Sancsiynau economaidd
Cosbau masnachol ac ariannol a orfodir gan un wladwriaeth yn erbyn wladwriaeth arall, neu yn erbyn unigolyn, grŵp, neu weithredydd arall, yw sancsiynau economaidd. Hwn yw un o'r dulliau llymaf o wladweinyddiaeth economaidd, a ffordd bwysig o weithredu amcanion polisi tramor drwy amlygu ac arfer dylanwad a grym mewn cysylltiadau rhyngwladol. Maent yn cynnwys cyfyngiadau ar fasnach ryngwladol, gohirio cymorth tramor, embargo ar arfau, a rhewi asedau ariannol. Gallai'r fath fesurau gael eu cyflwyno gan un wladwriaeth ar ben ei hun, yn ddwyochrog, neu'n amlochrog.[1]
Awdurdodir sancsiynau economaidd amlochrog gan Siarter y Cenhedloedd Unedig mewn achos o ymosodiad milwrol neu fygythiad i heddwch a diogelwch rhyngwladol. Gorfodwyd sancsiynau gan y Cenhedloedd Unedig ar lywodraeth De Affrica yn ystod cyfnod apartheid, ac yn erbyn Saddam Hussein, Arlywydd Irac, yn sgil goresgyniad Coweit. Mae sancsiynau yn agwedd ddadleuol iawn o bolisi tramor. Mae nifer o bobl yn haeru eu bod yn aneffeithlon, ac yn anfoesol. Yn achos sancsiynau'r Cenhedloedd Unedig yn erbyn Irac yn y 1990au, cawsant effaith ddifethol ar boblogaeth y wlad.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Peter Lamb a Fiona Robertson-Snape, Historical Dictionary of International Relations (Lanham, Maryland: Rowman & Littlefield, 2017), tt. 102–03.