gwerin Sir Gaernarfon (Caernarfon, 1908), d.g. Calan Gaea.
  • T. Gwynn Jones, Welsh Folklore and Folk-Custom (1930; arg. newydd 1979), tt. 148-49.

Gweler hefyd golygu