HMS Morris
Grŵp "pop psycho-pop electronig" o Gymru yw HMS Morris.[1] Yr aelodau yw Heledd Watkins (prif leisydd) a Sam Roberts, maent yn cyfansoddi caneuon yn y Gymraeg a'r Saesneg. Mae nifer o'u caneuon ar label Recordiau Bubblewrap. Fe'i lleolir yn Y Rhâth, Caerdydd.[2] Noder nad llong yw 'HMS Morris'.
Enghraifft o'r canlynol | band |
---|---|
Gwlad | Cymru |
Label recordio | Bubblewrap Records |
Genre | electropop |
Gwefan | https://hmsmorris.com/ |
Cefndir a chyffredinnol
golyguMae HMS Morris yn grŵp celf-roc ddwyieithog o Gymru. Roedd leinyp gwreiddiol y band yn cynnwys Heledd Watkins (llais, gitâr flaen, syntheseinydd), Sam Roberts (bas, syntheseinydd, llais) a Wil Roberts (drymiau)[3]. Maent wedi bod ar daith ac yn recordio ers 2015, ac fe'u cefnogir gan y Bubblewrap Collective yng Nghaerdydd. Enillodd eu 2 albwm hyd llawn hyd yn hyn ('Interior Design' 2016 a 'Inspirational Talks' 2018, enwebiadau ar gyfer Gwobr Gerddoriaeth Gymreig, ac fe'u disgrifiwyd yn amrywiol fel "cerddoriaeth bop arloesol, blaengar" (Earthly Pleasures), "cerddoriaeth rhyfedd a hyfryd" (Electronic Sound) a "sain aml-ddimensiwn sy'n trapio ar draws rhanbarthau sain heb eu harchwilio hyd yma" (Clash). Maen nhw wedi mynd â'u cerddoriaeth i Toronto, Montreal, Osaka, Tokyo a Kyoto.[4]
Caneuon adnabyddus
golyguYmhlith eu caneuon adnabyddus mae Myfyrwyr Rhyngwladol a ryddhawyd yn 2020 ar label Recordiau Bubblewrap.[5] Ffilmiwyd y fideo yn Ffordd y Plwca Halog (City Road), a pharc Grangemoor yn Grangetown, Caerdydd.[6] Yn ôl Heledd mewn sgwrs gyda Y Selar ym mis Medi 2020 mae'r gân yn delio a sawl pwynt, "Mae’r sengl newydd yn dwyn dylanwad o amgylchedd y grŵp yn y Brifddinas. Mae hwb creadigol HMS Morris yn swatio ger un o strydoedd mwyaf amlddiwylliannol Caerdydd, sef City Road.
Mae’r ardal yn gawl gosmopolitaidd o fwytai, bariau shisha a barbwyr, sydd yn ddiweddar wedi ei gorlethu gan neuaddau preswyl posh i fyfyrwyr.
Y broblem enbyd hon yn y ddinas oedd yr ysgogiad gwreiddiol i ‘Myfyrwyr Ryngwladol’, ond erbyn iddi galedu’n deimlad a sain pendant doedd hi ddim yn rant am neuaddau myfyrwyr bellach, ond yn hytrach yn fyfyrdod ar gymaint o le gwell fyddai’r byd petaen ni i gyd yn fyfyrwyr rhyngwladol." Yn fras, mae'r band yn teimlo bod gennym ni i gyd ddyletswydd gwleidyddol.[5] Ym Medi 2020, Myfyrwyr Rhynglwadol oedd eu cân a gafodd ei ffrydio fwyaf ar Spotify gyda dros 25,000 ffrydiad.
Disgograffi
golyguMae HMS Morris wedi rhyddhau amryw o ganeuon yn y Gymraeg a'r Saeneg fel senglau, EP ac almbymau.[7]
Albwm
golygu- 'Interior Design' - 2018
- 'Inspirational Talks' - 2016
- 'I grind my teeth
EP
golygu- ‘Pastille’ EP,Rhagfyr 2020 [8]
Senglau
golygu- 'Morbid Mind' - 2017
- 'Phenomenal Impossible' a 'Cyrff' - 2018
- 'Mother' a 'Corff' - 2018
- 'Illiminate Me' - 2018
- 'Babanod' - 2020
- ‘Partypooper’ - sengl, Tachwedd 2020
- ‘Babanod’ sengl, Chwefror 2020
- ‘Poetry’ - Ebrill 2020
- ‘Myfyrwyr Rhyngwladol’ - Medi 2020 [9]
- 'Cyrff'
Cyferiadau
golygu- ↑ "HMS Morris yn rhyddhau 'Poetry'". Y Selar. 8 Ebrill 2020.
- ↑ "HMS Morris yn fyw o gartref". Y Selar. 13 Mai 2020.
- ↑ "BBC Wales - Horizons - HMS Morris". BBC (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-10-04.
- ↑ https://hmsmorris.com/#about
- ↑ 5.0 5.1 "HMS Morris i ryddhau 'Myfyrwyr Rhyngwladol'". Y Selar. 8 Medi 2020.
- ↑ https://www.youtube.com/watch?v=YqIKYmuBNZk
- ↑ https://bubblewrapcollective.co.uk/artists/hms-morris/
- ↑ "Cyhoeddi dyddiad rhyddhau EP HMS Morris". Y Selar. 30 Hydref 2020.
- ↑ "Sengl newydd HMS Morris allan ddechrau Tachwedd". Y Selar. 21 Hydref 2020.