Whithorn
Tref yn sir Dumfries a Galloway yn ne-orllewin yr Alban yw Whithorn (Gaeleg: Taigh Mhàrtainn). Poblogaeth: 867 (2001). Mae'n gorwedd ar arfordir Galloway tua 10 milltir i'r de o Wigtown.
Adfeilion Capel Ninian, Priordy Whithorn | |
Math | tref, bwrdeistref fach |
---|---|
Poblogaeth | 780 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Dumfries a Galloway |
Gwlad | Yr Alban |
Cyfesurynnau | 54.735°N 4.416°W |
Cod SYG | S20000296, S19000325 |
Cod OS | NX445405 |
Cod post | DG8 |
Mae gan Whithorn hanes hir. Ystyr yr enw yw 'Y Tŷ Gwyn' (Eingl-Sacsoneg: Hwit Ærne), cyfeiriad at y ganolfan eglwysig a sefydlwyd yno gan Sant Ninian, yn ôl traddodiad. Daeth yn ganolfan pererindod o bwys.
Fel gweddill ardal Galloway, roedd Whithorn yn rhan o'r Hen Ogledd ac mae'n bosibl y bu'n rhan o deyrnas Rheged am gyfnod. Yna daeth dan reolaeth Brynaich Eingl-Sacsonaidd. Yn nes ymlaen bu'n rhan o Deyrnas Manaw a'r Ynysoedd. Codwyd priordy cadeiriol yno yn yr Oesoedd Canol sy'n adfail heddiw. Cedwir y casgliad pwysig o gerrig cerfiedig cynnar o'r priordy yn Amgueddfa Genedlaethol yr Alban: dyma'r casgliad mwyaf o'r cerrig Cristnogol hyn yn yr Alban.