Janet Street-Porter
Newyddiadurwraig, golygydd, cyflwynydd a chynhyrchydd teledu o Loegr o dras Gymreig ydy Janet Vera Street-Porter (née Bull, ganwyd 27 Rhagfyr 1946), sy'n bersonoliaeth adnabyddus yn y cyfryngau. Bu'n olygydd The Independent on Sunday am ddwy flynedd cyn dod yn olygydd "at-large" yn 2002.[1] Mae ei acen de Llundain nodedig a'i dannedd wedi ei gwneud yn destun sbri nifer o ddigrifwyr.[2][3]
Janet Street-Porter | |
---|---|
Llais | Janet Street-Porter BBC Radio4 Desert Island Discs 23 Nov 2008 b00fkbrf.flac |
Ganwyd | Janet Vera Ardern 27 Rhagfyr 1946 Brentford |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, cyflwynydd teledu |
Priod | Frank Cvitanovich, Tony Elliott, Tim Street-Porter |
Gwobr/au | CBE |
Gwefan | http://www.janetstreetporter.com/ |
Bywyd cynnar
golyguGanwyd Street-Porter yn Brentford, Middlesex, yn ferch i Cherry Cuff Ardern (née Jones), oedd yn gweithio fel dynes cinio ysgol ac yn y gwasanaeth sifil fel cynorthwydd clerigol mewn swyddfa dreth.[4] Roedd hi'n Gymraes Gymraeg ac yn hanu o Benmaenmawr. Ei thad oedd Stanley W G Bull, peiriannydd trydanol a wasanaethodd fel uwch-sarsiant yn Royal Corps of Signals yn yr Ail Ryfel Byd. Ar y pryd, roedd ei thad dal yn briod i'w gŵr cyntaf, George Ardern, a ni briododd Stanley nes 1954, felly cofnodwyd ei chyfenw fel Ardern yn y cofnodion geni. Yn ddiweddarach cymerodd gyfenw ei thad.[4]
Roedd hi'n gyfnither lawn i Brynle Rees Parry, archifydd Sir Gaernarfon.[5]
Fe'i magwyd yn Fulham, Gorllewin Llundain a symudodd y teulu i Perivale, Llundain Fwyaf pan oedd yn 14 mlwydd oed. Byddai'r teulu yn mynd ar wyliau i dref enedigol ei mam, Llanfairfechan. Mynychodd Ysgol Ramadeg y Fonesig Margaret Tudor yn Parsons Green rhwng 1958 ac 1964 lle pasiodd 8 Lefel-O a 3 Lefel-A yn Saesneg, Hanes a Chelf. Cymerodd Lefel-A ym mathemateg pur hefyd ond ni phasiodd. Tra'n astudio lefelau-A, cafodd erthyliad anghyfreithlon.[6] Yna treuliodd ddwy flynedd yn yr Architectural Association School of Architecture, lle cyfarfu ei gŵr cyntaf, Tim Street-Porter.[7]
Gyrfa
golyguDisgynodd allan o'r coleg gan ganfod gwaith yn y cyfryngau. Wedi cyfnod byr gyda chylchgrawn merched Petticoat, ymunodd â'r Daily Mail ym 1969, lle daeth yn is-olygydd ffasiwn.[8] Daeth yn olygydd ffasiwn yr Evening Standard ym 1971.[7]
Pan ddechreuodd orsaf radio'r LBC ddarlledu ym 1973, cyd-gyflwynodd Street-Porter sioe ganol bore gyda'r colofnydd Fleet Street, Paul Callan.[9] Y bwriad oedd i gyferbynnu Callan trefol a Street-Porter cockney. Daeth eu hacenion yn adnabyddus i'r cynhyrchwyr fel "cut-glass" a "cut-froat". Bu rhithiant rhwng y ddau, gyda one-upmanship cyson yn denu gwrandawyr.
Yn gynnar ym 1975, daeth Street-Porter yn olygydd lawnsiad Sell Out, cangen o gylchgrawn Time Out Llundain, ynghyd a'i gyhoeddwr a'i hail ŵr Tony Elliott. Nid oedd y cylchgrawn yn llwyddiant.[10]
Teledu
golyguDechreuodd Street-Porter weithio ar y teledu ar LWT ym 1975, fel gohebydd i gychwyn, ar gyfres o raglenni wedi ei anelu at ieuenctid, gan gynnwys The London Weekend Show (1975–1979). Aeth ymlaen i gyflwyno sioe sgwrsio hwyr y nos, Saturday Night People (1978–1980), gyda Clive James a Russell Harty. Yn ddiweddarach cynhyrchodd Twentieth Century Box (1980–1982), a gyflwynwyd gan Danny Baker.[7]
Street-Porter oedd golygydd rhaglen arloesol Channel 4, Network 7 o 1987, yr un flwyddyn ag apwyntwyd hi'n bennaeth erthyglau ieuenctid ac adloniant BBC 2 gan Alan Yentob. Hi oedd yn gyfrifol am DEF II, a chomisiynodd Rapido, Red Dwarf a Rough Guide.[11] Enillodd ei rhaglen Network 7 BAFTA ar gyfer y graffeg ym 1988.
Ym 1992, darparodd y stori ar gyfer The Vampyr: A Soap Opera, addasiad y BBC o opera Heinrich August Marschner, Der Vampyr, a gynhwysodd libreto newydd gan Charles Hart.
Ni anwylodd ymdriniaeth Street-Porter o'i gwaith hi at ei beirniaid, a wrthwynebodd ei hynganiad gan gwestiynu ei haddasrwydd fel dylanwad ar ieuenctid Prydain.[11] Yn ei blwyddyn olaf gyda'r BBC, daeth yn bennaeth comisiynu annibynnol. Gadawodd y BBC i weithio gyda'r Mirror Group Newspapers ym 1994, gan ddod yn gyfarwyddwr rheoli ar y cyd o sianel L!VE TV gyda Kelvin MacKenzie.[11] Gadawodd y swydd ar ôl pedwar mis.[7] Ym 1996, sefydlodd Street-Porter ei chwmni cynhyrchu ei hun.
Mae wedi ymddangos ar nifer o raglenni teledu realiti, gan gynnwys Call Me a Cabbie a So You Think You Can Teach lle bu'n ceisio gweithio fel athrawes ysgol gynradd.[12] Bu'n gystadleuydd yng nghyfres I'm a Celebrity... Get Me Out of Here! ITV, gan orffen yn bedwerydd.
Mae Street-Porter wedi cyfweld â nifer o bobl fusnes ac eraill ar gyfer Bloomberg TV.[12]
Enwebwyd Street-Porter ar gyfer gwobr "Mae West Award for the most outspoken woman in the industry" yn 2000, yng ngwobrau Merched mewn Ffilm a Theledu, Carlton Television.[7]
Yn 2006, ymddangosodd yn rheolaidd ar raglen The F-Word y cogydd Gordon Ramsay, lle bu'n ohebydd y maes. Ei swydd hi oedd canfod bwydydd anarferol a denu pobl i'w bwyta. Yn y drydedd gyfres achosodd ymryson wedi iddi geisio gweini cig ceffyl yn Cheltenham Racecourse. Ataliwyd hi gan yr heddlu, a ddisgrifiodd y gamp fel un andros o brofoclyd, a gorfodwyd iddi weini'r bwyd rhywle arall. Daeth Ramsay ei hun yn darged i brotestwyr hawliau anifeiliaid, a adawodd tunnell o dail tu allan i'w fwyty, Claridge's.[13]
Yn 2007, serenodd Street-Porter ar raglen deledu realiti ITV2, Deadline, fel golygydd llym a oedd yn gweithio gyda tîm o enwogion oedd yn chwarae ar fod yn ohebwyr a chynhyrchu cylchgrawn clebran wythnosol. Roedd rhaid i'r enwogion oddef lymder tafod Street-Porter tra bu'n penderfynu pwy i ddiswyddo pob wythnos.[14]
Yn 2008, roedd Street-Porter yn westai Celebrity Big Brother Hijack.
Mae ei llais unigryw wedi ei gwneud yn ffefryn ymysg dynwaredwyr. Mae Pamela Stephenson wedi gwatwar Street-Porter ar Not the Nine O'Clock News (1979–82), ac roedd Kenny Everett hefyd wedi ei dynwared.
Gwaith papurau newydd
golyguDaeth Street-Porter yn olygydd yr Independent on Sunday ym 1999. Er i'w beirniaid ei dirmygu, cynyddodd gylchrediad y papur i 270,460, a oedd yn gynnydd o 11.6%.[7] Yn 2002, daeth yn olygydd "at-large", gan ysgrifennu colofn rheolaidd. Mae hefyd wedi ysgrifennu ar gyfer amryw o bapurau newydd a chylchgronau eraill.
Colofn ar Ian Tomlinson
golyguYn dilyn marwolaeth Ian Tomlinson yn 2009, cysegrodd Street-Porter ei cholofn yn yr Independent on Sunday i baentiad o Tomlinson fel "dyn wedi ei drafferthu gyda cryn dipyn o broblemau" ("troubled man with quite a few problems"):
“ | "Knowing that he was an alcoholic is critical to understanding his sense of disorientation and his attitude towards the police, which might on first viewing of the video footage, seem a bit stroppy."[15] | ” |
Pryfociodd hyn ymateb negyddol gan y darllenwyr a'i chyhuddodd o geisio pardduo enw da Tomlinson er mwyn rhyddhau'r heddlu o fai. Gwadodd Street-Porter mai dyma oedd ei bwriad.[15]
Gweithgareddau eraill
golyguBu Street-Porter yn lywydd y Ramblers' Association am ddwy flynedd rhwng 1994 ac 1996. Cerddodd ar draws Brydain o Dungeness yng Nghaint i Gonwy yng Nghymru yng nghyfres Coast to Coast ym 1998.[7] Cerddodd hefyd mewn llinell syth o Gaeredin i Lundain ym 1998, ar gyfer cyfres deledu a'i llyfr As the Crow Flies.[16] Ym 1994, for the documentary series The Longest Walk, cyd-deithiodd gyda'r cerddwraig pellter-hir, Ffyona Campbell, ar y darn olaf o'i thaith cerdded oamgylch y byd.
Ym 1987, comisiynodd Street-Porter CZWG Architects i ddylunio tŷ. Mae'r adeilad yn sefyll allan ymysg tai Sioraidd Clerkenwell, gyda'r tu allan ôl-fodern, sy'n ein atgoffa fymryn o Broadcasting House.
Ymddangosodd fel rhodiwr mewn sîn clwb nos yn Blowup ym 1966. Yn 2003, ysgrifennodd a chyflwynodd sioe un-dynes yng Ngŵyl Caeredin, sef All the Rage.[1] Cyhoeddodd lyfr hunangofianol, Baggage, yn 2004, am ei phlentynod yn Llundain dosbarth-gweithio. Mae hefyd ddilyniant i'r llyfr hwn, sef Fallout.[1] Cyhoeddodd hefyd Life's Too F***ing Short, lle mae'n cyflwyno, yn ei geiriau ei hun, sut i gael beth rydych eisiau allan o fywyd gan fynd ar y trywydd mwyaf uniongyrchol.
Mae Janet Street-Porter yn adnabyddus am siarad yn ddi-flewyn ar dafod am ystod eang o bynciau, mae'n ysgrifennu erthyglau hreolaidd ar gyfer y Daily Mail. Yn 2009, ysgrifennodd erthygl gyda'r teitl "Why I hate Facebook", yn datgan fod ystafelloedd sgwrs ar y we yn "druenus" ac yn rhybuddio rhag peryglon twyll, rhwydo, gwastrodio a datgan fod rhwydweithio cymdeithasol yn drosedd yn erbyn preifatrwydd.[17]
Er gwaethaf (neu efallai oherwydd) iaith gyntaf ei mam, mae hi wedi bod yn ddilornus iawn o'r Gymraeg ar adegau, er iddi ymuno â dosbarth dysgu'r Gymraeg ar gyfer rhaglen S4C.
Bywyd personol
golyguMae Street-Porter yn ffrind i'r model Elizabeth Hurley, a dawnsiodd gyda Hurley a chwech o eraill yn nathliadau Indiaidd y noson cyn priodas Hurley ac Arun Nayar yn 2007.[18]
Mae Street-Porter wedi priodi bedair gwaith:
- Tim Street-Porter - ffotograffydd[7] (1967–1975)
- Tony Elliott - Time Out (1975–1977)
- Frank Cvitanovich - gwneuthurwr ffilmiau Canadiaidd, 19 yn hŷn na hi (1979–1981)
- David Sorkin - priodias a barhaodd 14 mis, gan ddechrau pan oedd ef yn 27 oed.
Erbyn hyn mae mewn perthynas gyda'r dyn busnes bwytai, Peter Spanton.
Mae'n byw ar hyn o bryd yn Thurlton[19] yn Norfolk, Caint a Llundain. Cyn hynny roedd ganddi dŷ yn Nidderdale, Swydd Efrog.[20][21]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 Deadline: Janet Street-Porter. ITV. Adalwyd ar 23 Ebrill 2007.
- ↑ Pamela Stepenson describes playing Janet Street Porter. The Guardian (30 Medi 2001).
- ↑ On being a victim of Kenny Everett and Spitting Image. London 24 (6 Mawrth 2008).
- ↑ 4.0 4.1 Janet Street-Porter (2004). Baggage – My Childhood. Headline. ISBN 0755312651.
- ↑ Gwybodaeth lafar oddi wrth ei chefnder.
- ↑ Generation '66, BBC Four, 31 July 2016
- ↑ 7.0 7.1 7.2 7.3 7.4 7.5 7.6 7.7 Janet Street-Porter. screenonline.org.uk. Adalwyd ar 27 Ebrill 2007.
- ↑ Janet Street-Porter: Sorry, I'm a shame free zone. Daily Mail. Adalwyd ar 6 Mai 2007.
- ↑ LBC. Media UK.
- ↑ Magazine launches & events 1975-89. Magforum.com.
- ↑ 11.0 11.1 11.2 Stuart Jeffries (6 Ebrill 2007). I am not an amateur. The Guardian. Adalwyd ar 23 Ebrill 2007.
- ↑ 12.0 12.1 TV & Radio. Janet Street-Porter.
- ↑ The night Janet Street-Porter ate horse meat. Daily Mail.
- ↑ Deadline. ITV.
- ↑ 15.0 15.1 Janet Street-Porter (12 April 2009). Tomlinson was no saint, but he deserved better. The Independent on Sunday.
- ↑ Janet Street-Porter (1998). As the Crow Flies. Llundain: Metro Books. ISBN 978-1900512718
- ↑ Janet Street-Porter (6 Chwefror 2009). Why I hate Facebook. Daily Mail.
- ↑ Janet Street-Porter (11 Mawrth 2007). So there I was dancing for Liz, the biggest by three dress sizes.... The Independent. Adalwyd ar 6 Mai 2007.
- ↑ Baldwin, Louisa. "'It's exactly like The Archers' – Janet Street-Porter reveals she has moved to Norfolk". Eastern Daily Press (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-08-10. Cyrchwyd 2019-08-12.
- ↑ "The Dales: A lifelong romance – UK – Travel". The Independent. 2005-11-06. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-02-21. Cyrchwyd 2015-02-21.
- ↑ Lynn Barber. "Janet Street-Porter tells Lynn Barber that she has no intention of mellowing with age | Media". The Guardian. Cyrchwyd 2015-02-21.
Dolenni allanol
golygu- Janet Street-Porter ar wefan Internet Movie Database
- Gwefan bersonol Janet Street-Porter
- Janet Street-Porter, Screenonline, British Film Institute
Rhagflaenydd: Kim Fletcher |
Golygydd The Independent on Sunday 1999–2002 |
Olynydd: Tristan Davies |