Sefydliad Cymunedol Cymru

corff sy'n dosbarthu grantiau i grwpiau gwirfoddol, Cymreig a lleol

Mae Sefydliad Cymunedol Cymru (Saesneg: Community Foundation Wales) yn dyfarnu grantiau gwerth dros £2.6 miliwn y flwyddyn i elusennau a grwpiau cymunedol ar draws Cymru.

Sefydliad Cymunedol Cymru
Enghraifft o'r canlynolsefydliad, Gwirfoddoli Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1999 Edit this on Wikidata
PencadlysCaerdydd Edit this on Wikidata
GwladwriaethCymru Edit this on Wikidata

Strwythur golygu

Crëwyd y Sefydliad yn 1999 ac mae ganddi dros 30,000 o grwpiau cymunedol ac elusennau yng Nghymru sy’n gweithio i wella a datblygu eu cymunedau gan ddefnyddio eu menter eu hunain i ddiwallu anghenion lleol. Mae'n gweithio gyda chefnogwyr a phartneriaid hael i ddod o hyd i brosiectau lleol sy’n helpu i atgyfnerthu cymunedau ar hyd a lled Cymru drwy eu hariannu.

Grantiau golygu

Mae grantiau gan y Sefydliad yn cael eu cyflwyno ar gyfer mentrau lleol, gwirfoddol. Gwneir y gwaith gwirfoddol lleol fel arfer o fewn cyllideb gyfyngedig neu yn wirfoddol, felly mae'r Sefydliad yn canolbwyntio ar ddod o hyd i brosiectau a sefydliadau, deall beth y maent yn ceisio ei gyflawni a chefnogi eu gwaith.

Cronfa Gwytnwch Coronafirws golygu

Cododd fersiwn newydd y gân Dwylo Dros y Môr, a recordiwyd yn 2020, bres ar gyfer Sefydliad Cymunedol Cymru, ac yn benodol ar gyfer eu Cronfa Gwytnwch Coronafirws[1]. Perfformiwyd y gân gyntaf ym 1985 er mwyn codi arian i ddioddefwyr newyn Ethiopia.[2] Ymhlith y cantorion yn 2020 roedd amrywiaeth o artistiaid Cymraeg cyfoes gan gynnwys Rhys Gwynfor, Elin Fflur, Alys Williams, Ifan Pritchard (Gwilym), Heledd Watkins (HMS Morris), Sorela, Adwaith, Casi Wyn, Glain Rhys, Gwilym Bowen Rhys, Kizzy Crawford, a Ffion Emyr.

Pencadlys golygu

Mae pencadlys y Sefydliad yn St. Andrews House, 24 St. Andrews Crescent, canol Caerdydd.[3]

Dolenni golygu

Cyferiadau golygu

  1. "Dwylo Dros y Môr 2020". Community Foundation Wales. Cyrchwyd 2021-10-05.
  2. https://www.youtube.com/watch?v=rGOFjK0zaoI
  3. https://communityfoundationwales.org.uk/cy/hafan/