Santes Gwladys

Santes Geltaidd

Santes o'r 6g oedd Gwladus ac un o 24 o ferched Brychan Brycheiniog.[1] Fe'i magwyd yng Ngarthmadrun, Powys.

Santes Gwladys
Ganwyd5 g Edit this on Wikidata
Aberhonddu Edit this on Wikidata
Bu farwGelli-gaer Edit this on Wikidata
Man preswylGelli-gaer Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaetharweinydd crefyddol Edit this on Wikidata
Blodeuodd5 g Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl29 Mawrth Edit this on Wikidata
TadBrychan Edit this on Wikidata
PriodGwynllyw Edit this on Wikidata
PlantMaches, Cadog, Cynidr Edit this on Wikidata

Priodas a phlant golygu

Priododd â Gwynllyw Filwr, teyrn Gwynllŵg (ardal rhwng afon Rhymni ac afon Wysg yng Ngwent). Bu Gwynllyw yn rhyfelgar a chreulon, ac yn ymosod ar ei gymdogion gan dwyn eu eiddo. Fel un o ferched Brycheiniog bu ganddi yr hawl i dewis ei gŵr, a priododd hi yng Ngarth Madrun, ond bu rhai o'i theulu yn anfodlon oherwydd enw drwg Gwynllyw.[2] (Hwn, mae'n debyg sydd wedi arwain at y chwedl fod Gwynllyw wedi cipio Gwladus a'i gorfodi i'w briodi)[3] Cawsant pedwar mab (yn cynnwys Cadog, un o'r saint gwrywaidd mwyaf adnabyddus) a merch Maches.

Troedigaeth Gwynllyw golygu

Bu Gwladus yn ymdrechu am gyfnod maeth i troi Gwynllyw yn Gristion. Ar ôl i Gwladus, ac nes ymlaen ei phlant hefyd, gweddio yn daer am flynyddoedd daeth Gwynllyw yn Gristion.[2] Ar ôl ei dröedigaeth, ymgartrefodd y ddau ger Casnewydd. Arferent yndrochi yn noethlymun yn ffynnon Gwladus sydd yn awr yng Ngerddi plas Tredegar. Adeiladwyd baddondy dros y safle yn 1719 a gelwir y ffynnon heddiw yn "Ffynnon yr Arglwyddes" Dros amser ychwanegodd at eu hanes trwy honni eu bod hwy wedi ymdrochi yn afon Wysg, haf a gaeaf, gan gerdded dros filltir i'r afon yn noethlymun. Penderfynnodd Gwladus a Gwynllyw gwahanu ac aeth y ddau i sefydlu cymunedau Cristnogol ar wahan.

Gwylmabsant: 29 Mawrth.[4]

 
Capel Gwladys

Capel Gwladys golygu

Ar ôl iddynt gwahanu aeth Gwladus i Bencarn a sefydlodd cymuned Cristnogol neu llan yno. Wedyn sefydlodd "Capel Gwladus" ger Gelli-gaer, lle ceir "Capel Gwladys" a lle cafwyd hyd i'w charreg fedd, gyda chroes Geltaidd arni. Saif Capel Gwladys (ST12499929) oddeutu 3 milltir (4.5 km) ar hyd y ffordd Rufeinig, filltir o Fargoed.[5][6] I'r Oesoedd Canol mae'r seiliau'n perthyn a gosodwyd wal fodern i ddangos eu hamlinell; hyd yma ni chafwyd hyd i olion cyn yr Oesoedd Canol, ar wahân i'r garreg fedd a symudwyd i Eglwys Sant Cadog, Gelli-gaer. Ceir croes Geltaidd fodern oddi mewn i'r waliau i ddangos safle'r allor a cheir hefyd garreg fodern gyda'r geiriau: "Capel Gwladys circa 450AD".

Sefydlodd nifer o eglwysi wedi cysegru i Gwladus a Gwynllyw yng Ngwent ond dros y canrifoedd gollwngodd yr enw Gwladus oddi wrth rhai ohonynt. Bu farw Gwladus yn gynnar yn y chweched canrif.[3]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Thornley T. Jones, "The daughters of Brychan: their importance in the history of Breconshire", Brycheiniog 17 (1976/77): 17–58
  2. 2.0 2.1 R. Tomos, "Merched Brychain", Benywdod a Duw (1996) (cylchgrawn)
  3. 3.0 3.1 Ray Spencer, A Guide to the Saints of Wales and the West Country (Llanerch, 1991)
  4. T. D. Breverton, A Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndwr, 2000)
  5. Gwefan Cadw; Archifwyd 2014-05-29 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 28 Mawrth 2015
  6. Gwefan Coflein; Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 28 Mawrth 2015

Dolenni allanol golygu